Data misol sy'n ymdrin â phynciau megis cyflogaeth, mynegeion, allforion ac enillion.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Trosolwg o'r farchnad lafur
Prif ddangosyddion y farchnad lafur, y 3 mis hyd at fis Medi 2020
Mae’r prif ddangosyddion llafurlu sydd wedi’u hamcangyfrif o’r Arolwg o’r Llafurlu yn rhoi arwydd o sut mae’r pandemig coronafeirws (COVID-19) yn effeithio’r llafurlu. Gellir hefyd defnyddio’r ffynonellau data eraill, megis nifer y gweithwyr cyflogedig a gyflwynir yn nes ymlaen yn y penawd hwn, i roi darlun mwy amserol a chyflawn.
Cyfradd cyflogaeth
Cymru: Roedd y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn 72.1%, i lawr 2.5 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 1.8 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Dyma’r gostyngiad chwarterol mwyaf yn y gyfradd cyflogaeth yng Nghymru ers i gofnodion ddechrau yn 1992.
DU: Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y DU yn 75.3%, i lawr 0.6 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 0.8 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Cyfradd diweithdra
Cymru: Roedd y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn 4.6%, i fyny 1.9 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 0.8 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Dyma’r cynnydd chwarterol mwyaf yn y gyfradd diweithdra yng Nghymru ers i gofnodion ddechrau yn 1992.
DU: Roedd y gyfradd diweithdra’r DU yn 4.8%, i fyny 0.7 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 0.9 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Cyfradd anweithgarwch economaidd
Cymru: Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn 24.4%, i fyny 1.1 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 1.4 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt
DU: Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y DU yn 20.9%. Nid yw hyn wedi newid ers y chwarter ac mae gostyngiad o 0.1 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Enillion misol gweithwyr cyflogedig o Wybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cyhoeddi data ar gyfer Cymru am weithwyr sydd ar gyflogres, tâl cymedrig, tâl yn ei grynswth ac amcangyfrifon un mis ar gyfer tâl canolrifol.
Gweithwyr cyflogedig
- Mae nifer y gweithwyr cyflogedig wedi cynyddu yn gyffredinol yn ddiweddar, ond wedi gostwng yn ystod y pandemig.
- Bu gostyngiad yn nifer y gweithwyr cyflogedig yn ystod y pandemig i 1.23 miliwn ym mis Gorffennaf, gostyngiad o 31,000 o bobl (2.5%) o gymharu â mis Chwefror 2020. Mae nifer y gweithwyr cyflogedig wedi cynyddu ychydig ers mis Awst, 2020, ond yn parhau i fod tipyn yn is na ffigwr mis Chwefror.
- Mae amcangyfrifon cynnar ar gyfer Hydref 2020 yn dangos bod 1.23 miliwn o weithwyr cyflogedig yng Nghymru. Roedd hyn yn ostyngiad o 28,300 (2.2%) o gymharu â mis Chwefror 2020, ond yn gynnydd mân o 2,700 (0.2%) o gymharu â’r pwynt isaf ym mis Gorffennaf.
Tâl canolrifol
- Mae tâl canolrifol wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf ond wedi gostwng yn ystod Mawrth ac Ebrill 2020.
- Yng Nghymru, roedd y tâl canolrifol yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig ers Gorffennaf 2020.
- Mae amcangyfrifon cynnar ar gyfer Hydref 2020 yn dangos bod y tâl canolrifol yng Nghymru yn £1,816. Yn fras mae hyn yn debyg i’r mis blaenorol ac yn gynnydd o £79 o fis Chwefror 2020.
- O gymharu â’r un mis y flwyddyn flaenorol, gwelodd Gymru gynnydd yn y tâl misol o 6.1%; y twf cyflymaf ar draws 12 o siroedd a rhanbarthau y DU.
Adroddiadau
Ystadegau economaidd allweddol: Tachwedd 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.