Data misol sy'n ymdrin â phynciau megis cyflogaeth, mynegeion, allforion ac enillion.

Mae amcangyfrifon yr Arolwg o'r Llafurlu ar gyfer y 3 mis hyd at fis Ionawr 2019

Cyfradd cyflogaeth

Siart sy’n dangos y ganran o'r boblogaeth 16-64 oed sy'n cael eu cyflogi yng Nghymru a'r DU. Mae'r gyfradd cyflogaeth yn y DU yn gyffredinol yn uwch nag yng Nghymru dros y 10 blynedd diwethaf. Mae’r gyfradd wedi cynyddu’n gyson yn y DU dros y 4 blynedd diwethaf ond mae wedi amrywio yng Nghymru.  Mae'r gyfradd cyflogaeth yng Nghymru wedi amrywio dros y cyfnod hwn ond wedi cynyddu yn y chwarter diweddaraf.

  • Cymru: roedd y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn 76.0 y cant, i fyny 0.8 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 3.4 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
  • DU: roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y DU yn 76.1 y cant i fyny 0.4 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 0.8 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Cyfradd diweithdra

Siart sy’n dangos canran y bobl economaidd weithgar 16 oed a throsodd sy'n ddi-waith yng Nghymru a'r DU. Mae'r gyfradd diweithdra wedi gostwng yng Nghymru ac yn y DU dros y 4 blynedd diwethaf.

  • Cymru: roedd y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn 4.3 y cant, i lawr 0.2 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 0.5 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
  • DU: roedd y gyfradd diweithdra’r DU yn 3.9 y cant, i lawr 0.1 pwynt canran ers y chwarter blaenorol l ac i lawr 0.4 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Cyfradd anweithgarwch economaidd

Siart sy’n dangos y ganran o'r boblogaeth 16-64 oed sy'n economaidd anweithgar yng Nghymru a'r DU. Mae’r gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn uwch nac yn y DU dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae’r gyfradd wedi gostwng yn gyson yn y DU dros y 4 blynedd diwethaf ond mae wedi amrywio yng Nghymru.   Mae'r gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru wedi amrywio dros y cyfnod yma, ond wedi gostwng yn y chwarter diweddaraf.

  • Cymru: roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn 20.5 y cant, i lawr 0.7 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 3.1 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
  • DU: roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y DU yn 20.7 y cant, i lawr 0.3 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 0.5 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Adroddiadau

Ystadegau economaidd allweddol, Mawrth 2019
, Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Cais am fformat gwahanol. Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digital@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Ffôn: 0300 025 5050

Cyfryngau

Ffôn: 0300 025 8099