Neidio i'r prif gynnwy

Data misol sy'n ymdrin â phynciau megis cyflogaeth, mynegeion, allforion ac enillion.

Nodyn ar ailbwysoli

Ar 13eg Hydref 2020, bu i ONS ailbwysoli yr Arolwg o’r Farchnad Lafur ar gyfer y cyfnodau Ionawr i Fawrth 2020 i Fai i Fehefin 2020.

Mae’r pandemig COVID-19 wedi golygu bod cyfweliadau Arolygon y Farchnad Lafur wedi newid o fod wyneb yn wyneb yn bennaf i gyfweliadau ffôn yn gynharach eleni.  Arweinodd hyn at newid yn y mathau o aelwydydd oedd yn ymateb i’r arolwg, ac i fod yn sampl llai cynrychioladol o bosibl o ran y ddeiladaeth dai.  Mae’r arolwg felly wedi ei ailbwysoli fel bod dosbarthiad y ddeiliadaeth dai yr un â chyn y pandemig ym mis Mawrth.  Caiff hyn ei egluro’n fanwl mewn blog y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Er nad yw’r ailbwysoli wedi newid  tueddiad cyffredinol y data, mae wedi gostwng y gyfradd gyflogi ar gyfer Cymru.

Image
Graff llinell yn dangos y gyfradd gyflogaeth rhwng Ionawr a Mawrth 2019 a Mai i Orffennaf 2020. Ar gyfer mis Ionawr i fis Mawrth 2020 ymlaen, mae'n cymharu'r amcangyfrifon blaenorol o'r gyfradd gyflogaeth ag amcangyfrifon wedi'u hail-bwysoli. Mae'n dangos bod yr amcangyfrifon wedi'u hail-bwysoli yn gyffredinol is na'r amcangyfrifon blaenorol.

Prif ddangosyddion y farchnad lafur, y 3 mis hyd at fis Awst 2020

Er bod y cyfnod amser cyfan ar gyfer yr amcangyfrifon hyn o’r Arolwg o'r Llafurlu yn ymdrin â’r pandemig coronafeirws (COVID-19), mae ffynonellau data eraill, megis nifer y gweithwyr cyflogedig a gyflwynir yn nes ymlaen yn y penawd hwn, yn cynnig darlun mwy amserol a chyflawn o ran deall effaith COVID-19 ar yr economi.

Cyfradd cyflogaeth

Image
Siart sy’n dangos y ganran o'r boblogaeth 16-64 oed sy'n cael eu cyflogi yng Nghymru a'r DU. Mae'r gyfradd cyflogaeth yn y DU yn gyffredinol yn uwch nag yng Nghymru dros y 10 blynedd diwethaf. Mae'r gyfradd wedi cynyddu'n gyson yn y DU ond mae wedi gostwng yn raddol ers Rhagfyr-Chwefror 2020 Mae wedi amrywio yng Nghymru tra'n dilyn tuedd debyg. Mae wedi gostwng yn sydyn ers Ebrill-Mehefin 2020.

 

Cymru: Roedd y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn 72.7%, i lawr 1.5 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 1.5 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU: Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y DU yn 75.6%, i lawr 0.3 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 0.3 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Cyfradd diweithdra

Image
Siart sy’n dangos canran y bobl economaidd weithgar 16 oed a throsodd sy'n ddi-waith yng Nghymru a'r DU. Mae'r gyfradd diweithdra wedi gostwng yng Nghymru ac yn y DU dros y 4 blynedd diwethaf, ond mae wedi cynyddu dros yr ychydig fisoedd diwethaf

 

Cymru: Roedd y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn 3.8%, i fyny 1.0 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 0.4 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU: Roedd y gyfradd diweithdra’r DU yn 4.5%, i fyny 0.4 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 0.6 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Cyfradd anweithgarwch economaidd

Image
Siart sy’n dangos y ganran o'r boblogaeth 16-64 oed sy'n economaidd anweithgar yng Nghymru a'r DU. Mae’r gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn uwch nac yn y DU dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae’r gyfradd wedi gostwng yn gyson yn y DU dros y 4 blynedd diwethaf ond mae wedi amrywio yng Nghymru.

 

Cymru: Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn 24.4%, i fyny 0.7 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 1.9 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt

DU: Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y DU yn 20.8%.  Nid yw hyn wedi newid ers y chwarter ac mae gostyngiad o 0.2 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. 

Enillion misol gweithwyr cyflogedig o Wybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill

Am y tro cyntaf, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi cyhoeddi data ar gyfer Cymru am weithwyr sydd ar gyflogres, tâl cymedrig, tâl yn ei grynswth ac amcangyfrifon un mis ar gyfer tâl canolrifol.

Gweithwyr cyflogedig

Image
Siart yn dangos nifer y gweithwyr cyflogedig yng Nghymru Dangos tuedd gyffredinol ar i fyny dros y blynyddoedd diwethaf ac yna gostyngiad serth o fis Mawrth 2020 tan fis Gorffennaf, ac yna cynnydd bach hyd at fis Medi ond nid yn ôl i'r lefelau a welwyd cyn pandemig.

 

Y data ar nifer y gweithwyr cyflogedig yw’r dangosydd cyntaf o sut y mae COVID-19 wedi cael effaith ar nifer y gweithwyr yng Nghymru

  • Mae nifer y gweithwyr cyflogedig wedi cynyddu yn gyffredinol yn ddiweddar, ond wedi gostwng yn ystod y pandemig.
  • Bu gostyngiad yn nifer y gweithwyr cyflogedig yn ystod y pandemig i 1.23 miliwn ym mis Gorffennaf, gostyngiad o 29,700 o bobl (2.4%) o gymharu â mis Chwefror 2020.  Fodd bynnag, mae nifer y gweithwyr cyflogedig wedi cynyddu ychydig ym mis Awst a Medi 2020.
  • Mae amcangyfrifon cynnar ar gyfer Medi 2020 yn dangos bod 1.24 miliwn o weithwyr cyflogedig yng Nghymru.  Roedd hyn yn ostyngiad o 27,100 (2.1%) o gymharu â mis Chwefror 2020, ond yn gynnydd o 2,600 (0.2%) o gymharu â’r pwynt isaf ym mis Gorffennaf.

Tâl canolrifol

  • Mae tâl canolrifol wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf ond wedi gostwng yn ystod Mawrth ac Ebrill 2020.
  • Yng Nghymru, roedd y tâl canolrifol yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig ers Mehefin 2020.
  • Mae amcangyfrifon cynnar ar gyfer Medi 2020 yn dangos bod y tâl canolrifol yng Nghymru yn £1,800.  Roedd hyn yn gynnydd o £22 o’r mis blaenorol ac yn gynnydd o £64 o fis Chwefror 2020.
  • O gymharu â’r un mis y flwyddyn flaenorol, gwelodd Gymru gynnydd yn y tâl misol o 5.6%; y twf cyflymaf ar draws 12 o siroedd a rhanbarthau y DU.

Adroddiadau

Ystadegau economaidd allweddol: Hydref 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.