Neidio i'r prif gynnwy

Data misol sy'n ymdrin â phynciau megis cyflogaeth, mynegeion, allforion ac enillion.

Mae’r data diweddaraf yn yr adroddiad hwn yn berthnasol ar gyfer y tri mis hyd at fis Chwefror 2020. Nid yw’r adroddiad yn cwmpasu cyfnod yr achos coronafeirws (COVID-19).

Cyfradd cyflogaeth

Siart sy’n dangos y ganran o'r boblogaeth 16-64 oed sy'n cael eu cyflogi yng Nghymru a'r DU. Mae'r gyfradd cyflogaeth yn y DU yn gyffredinol yn uwch nag yng Nghymru dros y 10 blynedd diwethaf. Mae’r gyfradd wedi cynyddu’n gyson yn y DU dros y 4 blynedd diwethaf ond mae wedi amrywio yng Nghymru.

Cymru: Roedd y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn 74.0%, i lawr 0.9 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 1.5 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU: Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y DU yn 76.6%, i fyny 0.2 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 0.4 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Cyfradd diweithdra

Siart sy’n dangos canran y bobl economaidd weithgar 16 oed a throsodd sy'n ddi-waith yng Nghymru a'r DU. Mae'r gyfradd diweithdra wedi gostwng yng Nghymru ac yn y DU dros y 4 blynedd diwethaf.

Cymru: Roedd y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn 3.7%, i fyny 0.7 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 0.8 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU: Roedd y gyfradd diweithdra’r DU yn 4.0%, i fyny 0.1 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac yn ddinewid ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Cyfradd anweithgarwch economaidd

Siart sy’n dangos y ganran o'r boblogaeth 16-64 oed sy'n economaidd anweithgar yng Nghymru a'r DU. Mae’r gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn uwch nac yn y DU dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae’r gyfradd wedi gostwng yn gyson yn y DU dros y 4 blynedd diwethaf ond mae wedi amrywio yng Nghymru.

Cymru: Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn 23.1%, i fyny 0.4 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 2.3 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU: Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y DU yn 20.2%, i lawr 0.3 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 0.4 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Adroddiadau

Ystadegau economaidd allweddol, Ebrill 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 914 KB

PDF
Saesneg yn unig
914 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.