Ystadegau cryno ar bynciau allweddol i Gymru a'i rhanbarthau.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Ystadegau cryno fesul rhanbarth Cymru
Defnyddir data ystadegol yn eang i gefnogi cynllunio rhanbarthol ar draws Cymru. Mae'r gyfres hon o adroddiadau yn dod â data allweddol am economi, poblogaeth a seilwaith Cymru ynghyd i fodloni anghenion defnyddwyr data ar bedwar rhanbarth Cymru (gogledd Cymru, canolbarth Cymru, de-orllewin Cymru, a de-ddwyrain Cymru). Rhannwyd rhanbarth canolbarth a de-orllewin Cymru yn rhanbarthau ar wahân ar gyfer canolbarth Cymru a de-orllewin Cymru i ddarparu dadansoddiad manylach ar y materion a'r tueddiadau allweddol yn y meysydd hyn.
Er bod yr adroddiadau hwn wedi'u rhannu'n benodau, mae'n bwysig cofio bod yr amrywiol bynciau yn effeithio ar ei gilydd ac wrth ddefnyddio'r wybodaeth ar gyfer cynllunio dylid rhoi'r data mewn cyd-destun.
Gall gwahaniaethau rhwng rhannau o Gymru yn aml fod yn sgil nodweddion demograffig neu economaidd-gymdeithasol y rhanbarth. Er enghraifft, mae lefelau gweithgarwch economaidd yn cael eu dylanwadu llawer yn fwy gan gymwysterau na'r ardal lle mae person yn byw. Bydd poblogaeth hŷn, llai gweithgar yn economaidd mewn ardal yn dylanwadu ar lefelau allbwn economaidd y pen.
Mae tueddiadau demograffig yn amrywio ar draws Cymru o ran dosbarthiad oedran a newid naturiol, gan arwain at wahaniaethau mewn tueddiadau poblogaeth a thai yn y dyfodol ar draws ac o fewn y rhanbarthau.
Mae cyd-destun daearyddol hefyd yn bwysig, er enghraifft wrth ystyried data ar seilwaith, boed yn gorfforol neu ddigidol. Mae'r cydgysylltiad â gweddill y DU yn golygu bod cysylltiad agos rhwng ein perfformiad economaidd a thueddiadau'r DU a byd-eang, ac mewn nifer o ardaloedd ffiniol bydd lefelau cymudo yn effeithio ar rai mesurau allbwn economaidd.
Cywirdeb y data
Oherwydd y nifer fawr o ffynonellau sydd wedi'u cynnwys yn y cyhoeddiad hwn a'r amser a gymerwyd i'w lunio, mae’n bosibl fod data mwy diweddar wedi'u cyhoeddi ar gyfer rhai ffynonellau. Roedd yn hysbys bod mwyafrif y data ar gael y data fwyaf diweddar ar 30 Ionawr 2020. Nid yw amcangyfrifon o’r angen am dai wedi'u cynnwys gan fod cyhoeddi'r data hwn a oedd hefyd wedi'i drefnu ar gyfer 20 Mai wedi'i ohirio.
Ar 18 Mai 2020, nododd Swyddfa Ystadegau Gwladol eu bod wedi darganfod rhai gwallau prosesu sy'n effeithio ar yr amcanestyniadau poblogaeth genedlaethol ar sail 2018. Mae hyn yn effeithio'n bennaf ar y llifoedd rhwng Cymru a Lloegr. Mae effaith hyn yn fawr a bydd y data'n cael ei adolygu. Felly, nid yw amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiadau hyn.
Diweddariadau yn y dyfodol
Er nad ydym yn bwriadu diweddaru'r adroddiadau hyn yn rheolaidd, maent wedi'u diweddaru nawr i gefnogi datblygiad parhaus y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (NDF) yn dilyn ymgynghori ar yr NDF drafft yn hydref 2019. Mae data rhanbarthol ar gael ar StatsCymru ac mewn fformat dangosfwrdd isod. Caiff y rhain eu diweddaru wrth i ddata newydd ddod ar gael.
Adroddiadau
Ystadegau cryno ar gyfer Cymru, fesul rhanbarth, 2020 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 6 MB
Ystadegau cryno ar gyfer rhanbarth canolbarth Cymru, 2020 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Ystadegau cryno ar gyfer rhanbarth gogledd Cymru, 2020 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Ystadegau cryno ar gyfer rhanbarth de-dwyrain Cymru, 2020 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Ystadegau cryno ar gyfer rhanbarth de-orllewin Cymru, 2020 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.