Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad yn rhoi ystadegau cryno ar bynciau allweddol i Gymru a phob un o'r tri rhanbarth, fel y diffinnir yn y Cynllun Gweithredu Economaidd.

Defnyddir data ystadegol yn eang i gefnogi cynllunio rhanbarthol ar draws Cymru. Mae'r gyfres hon o adroddiadau yn dod â data allweddol am economi, poblogaeth a seilwaith Cymru ynghyd i fodloni anghenion defnyddwyr data ar dair rhanbarth economaidd Cymru (y Gogledd, y Canolbarth a'r De-orllewin, a'r De-ddwyrain).

Er bod yr adroddiadau hwn wedi'u rhannu'n benodau, mae'n bwysig cofio bod yr amrywiol bynciau yn effeithio ar ei gilydd ac wrth ddefnyddio'r wybodaeth ar gyfer cynllunio dylid rhoi'r data mewn cyd-destun.

Gall gwahaniaethau rhwng rhannau o Gymru yn aml fod yn sgil nodweddion demograffig neu economaidd-gymdeithasol y rhanbarth. Er enghraifft, mae lefelau gweithgarwch economaidd yn cael eu dylanwadu llawer yn fwy gan gymwysterau na'r ardal lle mae person yn byw. Bydd poblogaeth hŷn, llai gweithgar yn economaidd mewn ardal yn dylanwadu ar lefelau allbwn economaidd y pen.

Mae tueddiadau demograffig yn amrywio ar draws Cymru o ran dosbarthiad oedran a newid naturiol, gan arwain at wahaniaethau mewn tueddiadau poblogaeth a thai yn y dyfodol ar draws ac o fewn y rhanbarthau.

Mae cyd-destun daearyddol hefyd yn bwysig, er enghraifft wrth ystyried data ar seilwaith, boed yn gorfforol neu ddigidol. Mae'r cydgysylltiad â gweddill y DU yn golygu bod cysylltiad agos rhwng ein perfformiad economaidd a thueddiadau'r DU a byd-eang, ac mewn nifer o ardaloedd ffiniol bydd lefelau cymudo yn effeithio ar rai mesurau allbwn economaidd.

Diweddariadau yn y dyfodol

Mae'r adroddiadau yma yn ddatganiadau untro ac ni chânt eu diweddaru. Fodd bynnag, mae data rhanbarthol ar gael ar StatsCymru ac mewn fformat dangosfwrdd, o fewn yr adran Data isod. Caiff y rhain eu diweddaru wrth i ddata newydd ddod ar gael.

Adroddiadau

Ystadegau cryno ar gyfer rhanbarthau economaidd: Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 5 MB

PDF
5 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ystadegau cryno ar gyfer rhanbarthau economaidd: gogledd Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB

PDF
4 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ystadegau cryno ar gyfer rhanbarthau economaidd: canolbarth a de-orllewin Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ystadegau cryno ar gyfer rhanbarthau economaidd: de-ddwyrain Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB

PDF
4 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.