Neidio i'r prif gynnwy

Mae rhyddhau’r data yma am y tro cyntaf yn cyflwyno rhai ystadegau allweddol ar gofrestru defnyddwyr ar y system ar-lein ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir yng Nghymru, ac mae’n rhoi rhywfaint o gyd-destun ynghylch ein dull gweithredu o ran ystadegau i’r dyfodol, gan gynnwys amserlen ar gyfer ystadegau ACC yn y dyfodol.

Pwyntiau allweddol ar gyfer y datganiad ystadegol hwn 

1,229 o gofrestriadau ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir rhwng Chwefror 2018 a 15 Ebrill 2018, Cafodd 1,149 (93%) o'r cofrestriadau hyn eu cymeradwyo* ar system ACC. Roedd y cofrestriadau na chawsant eu cymeradwyo bron i gyd yn gofrestriadau dyblyg. Mae’n debyg bod y ddau ddyddiad ym mis Mawrth a restrir oherwydd gŵyl banc Ebrill ar ddiwedd yr wythnos honno.

Roedd y rhan fwyaf o’r cofrestriadau yn Lloegr (Roedd 72% yn Lloegr, 27% yng Nghymru, ac roedd 2% o wlad arall).

Cafwyd y nifer mwyaf o gofrestriadau yn ystod yr wythnos 19 i 25 Chwefror 2018. Cafwyd tua 100 o gofrestriadau ar 20 Chwefror, sef dyddiad agor y cofrestru yn ffurfiol. Roedd tua 120 o gofrestriadau’r wythnos ar ôl y prysurdeb cychwynnol; gyda’r rhan fwyaf o'r cofrestriadau’n digwydd ar 26 Chwefror, 28 Mawrth, a 29 Mawrth.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.