Neidio i'r prif gynnwy

Data ar nifer a gwerth yr hawliadau a wnaed, hyd at 31 Awst 2020.

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) wedi cyhoeddi nifer yr hawliadau a wnaed i’r Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws (CCSC) a’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth (CCIH) hyd at 31 Awst 2020.

Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws

Mae cyhoeddiadau blaenorol CThEM wedi dangos cyfansymiau cronnol o gyflogaethau ffyrlo ers lansio'r cynllun. Mae'r diweddariad hwn yn rhoi cipolwg ar y rhai a oedd ar ffyrlo ar 31 Gorffennaf 2020

  • Ar 31 Gorffennaf 2020, roedd 195,600 o gyflogaethau yng Nghymru wedi eu rhoi ar ffyrlo trwy’r cynllun CCSC; mae hyn yn gyfradd derbyn o 15%, yr ail uchaf ar y cyd o holl wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.
  • Roedd 100,000 o fenywod a 95,600 o ddynion wedi eu rhoi ar ffyrlo trwy CCSC ar 31 Gorffennaf, yn cyfrif am 51% a 49% o’r holl gyflogaethau ar ffyrlo.

Mae data CCSC yn cynnwys y rhai a oedd ar ffyrlo ar 31 Gorffennaf ac y cyflwynwyd hawliadau ar eu cyfer i CThEM erbyn 31 Awst 2020. Mae'r ffigurau ar gyfer mis Gorffennaf yn rhai cychwynnol ac maent yn debygol o gael eu diwygio yn y dyfodol.

Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth

Mae'r ystadegau hyn yn nodi gwybodaeth am ail grant y CCIH a agorodd ar gyfer hawliadau ar 17 Awst 2020.

  • Yn ystod pythefnos cyntaf y cynllun, cafwyd 82,000  o hawliadau llwyddiannus ar gyfer yr ail CCIH yng Nghymru, sef 59% o’r boblogaeth gymwys
  • Cyfanswm y gwerth ar gyfer pob hawliad yng Nghymru yn ystod pythefnos cyntaf y cynllun oedd £194 miliwn.
  • Pobl hunangyflogedig sy'n gweithio yn adeiladu yng Nghymru oedd â'r gyfran fwyaf o'r holl hawliadau (34%) ac roedd ganddo un o'r cyfraddau derbyn uchaf (67%).

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.