Neidio i'r prif gynnwy

Data ar nifer a gwerth yr hawliadau a wnaed, hyd at 30 Mehefin 2020.

Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) wedi cyhoeddi nifer yr hawliadau a wnaed i’r Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws (CCSC) a’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth (CCIH) hyd at 30 Mehefin 2020.

CCSC

  • Mae 378,400 o gyflogaethau yng Nghymru wedi eu rhoi ar ffyrlo trwy’r cynllun CCSC; mae hyn yn gyfradd derbyn o 29%, y cyd-isaf o holl wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.
  • Mae 73% o gyflogaethau mewn Llety & gwasanaethau bwyd a'r Celfyddydau, adloniant, hamdden a gwasanaethau eraill wedi eu rhoi ar ffyrlo trwy CCSC.

CCIH

  • Mae 108,000 o bobl yng Nghymru wedi hawlio grant CCIH, sef 77% o’r boblogaeth gymwys.
  • Cyfanswm y gwerth ar gyfer pob hawliad yng Nghymru hyd at 30 Mehefin yw £289 miliwn.
  • Pobl hunangyflogedig sy'n gweithio yn adeiladu yng Nghymru oedd â'r gyfran fwyaf o'r holl hawliadau (29%) ac roedd ganddo un o'r cyfraddau derbyn uchaf (84%).

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.