Data ar nifer a gwerth yr hawliadau a wnaed.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Ystadegau ar y Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws a’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth
Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) wedi cyhoeddi nifer yr hawliadau a wnaed i’r Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws (CCSC) hyd at 14 Medi 2021 a’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth (CCIH) hyd at 15 Medi 2021.
Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws
Mae'r diweddariad hwn yn rhoi cipolwg ar y rhai a oedd ar ffyrlo ar 31 Awst 2021.
- Ar 31 Awst 2021, roedd 46,000 o gyflogaethau yng Nghymru wedi eu rhoi ar ffyrlo trwy’r cynllun CCSC; mae hyn yn gyfradd dderbyn o 4% sydd yn debyg i’r gyfradd dderbyn ledled y DU (5%).
- Roedd gostyngiad o 17% yn nifer y cyflogaethau ar ffyrlo yng Nghymru rhwng 31 Gorffennaf a 31 Awst 2021, ac mae nifer y cyflogaethau ar ffyrlo ar y lefel isaf ers i’r gyfres amser ddechrau ar 1 Gorffennaf 2020.
- Roedd y gyfradd dderbyn uchaf yng Nghymru yn y Celfyddydau, Adloniant a Hamdden ar 14%, ac yna gweithgareddau gwasanaethau eraill ar 12%. Mae’r cyfraddau derbyn hyn lawer yn uwch na’r gyfradd dderbyn ar gyfer Cymru gyfan.
- Roedd 21,600 o fenywod a 24,500 o ddynion wedi eu rhoi ar ffyrlo trwy CCSC ar 31 Awst 2021.
- Prin oedd yr amrywio mewn cyfraddau derbyn cyflogaethau ar ffyrlo ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru.
Mae data CCSC yn cynnwys y rhai a oedd ar ffyrlo ar 31 Awst 2021 ac y cyflwynwyd hawliadau ar eu cyfer i CThEM erbyn 14 Medi 2021. Mae'r ffigurau ar gyfer mis Awst yn rhai cychwynnol ac maent yn debygol o gael eu diwygio yn y dyfodol.
Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth
Mae'r ystadegau hyn yn nodi gwybodaeth am bumed grant y Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth (CCIH) a agorodd ar gyfer hawliadau ar 29 Gorffennaf 2021 a mi fydd yn cau ar 30 Medi 2021.
- Hyd at 15 Medi 2021, cafwyd 39,000 o hawliadau llwyddiannus ar gyfer y pumed CCIH yng Nghymru, sef 28% o’r boblogaeth gymwys.
- Mae'r nifer sy'n manteisio hyd yma wedi bod yn is na'r pedwerydd grant, ac mae data'n dangos tuedd sy'n gostwng yn y nifer sy’n manteisio ar y CCIH o’r grant cyntaf i'r pumed.
- Cyfanswm y gwerth ar gyfer pob hawliad yng Nghymru o’r pumed grant hyd at 15 Medi 2021 oedd £82 miliwn.
- Pobl hunangyflogedig sy'n gweithio yn y maes adeiladu yng Nghymru oedd â'r gyfran fwyaf o bell ffordd o'r holl hawliadau (33%).
Bydd y cyfnod hawlio ar agor tan ddiwedd mis Medi, felly nid yw'r data'n derfynol ar gyfer y pumed grant.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.