Neidio i'r prif gynnwy

Data ar nifer a gwerth yr hawliadau a wnaed.

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) wedi cyhoeddi nifer yr hawliadau a wnaed i’r Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws (CCSC) hyd at 14 Hydref 2021 a’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth (CCIH) ar gyfer y cyfnod hawlio llawn (hyd at 7 Hydref 2021).

Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws

Mae'r diweddariad hwn yn rhoi cipolwg cychwynnol ar y rhai a oedd ar ffyrlo pan ddaeth CCSC i ben ar 30 Medi 2021 lle cafodd hawliadau eu cyflwyno i CThEM erbyn 14 Hydref.

  • Ar 30 Medi 2021, roedd 39,700 o gyflogaethau yng Nghymru wedi eu rhoi ar ffyrlo trwy’r cynllun CCSC, mae hyn yn gyfradd dderbyn o 3%; sydd yn debyg i’r  gyfradd dderbyn ledled y DU (4%).
  • Roedd gostyngiad o 15% yn nifer y cyflogaethau ar ffyrlo yng Nghymru rhwng 31 Awst a 30 Medi 2021, ac mae nifer y cyflogaethau ar ffyrlo ar y lefel isaf ers i’r gyfres amser ddechrau ar 1 Gorffennaf 2020.
  • Roedd y gyfradd dderbyn uchaf yng Nghymru yn y Celfyddydau, Adloniant a Hamdden ar 11%, ac yna gweithgareddau gwasanaethau eraill ar 10%. Mae’r cyfraddau derbyn hyn lawer yn uwch na’r gyfradd dderbyn ar gyfer Cymru gyfan.
  • Roedd 18,500 o fenywod a 21,200 o ddynion wedi eu rhoi ar ffyrlo trwy CCSC ar 30 Medi 2021.
  • Prin oedd yr amrywiaeth mewn cyfraddau derbyn cyflogaethau ar ffyrlo ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae data CCSC yn cynnwys y rhai a oedd ar ffyrlo ar 30 Medi 2021 ac y cyflwynwyd hawliadau ar eu cyfer i CThEM erbyn 14 Hydref 2021. Mae'r ffigurau ar gyfer mis Medi yn rhai cychwynnol ac maent yn debygol o gael eu diwygio yn y dyfodol.

Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth

Mae'r ystadegau hyn yn nodi gwybodaeth am bumed grant y CCIH a agorodd ar gyfer hawliadau ar 29 Gorffennaf 2021 ac a ddaeth i ben ar 30 Medi 2021.

  • Hyd at 7 Hydref 2021, cafwyd 45,000 o hawliadau llwyddiannus ar gyfer y pumed CCIH yng Nghymru, sef 32% o’r boblogaeth gymwys.
  • Roedd y nifer a fanteisiodd yn is na'r pedwerydd grant, ac mae data'n dangos tuedd sy'n gostwng yn y nifer sy’n manteisio ar y CCIH o’r grant cyntaf i'r pumed.
  • Cyfanswm y gwerth ar gyfer pob hawliad yng Nghymru o’r pumed grant hyd at 7 Hydref 2021 oedd £95 miliwn.
  • Pobl hunangyflogedig oedd yn gweithio yn y maes adeiladu yng Nghymru oedd â'r gyfran fwyaf o bell ffordd o'r holl hawliadau (32%).

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.