Neidio i'r prif gynnwy

Data ar nifer a gwerth yr hawliadau a wnaed.

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) wedi cyhoeddi nifer yr hawliadau a wnaed i’r Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws (CCSC) hyd at 16 Awst 2021.

Mae'r diweddariad hwn yn rhoi cipolwg ar y rhai a oedd ar ffyrlo ar 31 Gorffennaf 2021.

Prif bwyntiau

  • Ar 31 Gorffennaf 2021, roedd 54,700 o gyflogaethau yng Nghymru wedi eu rhoi ar ffyrlo trwy’r cynllun CCSC; mae hyn yn gyfradd dderbyn o 4%; sydd yn debyg i’r  gyfradd dderbyn ledled y DU (5%).
  • Roedd gostyngiad o 21% yn nifer y cyflogaethau ar ffyrlo yng Nghymru rhwng 30 Mehefin a 31 Gorffennaf 2021, ac mae nifer y cyflogaethau ar ffyrlo ar y lefel isaf ers i’r gyfres amser ddechrau ar 1 Gorffennaf 2020.
  • Roedd y gyfradd dderbyn uchaf yng Nghymru yn y Celfyddydau, Adloniant a Hamdden ar 16%, ac yna gweithgareddau gwasanaethau eraill ar 14%. Mae’r cyfraddau derbyn hyn lawer yn uwch na’r gyfradd dderbyn ar gyfer Cymru gyfan.
  • Roedd 25,900 o fenywod a 28,700 o ddynion wedi eu rhoi ar ffyrlo trwy CCSC ar 31 Gorffennaf 2021.
  • Prin oedd yr amrywio mewn cyfraddau derbyn cyflogaethau ar ffyrlo ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru.

Nodyn

Mae data CCSC yn cynnwys y rhai a oedd ar ffyrlo ar 31 Gorffennaf 2021 ac y cyflwynwyd hawliadau ar eu cyfer i CThEM erbyn 16 Awst 2021. Mae'r ffigurau ar gyfer mis Gorffennaf yn rhai cychwynnol ac maent yn debygol o gael eu diwygio yn y dyfodol.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.