Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cyflwyniad

Adroddiad sy'n cynnwys gwybodaeth am danau, lleoliad, achos, cymhelliad, anafusion a galwadau ffug a fynychwyd.

Mae’r dadansoddiad isod yn ymwneud â’r cyfnodau 1 Ebrill 2024 to 30 Medi 2024 o gymharu â’r un cyfnod y flwyddyn flaenorol.

Y prif bwyntiau

Tanau

  • Mynychodd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru 4,827 o danau yn y cyfnod hwn, gostyngiad o 22%.
  • Roedd 1,930 o brif danau yng Nghymru, gostyngiad o 11%.
  • Roedd 2,834 o danau eilaidd yng Nghymru, gostyngiad o 28%. Gan fod cyfran fawr o danau eilaidd yn digwydd y tu allan, mae’n debygol fod y tywydd yn dylanwadu arnynt.
  • Yn y cyfnod hwn yr unig fis i weld cynnydd mewn tanau eilaidd o'i gymharu â'r hyn yn y flwyddyn flaenorol oedd Awst 2024 (i fyny 25% o gymharu ag Awst 2023). Ym mis Mehefin 2024 gwelwyd y gostyngiad mwyaf (i lawr 52% o gymharu â Mehefin 2023) ond mae hyn yn dilyn cynnydd o 86% yn y flwyddyn flaenorol.
  • Roedd 726 o danau glaswelltir, coetir a chnydau yn y cyfnod hwn, gostyngiad o 53%.  

Anafusion

  • Roedd 4 o farwolaethau tân yng Nghymru, 7 yn llai na adroddwyd yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.
  • Roedd 96 o anafiadau nad oeddent yn angheuol (angen mynd i'r ysbyty) yn y cyfnod hwn, 20 yn fwy nag yn y flwyddyn flaenorol.
  • Derbyniodd 92 pellach gymorth cyntaf, fe’u hanfonwyd am brofion rhagofalus neu fe’u cynghorwyd i ofyn am gyngor meddygol. Mae hyn 27 yn llai na’r nifer yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.

Galwadau ffug

  • Roedd 8,619 o ffug alwadau tân yng Nghymru, dim newid canrannol o gymharu â'r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.
  • Roedd 205 o alwadau ffug maleisus, 5% yn llai nag yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Claire Davey
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099