Neidio i'r prif gynnwy

Data ar danau, lleoliad, achosion, cymhelliad, anafiadau, galwadau ffug a Digwyddiadau Gwasanaeth Arbennig a fynychwyd ay gyfer Ebrill i Fedi 2020.

Mae’r data a gyflwynir yma yw'r cyntaf yn y gyfres i gael sylw llawn gan pandemig coronafeirws (COVID-19).

Mae’r data dros dro yma yn ymwneud â’r cyfnod 1 Ebrill 2020 hyd at 30 Medi 2020 ac yn cymharu gyda’r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.

Tanau

  • Ymatebodd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru i 6,245 o danau yn y cyfnod hwn, gostyngiad o 3%.
  • Roedd 2,065 o brif danau yng Nghymru, gostyngiad o 9%.
  • Roedd 4,095 o danau eilaidd yng Nghymru, cynnydd bach yn y niferoedd ond dim newid canrannol. Gan fod canran fawr o’r tannau eilaidd yma yn digwydd y tu allan, mae’n debygol fod y tywydd yn dylanwadu arnynt. 
  • Roedd 1,790 o danau glaswelltir, coetir a chnydau yn y cyfnod hwn, cynnydd o 4%.

Anafiadau

  • Roedd 10 o farwolaethau tân yng Nghymru, 2 yn fwy na adroddwyd yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.
  • Roedd 59 o anafiadau yn y cyfnod hwn, 50 yn llai na yn y flwyddyn flaenorol.
  • Derbyniodd 150 pellach gymorth cyntaf, neu fe’u hanfonwyd i ysbyty am brofion rhagofalus neu fe’u cynghorwyd i ofyn am gyngor meddygol. Mae hyn yn debyg i'r nifer yn y flwyddyn flaenorol.

Cam-rybuddion tân

  • Roedd 8,082 o ffug alwadau tân yng Nghymru, 8% yn fwy na adroddwyd yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.
  • Roedd 153 o alwadau ffug maleisus, 22% yn llai na'r adroddwyd yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.