Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dadansoddiad o’r holl ddigwyddiadau a fynychwyd gan dri Awdurdod Tân ac Achub Cymru. Mae’r data diweddaraf yn ymwneud â 2022-23. Data dros dro ydynt, a chaiff hynny ei nodi â [p] yn y siartiau a'r tablau. Daw'r ystadegau o System Cofnodi Digwyddiadau (IRS) y Swyddfa Gartref. Cynhwysir ystadegau ar yr holl ddigwyddiadau, yr holl farwolaethau a'r holl anafiadau nad oeddent yn angheuol, yn gysylltiedig â thanau.

Prif bwyntiau

  • Mae nifer y tanau wedi bod ar duedd ar i lawr ers 2001-02, gan ostwng bron i 70%, ond dros y deng mlynedd diwethaf mae'r niferoedd wedi bod yn gymharol sefydlog gan aros ar tua 10,000 i 13,000. Mae nifer y camrybuddion tân wedi gostwng hefyd, ond i raddau llai: gostyngiad o ddim ond 18% ers 2001-02. Mae nifer y digwyddiadau gwasanaeth arbennig (SSI) wedi amrywio drwy gydol y gyfres amser: gwelwyd cynnydd o 19% yn 2022-23 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
  • O’i gymharu â 2021-22, roedd cynnydd o 3% yn nifer y tanau yn 2022-23; roedd gostyngiad o 1% yn nifer y prif danau ond cynnydd o 6% yn nifer y tanau eilaidd.
  • Cafwyd 14 o farwolaethau oherwydd tanau yng Nghymru yn 2022-23. Mae hyn 7 yn llai nag yn 2021-22, a hynny'n bennaf am na chafwyd unrhyw farwolaethau yn y Gogledd.
  • Cafodd 422 o bobl anafiadau nad oeddent yn angheuol yn 2022-23, gostyngiad o 12% o’i gymharu â 2021-22.
  • Roedd 1,805 o danau bwriadol ar laswelltir, coetir a chnydau yn 2022-23, gostyngiad o 1% o’i gymharu â 2021-22.

Yr holl ddigwyddiadau tân ac achub a fynychwyd

Mynychodd y Gwasanaethau Tân ac Achub 37,427 o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023. Roedd hyn yn gynnydd o 8% o’i gymharu â 2021-22. Dyma'r ffigur uchaf ers 2013-14 ond nid yw'n annhebyg iawn i weddill y gyfres amser o 2013-14 ymlaen. Cyrhaeddodd nifer y digwyddiadau a fynychwyd gan y Gwasanaethau Tân ac Achub uchafbwynt yn 2001/02, sef bron i 64,000 o ddigwyddiadau.

Ffigur 1: Pob digwyddiad a fynychwyd gan Awdurdodau Tân ac Achub Cymru, 2001-02 i 2022-23 [p]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell yn dangos cyfres amser o 2001-02 ar gyfer tanau, camrybuddion tân a digwyddiadau gwasanaeth arbennig (SSI). Mae nifer y tanau a fynychwyd wedi gostwng 69% ers 2001-02, a digwyddodd y gostyngiadau mwyaf cyn 2012-13. Mae’r gostyngiad wedi arafu rhywfaint yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gwelwyd tuedd ar i lawr yn nifer y camrybuddion tân hefyd dros y gyfres amser. Mae nifer y digwyddiadau gwasanaeth arbennig wedi amrywio ers 2001-02; at ei gilydd bu cynnydd o 13% ers 2001-02.

Ffynhonnell: Data digwyddiadau tân ar StatsCymru

[Nodyn 1] Yn cynnwys camrybuddion digwyddiadau gwasanaeth arbennig.

[p] Data dros dro

Ffigur 2: Digwyddiadau tân ac achub a fynychwyd, 2022-23 [p]

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart gylch yn dangos y ganran ar gyfer y gwahanol gategorïau o ddigwyddiadau a fynychwyd yn 2022-23. O'r holl ddigwyddiadau a fynychwyd yn 2022-23, roedd 10% ohonynt yn brif danau (3,918 digwyddiad), 18% yn danau eilaidd (6,871 digwyddiad) ac 1% yn danau simnai (277 digwyddiad). Cafwyd 16,008 o ddigwyddiadau camrybuddion tân (43% o'r digwyddiadau a fynychwyd) a 10,353 o ddigwyddiadau gwasanaeth arbennig, gan gynnwys camrybuddion (28%).

Ffynhonnell: Data digwyddiadau tân ar StatsCymru

[Nodyn 1] Yn cynnwys camrybuddion digwyddiadau gwasanaeth arbennig.

[p] Data dros dro

Tanau a fynychwyd

Prif danau

Mae prif danau yn cynnwys pob tân mewn adeiladau nad ydynt yn segur a cherbydau, neu mewn strwythur awyr agored, neu unrhyw dân sy'n cynnwys pobl sydd wedi'u hanafu neu sy'n cael eu hachub, neu pan fydd pump neu ragor o gerbydau tân yn ymateb iddynt.

Yn 2022-23, gostyngodd nifer y prif danau 1% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, i 3,918. Dim ond yn y De y gwelwyd cynnydd yn nifer y prif danau (cynnydd o 3% o'i gymharu â 2021-22); gwelwyd 3% o ostyngiad yn y Gogledd a 5% yn y Canolbarth a'r Gorllewin.

Ers 2001-02 mae nifer y prif danau wedi gostwng 70% yn y De ac  yn y Canolbarth a'r Gorllewin; yn y Gogledd mae'r nifer wedi gostwng 64%.

Ffigur 3: Nifer y prif danau yn ôl Awdurdod Tân ac Achub, 2001-02 i 2022-23 [p]

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart linell sy'n dangos nifer y prif danau yn ôl awdurdod tân ac achub ers 2001-02. Mae nifer y tanau ym mhob un o'r tri Gwasanaeth yn dangos tuedd gyffredinol ar i lawr. Gwasanaeth y De sydd wedi mynychu'r nifer mwyaf o brif danau yn gyson, a gwasanaeth y Gogledd y lleiaf.

Ffynhonnell: Prif danau ar StatsCymru

[p] Data dros dro

Ffigur 4: Nifer y prif danau yn ôl lleoliad, 2001-02 i 2022-23 [p]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart linell yn dangos nifer y tanau mewn anheddau, adeiladau eraill, cerbydau ffordd a lleoliadau awyr agored eraill, bob blwyddyn o 2001-02 i 2022-23. Mae'r duedd gyffredinol ar i lawr ym mhob categori, ond mae hyn i'w weld amlycaf yn achos cerbydau ffordd, lle gwelwyd gostyngiad sylweddol rhwng 2001-02 a 2012-13.

Ffynhonnell: Prif danau ar StatsCymru

[p] Data dros dro

Yn 2022-23, roedd 39% o’r holl brif danau mewn anheddau, 30% mewn cerbydau ffordd, 21% mewn adeiladau eraill a 9% yn danau awyr agored.  Bu gostyngiad o 3% mewn tanau mewn anheddau ac mewn cerbydau ffordd, ill dau, o’i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Gwelwyd 4% o gynnydd mewn tanau mewn adeiladau eraill a 9% o gynnydd mewn prif danau yn yr awyr agored.

Yn 2022-23, roedd nifer y tanau mewn anheddau yn llai na hanner yr hyn oedd yn 2001‑02.

Mae nifer y prif danau mewn cerbydau ffordd yng Nghymru wedi gostwng 82% ers 2001‑02.

Tanau eilaidd

Mae tanau eilaidd yn golygu tanau awyr agored yn bennaf, gan gynnwys tanau glaswellt a sbwriel, oni bai eu bod yn cynnwys pobl sydd wedi'u hanafu neu sy'n cael eu hachub, neu pan fydd pump neu ragor o gerbydau tân yn ymateb iddynt.

Tanau eilaidd yw’r categori tân mwyaf cyffredin a fynychir gan Awdurdodau Tân ac Achub Cymru. Maent yn cyfrif am 61% o’r holl danau ers 2001-02 a 62% o’r rhai a fynychwyd yn 2022-23. Yn 2022-23, cynyddodd nifer y tanau eilaidd 6% o’i gymharu â 2021, a hynny i 6,871. O'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, dim ond yn y Canolbarth a'r Gorllewin y gostyngodd nifer y tanau eilaidd (gostyngiad o 10%). Gwelwyd cynnydd o 18% yn y Gogledd ac 11% yn y De.

Ffigur 5: Nifer y prif danau yn ôl Awdurdod Tan ac Achub, 2001-02 i 2022-23 [p]

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart linell yn dangos nifer y tanau eilaidd ar gyfer pob un o Awdurdodau Tan ac Achub Cymru o 2001-02. Mae nifer y tanau eilaidd ym mhob un o'r 3 Awdurdod Tân ac Achub  wedi gostwng yn sylweddol ers 2001-02, sef 70% yn y De, 66% yn y Gogledd a 64% yn y Canolbarth a'r Gorllewin.

Ffynhonnell: Tanau eilaidd ar StatsCymru

[p] Data dros dro

Yn 2022-23, digwyddodd 2,439 (35%) o danau eilaidd ar laswelltir, coetir a/neu dir cnydau, cynnydd o 5% o’i gymharu â 2021-22.

Yn 2022-23, roedd 55% o danau eilaidd yn cael eu hystyried yn danau sbwriel. Gwelwyd cynnydd o 5% yn y tanau hyn, o 3,574 yn 2021-22 i 3,753 yn 2022-23. At ei gilydd, gwelwyd tuedd ar i lawr yn nifer y tanau sbwriel, gostyngiad o 14% dros y 10 mlynedd diwethaf.

Tanau yn ôl cymhelliad

Yn 2022-23, roedd 4,800 o danau damweiniol (gan gynnwys tanau damweiniol mewn simneiau). Cafwyd 4% o gynnydd o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, ac ers 2001-02 mae'r nifer wedi gostwng bron i 50%. Tanau damweiniol oedd 75% o’r holl brif danau a 23% o'r holl danau eilaidd.

Cafwyd 6,266 o danau bwriadol, 145 yn fwy nag yn 2021-22; roedd 84% o'r tanau bwriadol yn 2022-23 yn danau eilaidd.

Ffigur 6: Nifer y tanau yn ôl math a chymhelliad, 2001-02 i 2022-23 [p]

Image

Disgrifiad o Ffigur 6:  Siart linell yn dangos niferoedd y prif danau a'r tanau eilaidd yn ôl cymhelliad (damweiniol neu fwriadol) mewn cyfres amser o 2001-02. Mae'r siart yn dangos y bu tuedd amlwg ar i lawr yn nifer y tanau eilaidd bwriadol rhwng 2001-02 a 2012-13 a'u bod wedi bod yn dueddol o amrywio ers hynny. Mae'r categorïau eraill a ddangosir yn llai anwadal ond maent hefyd yn dangos tuedd ar i lawr.

Ffynhonnell: Tanau yn ôl cymhelliad ar StatsCymru

[p] Data dros dro

Yn 2022-23, bu gostyngiad o 1% yn nifer y prif danau damweiniol, a chynnydd o 16% yn nifer y tanau eilaidd damweiniol (o’i gymharu â 2021-22).

Bu gostyngiad o 1% yn nifer y prif danau bwriadol, a bu cynnydd o 3% yn nifer y tanau bwriadol eilaidd.

Marwolaethau ac anafiadau cysylltiedig â thân

Marwolaethau oherwydd Tân

Diffinnir person a fu farw o'i anafiadau fel rhywun y priodolir ei farwolaeth yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol i anafiadau a achoswyd gan dân, hyd yn oed os digwyddodd y farwolaeth wythnosau neu fisoedd yn ddiweddarach.  Mae hyn yn cynnwys unrhyw un a fu farw o'i anafiadau.

Bu 14 o farwolaethau oherwydd anafiadau yn 2022-23. Mae hyn 7 yn llai nag yn y flwyddyn flaenorol a dyma'r nifer isaf yn y gyfres amser, a hynny'n bennaf oherwydd na chafwyd marwolaethau yn y Gogledd yn 2022-23. At ei gilydd, mae’r duedd wedi bod ar i lawr ers 2001-02 (pan fu 38 o farwolaethau) ond mae’r niferoedd yn fach ac yn dueddol o amrywio.

Tabl 1: Y nifer a fu farw o'u hanafiadau oherwydd tân, 2013-14 i 2022 23 [p]
Blwyddyn Gogledd Cymru Canolbarth a Gorllewin Cymru De Cymru Cymru
2013-14 3 8 6 17
2014-15 5 8 7 20
2015-16 6 4 9 19
2016-17 5 7 7 19
2017-18 2 11 2 15
2018-19 8 7 5 20
2019-20 4 3 9 16
2020-21 7 4 10 21
2021-22 7 6 8 21
2022-23[p] 0 8 6 14

Disgrifiad o Dabl 1: tabl data sy'n dangos nifer y marwolaethau oherwydd tân, yn ôl Awdurdod Tân ac Achub. Nid oedd unrhyw farwolaethau yn rhanbarth y Gogledd yn 2022-23, roedd 8 yn y Canolbarth a'r Gorllewin, a 6 yn y De.

Ffynhonnell: Marwolaethau cysylltiedig â thân ar StatsCymru

[p] Data dros dro

Ers 2001-02, mae 77% o'r marwolaethau wedi digwydd o ganlyniad i danau mewn anheddau, sy'n cyfateb i gyfanswm o 370 o’r 478 o farwolaethau. Yn 2022-23, digwyddodd 86% o’r marwolaethau o ganlyniad i danau mewn anheddau; roedd 4 yn llai o farwolaethau mewn anheddau nag yn y flwyddyn flaenorol.

Anafiadau tân nad ydynt yn angheuol

O fis Ebrill 2009 ymlaen, cofnodir anafiadau nad ydynt yn angheuol mewn un o bedwar dosbarth difrifoldeb fel a ganlyn:

(i) Y dioddefwr wedi mynd i’r ysbyty, mae’r anafiadau’n ymddangos yn ddifrifol

(ii) Y dioddefwr wedi mynd i’r ysbyty, mae’r anafiadau’n ymddangos yn rhai mân

(iii) Rhoddwyd cymorth cyntaf yn y fan a’r lle

(iv) Argymhellwyd archwiliad rhag ofn – pan fydd unigolyn yn cael ei anfon i’r ysbyty neu’n cael ei gynghori i weld meddyg rhag ofn, ond nad oes unrhyw anaf na thrallod amlwg.

Yn 2022-23 cafodd 422 o bobl anafiadau nad oeddent yn angheuol (gostyngiad o 12% o'i gymharu â 2021‑22). At ei gilydd, mae’r duedd dros y deng mlynedd diwethaf wedi bod ar i lawr, er bod y niferoedd wedi amrywio yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Tabl 2: Nifer y bobl a gafodd anafiadau tân nad oeddent yn angheuol, 2013-14 i 2022-23 [p]
Blwyddyn Gogledd Cymru Canolbarth a Gorllewin Cymru De Cymru Cymru
2013-14 276 167 183 626
2014-15 194 194 155 543
2015-16 213 177 202 592
2016-17 194 153 274 621
2017-18 156 144 226 526
2018-19 117 118 161 396
2019-20 139 104 266 509
2020-21 125 70 213 408
2021-22 141 79 259 479
2022-23[p] 105 64 253 422

Disgrifiad o Dabl 2: tabl data sy'n dangos y nifer a gafodd anafiadau tân nad oeddent yn angheuol, yn ôl Awdurdod Tân ac Achub. Roedd 105 yn y Gogledd yn 2022-23, 64 yn y Canolbarth a'r Gorllewin a 253 yn y De.

Ffynhonnell: Pobl a gafodd anafiadau tân nad oeddent yn angheuol, ar Stats Cymru

[p] Data dros dro

Gwelodd gostyngiad yn y rhan fwyaf o gategorïau difrifoldeb o'i gymharu â 2021-22 (yr eithriad oedd cynnydd o 29% yn y rhai anfonwyd i'r ysbyty ag anafiadau difrifol). Bu gostyngiad o 15% yn nifer y rhai a gafodd gymorth cyntaf neu a anfonwyd am archwiliadau rhag ofn,  a bu gostyngiad o 12% yn y nifer a anfonwyd i'r ysbyty ag anafiadau bach. Yn 2022-23, cafodd 68% o’r rhai ag anafiadau nad oeddent yn angheuol gymorth cyntaf neu fe’u cynghorwyd i gael archwiliad rhag ofn. Aethpwyd â 24% arall o’r rhai ag anafiadau nad oeddent yn angheuol i’r ysbyty gyda mân anafiadau ac aethpwyd â’r 9% arall i’r ysbyty ag anafiadau difrifol.

Ffigur 7: Nifer y bobl a gafodd anafiadau tân nad oeddent yn angheuol, yn ôl difrifoldeb yr anaf, 2013-14 i 2022-23 [p]

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart far sy'n dangos nifer y bobl a gafodd anafiadau tân nad oeddent yn angheuol, yn ôl difrifoldeb yr anaf. Mae'r data'n ymwneud â 2013-14 i 2022-23. Mae'r siart yn dangos tuedd gyffredinol ar i lawr, a hynny'n fwyaf amlwg yn nifer y rhai sy'n mynd i'r ysbyty â mân anafiadau.

Ffynhonnell: Anafiadau tân nad ydynt yn angheuol, ar StatsCymru

[p] Data dros dro

Camrybuddion tân

Diffinnir camrybudd tân fel digwyddiad lle galwyd yr Awdurdod Tân ac Achub i dân y rhoddwyd gwybod amdano ond nad oedd yn bodoli. Mae camrybuddion tân yn cael eu categoreiddio fel a ganlyn:

Maleisus – lle gwneir galwad yn fwriadol am dân nad yw’n bodoli

Bwriad da – lle gwneir galwad yn ddidwyll gan gredu bod tân i fynd iddo

Oherwydd cyfarpar – lle sbardunir yr alwad am fod larwm tân ac offer diffodd tân ar waith.

Yn 2022-23 roedd 16,008 o gamrybuddion tân yng Nghymru, i fyny o 15,319 yn 2021-22, cynnydd o 4%. Dyma'r drydedd flwyddyn yn olynol lle gwelwyd cynnydd; hwn yw'r ffigur uchaf ers 2010-11. Fodd bynnag, mae'r ffigur hwn yn dal i fod 18% yn is nag yn 2001-02.

Dim ond nifer y camrybuddion tân lle'r oedd bwriad da a ostyngodd yn 2022-23, o'i gymharu â 2021-22 (i lawr 7%). Gwelwyd cynnydd o 12% yn nifer y camrybuddion oherwydd cyfarpar, a chynnydd o 17% yn nifer y camrybuddion maleisus.

At ei gilydd, bu tuedd ar i lawr yn nifer y camrybuddion tân maleisus, sef gostyngiad o 86% ers 2001-02. Fodd bynnag, yn 2022-23 roedd cynnydd o 17% o'i gymharu â 2021-22 ac mae hyn yn dilyn cynnydd o 33% yn y flwyddyn flaenorol. Dyma'r tro cyntaf i flynyddoedd olynol ddangos cynnydd yn nifer y camrybuddion tân maleisus.

Ffigur 8: Nifer y camrybuddion tân yn ôl rheswm, 2001-02 i 2022-23 [p]

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart linell sy'n dangos nifer y camrybuddion yn ôl math (maleisus, oherwydd cyfarpar, neu oherwydd bwriad da). Mae'r siart yn dangos mai cyfarpar sydd i’w gyfrif am y rhan fwyaf o gamrybuddion tân. Gwelwyd tuedd gyffredinol ar i lawr yn nifer y camrybuddion hyn ers 2010-11, ond maent wedi dechrau codi eto yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gwelwyd tuedd fwy amlwg ar i lawr yn nifer y camrybuddion maleisus.

Ffynhonnell: Camrybuddion tân ar StatsCymru

[p] Data dros dro

Digwyddiadau gwasanaeth arbennig

Yn 2022-23, roedd 28% o’r holl ddigwyddiadau a fynychwyd gan Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru yn ddigwyddiadau gwasanaeth arbennig. Mae'r digwyddiadau hyn yn cynnwys gwrthdrawiadau traffig ffyrdd, digwyddiadau llifogydd, digwyddiadau meddygol ac ati (gweler tabl 3). Yn wahanol i fathau eraill o ddigwyddiadau, ni welwyd tuedd gyson ar i lawr yn nifer cyffredinol y digwyddiadau gwasanaeth arbennig, ac maent yn dueddol o amrywio. Mae’n debygol bod y pandemig COVID-19 a’r cyfnodau o gyfyngiadau symud wedi effeithio ar nifer y digwyddiadau gwasanaeth arbennig yn 2020-21 ac i mewn i 2021-22.

Ffigur 9: Nifer y digwyddiadau gwasanaeth arbennig a fynychwyd, yn ôl Awdurdod Tân ac Achub, 2004-05 i 2022-23 [p]

Image

Disgrifiad o Ffigur 9:  Siart linell yn dangos nifer y digwyddiadau gwasanaeth arbennig, yn ôl awdurdod tân ac achub, o 2004-05. Mae'r siart yn dangos bod nifer y digwyddiadau wedi amrywio ar gyfer pob un o'r tri Awdurdod, yn enwedig Canolbarth a Gorllewin Cymru. Ar gyfer y rhan fwyaf o'r blynyddoedd yn y gyfres amser, gwasanaeth y Canolbarth a Gorllewin sydd wedi mynychu'r nifer mwyaf o ddigwyddiadau gwasanaeth arbennig, a gwasanaeth y Gogledd sydd wedi mynychu'r nifer lleiaf.

Ffynhonnell: Digwyddiadau gwasanaeth arbennig ar StatsCymru

[p] Data dros dro

At ei gilydd, bu cynnydd o 19% yn nifer y digwyddiadau gwasanaeth arbennig a fynychwyd yn 2022-23. Gwelodd pob un o’r 3 Awdurdod gynnydd, sef 28% yn y Gogledd, 26% yn y Canolbarth a’r Gorllewin ac 11% yn y De. Y prif reswm dros y cynnydd mewn digwyddiadau gwasanaeth arbennig yn y Canolbarth a'r Gorllewin yw eu bod wedi mynychu mwy o ddigwyddiadau fel  ymatebwyr cyntaf / cyd-ymatebwyr meddygol. Y prif reswm dros y cynnydd yn y Gogledd a'r De yw bod mwy o waith wedi digwydd yn cynorthwyo asiantaethau eraill.

Gwrthdrawiadau traffig ffyrdd oedd oddeutu un rhan o bump o’r digwyddiadau gwasanaeth arbennig, a mynychwyd 6% yn fwy o'r digwyddiadau hyn nag yn 2021-22.  Gallai hyn fod oherwydd bod gweithgarwch traffig ffyrdd wedi cynyddu, fel yr awgrymir gan ddata traffig ffyrdd Cymru (a gyhoeddir gan yr Adran Drafnidiaeth) ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben fis Rhagfyr 2022. Mae'r rhain yn dangos cynnydd o 10% o'i gymharu â 2021, sy'n agosáu at y ffigurau a welwyd yn 2019 cyn y pandemig COVID-19. Amcangyfrifon traffig ffyrdd ym Mhrydain Fawr: 2022 (Adran Drafnidiaeth)

Mae nifer y digwyddiadau meddygol yr aethpwyd iddynt wedi mwy na dyblu o'i gymharu â 2021-22.

Gwelwyd cynnydd o 34% yn nifer yr achosion o lifogydd, a'r rhain oedd yn gyfrifol am 7% o'r digwyddiadau gwasanaeth arbennig yn 2022‑23.

Tabl 3 Nifer y digwyddiadau gwasanaeth arbennig yn ôl math, 2020-21 i 2022 23 [p]
  2020-21 2021-22[r] 2022-23[p]
Gwrthdrawiadau traffig ffyrdd  1,278 1,759 1,856
Llifogydd  876 490 658
Achub neu symud o ddŵr  147 120 127
Digwyddiadau eraill lle cafodd pobl eu hachub/rhyddhau  256 429 480
Digwyddiadau cynorthwyo anifeiliaid  261 306 337
Gwneud yn ddiogel  235 531 194
Rhyddhau lifft  217 290 285
Sicrhau mynediad  469 678 830
Tynnu gwrthrychau oddi wrth bobl  337 451 472
Digwyddiad meddygol: cyd-ymatebwr/ymatebwr cyntaf  390 624 1,539
Cynorthwyo asiantaethau eraill  954 1,339 1,732
Arall 1,023 1,177 1,270
Pob digwyddiad Gwasanaeth Arbennig  6,443 8,194 9,780
Pob camrybudd Gwasanaeth Arbennig 577 482 573

Disgrifiad o Dabl 3: Tabl yn dangos nifer y digwyddiadau gwasanaeth arbennig a fynychwyd gan wasanaethau tân ac achub Cymru, yn ôl math o ddigwyddiad (e.e. gwrthdrawiad traffig ffyrdd, llifogydd ac ati).

Ffynhonnell: Digwyddiadau Gwasanaeth arbennig ar StatsCymru

[p] Data dros dro

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae'r dadansoddiad yn yr adroddiad hwn yn ymwneud â digwyddiadau'r gwasanaeth tân ac achub rhwng Ebrill 2022 a diwedd Mawrth 2023 a gwneir cymhariaeth â digwyddiadau yn 2021-22 (cyfnod o fewn y pandemig COVID-19).

Mae'r Adroddiad Achosion Tân ac Achub yn rhoi rhagor o wybodaeth allweddol am ansawdd a methodoleg.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 ac sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu fod yr ystadegau swyddogol yn cwrdd â’r safonau uchaf o ddibynadwyaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Ceir eu dyfarnu fel statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan fraich rheoli Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried os ydy’r ystadegau yn cwrdd â’r safonau uchaf o gydymffurfiad â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ychwanegu i benderfyniadau a dadlau cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw i gynnal cydymffurfiad â’r safonau a ddisgwylir o Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu os yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei diddymu ar unrhyw bryd pan mae’r safonau uchaf heb eu cynnal, a’i ddyfarnu unwaith eto pan mae’r safonau yn cael eu hadfer.

Cadarnhawyd y statws parhaus o’r ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol yn 2021 yn dilyn gwiriad cydymffurfiaeth gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Cynhaliwyd yr asesiad llawn diweddaraf o'r ystadegau hyn yn erbyn y Cod Ymarfer yn 2012.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Andrew O’Rourke
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SB 35/2023

Image
Ystadegau Gwladol