Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am danau, lleoliad, achosion, cymhelliad, anafiadau, galwadau ffug a Digwyddiadau Gwasanaeth Arbennig a fynychwyd ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023.

Mae'r dadansoddiad yn y bwletin hwn yn ymwneud â digwyddiadau'r gwasanaeth tân ac achub rhwng mis Ebrill 2022 a diwedd mis Mawrth 2023, tra’n cymharu â Ebrill 2021 i Mawrth 2022, cyfnod wedi’i heffeithio i raddau health gan pandemig coronafeirws (COVID-19), a felly’r cyfyngiadau iechyd cyhoeddus oedd yn eu lle trwy gyfnod y pandemig. Er llaciwyd cyfyngiadau yn ystod 2021-22 roedd yna rhai cyfnodau yn ystod y flwyddyn lle roedd cyfyngiadau dal ar waith ac mae posib bod patrymau ymddygiad heb dychwelyd i patrymau cyn y pandemig.

Prif bwyntiau

Tanau

  • Yn 2022-23, cynyddodd nifer y tanau a fynychwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Cymru 3% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Ers 2001-02 cafwyd tuedd ar i lawr yn nifer y digwyddiadau a fynychwyd; mae ffigwr 2022-23 yn 69% yn is nag yn 2001-02.
  • Gostyngodd nifer y prif danau yng Nghymru 1% dros y flwyddyn, o 3,944 yn 2021-22 i 3,918 yn 2022-23. Mae prif danau yn cynnwys pob tân mewn adeiladau nad yw’n wag a cherbydau neu mewn adeileddau y tu allan, neu unrhyw dân sy’n cynnwys anafiadau neu achubiaeth, neu danau ymatebwyd iddynt gan ddefnyddio pump neu fwy o offerynnau.
  • Yn 2022-23, cynyddodd y nifer o danau eilradd 6% o’i gymharu â 2021-22.
  • Gostyngodd y nifer o danau glaswelltir, coetiroedd a chnydau bwriadol 1% o’i gymharu â 2021-22.

Anafiadau

  • Yn 2022-23 roedd 14 o farwolaethau yn sgil tanau yng Nghymru, 7 llai nag yn 2021-22.
  • Roedd 422 o anafiadau nad oeddent yn angheuol yn 2022-23, gostyngiad o 12% o’i gymharu â 2021-22.

Cam-rybuddion tân

  • Yn 2022-23 roedd 16,008 o gam rybuddion tân yng Nghymru, fyny o 15,319 yn 2021-22, cynnydd o 4%.
  • Cynyddodd nifer y cam rybuddion tân maleisus 17% o’i gymharu â 2021-22.

Digwyddiadau Gwasanaeth Arbennig

  • Mynychodd Wasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru 10,353 o Ddigwyddiadau Gwasanaeth Arbennig (yn cynnwys cam-rybuddion tân) yn 2022-23, cynnydd o 19% dros 2021-22.

Larymau mwg

  • Mewn tua 3 allan o 10 o danau mewn anheddau yng Nghymru yn 2022-23, doedd dim larwm tân wedi ei osod.

Achos tanau

  • Yn 2022-23, yr achos unigol mwyaf dros dân damweiniol mewn annedd oedd camddefnydd offer neu beiriant, yn cyfateb i 32% o’r tanau hyn. Hwn yw’r prif achos cyson tanau damweiniol mewn anheddau ers 2001-02.

Amseroedd ymateb

  • Yn 2022-23, ymatebwyd i 58% o brif danau a 67% o danau mewn anheddau yng Nghymru o fewn 10 munud.

Adroddiadau

Ystadegau achosion tân ac achub: Ebrill 2022 i Fawrth 2023 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Andrew O’Rourke

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.