Neidio i'r prif gynnwy

Dadansoddiad o’r holl ddigwyddiadau a fynychwyd gan y tri Awdurdod Tân ac Achub yng Nghymru. Mae’r data diweddaraf yn ymwneud â 2020-21 ac mae’n ddata dros dro fel y nodir yn y siartiau a’r tablau gyda (p).

Effaith COVID-19

Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â’r flwyddyn ariannol rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021, cyfnod yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae’n debygol fod pandemig COVID-19 wedi effeithio ar ddigwyddiadau’r gwasanaeth tân ac achub, ac yn enwedig Digwyddiadau Gwasanaeth Arbennig.

Prif bwyntiau

  • Mae nifer y tanau wedi gostwng ers 2001-02, gan ddisgyn dros 70%, a 50% dros y 10 mlynedd diwethaf. Gwelwyd llai o amrywiaeth yn y blynyddoedd diwethaf gyda’r niferoedd yn aros o gwmpas 10,000 i 13,000. Mae nifer y cam rybuddion tân hefyd wedi gostwng ond i raddau llai, dim ond gostyngiad o 24% ers 2001-02. Mae nifer y Digwyddiadau Gwasanaeth Arbennig wedi amrywio drwy gydol y gyfres amser, ac yn 2020-21 effeithiodd pandemig COVID 19 yn sylweddol arnynt, gan arwain at ostyngiad o 31% o’i gymharu â 2019-20.
  • O’i gymharu â 2019-20, gostyngodd nifer y tanau 2% yn 2020-21; gostyngodd nifer y prif danau 11% tra bu cynnydd o 4% yn nifer y tanau eilaidd.
  • Cafwyd 21 o farwolaethau oherwydd tân yng Nghymru yn 2020-21.
  • Cafwyd 408 o anafiadau nad oeddent yn angheuol yn 2020-21, gostyngiad o 20% o’i gymharu â 2019-20. Gwelwyd gostyngiad ym mhob math o anafiadau e.e. y rhai a anfonwyd i’r ysbyty neu bobl a oedd yn derbyn cymorth cyntaf ac ati.
  • Roedd 1,646 o danau bwriadol ar laswelltir, coetir a chnydau yn 2020-21, gostyngiad o 2% o’i gymharu â 2020-21.

Yr holl ddigwyddiadau tân ac achub a fynychwyd

Mynychodd y Gwasanaethau Tân ac Achub 32,228 o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021. Gostyngiad o 8% o’i gymharu â 2019-20 a’r bedwaredd flwyddyn yn olynol i weld gostyngiad. Ysgogwyd y gostyngiad hwn gan ostyngiad yn nifer y Digwyddiadau Gwasanaeth Arbennig, yn enwedig Gwrthdrawiadau Traffig Ffyrdd a digwyddiadau meddygol. Mae’n debygol bod COVID wedi effeithio ar nifer y digwyddiadau hyn.

Roedd nifer y digwyddiadau a fynychwyd gan y Gwasanaethau Tân ac Achub wedi cyrraedd uchafbwynt yn 2002/03, sef bron i 64,000 o ddigwyddiadau.

Mae nifer y tanau a fynychwyd wedi gostwng 71% ers 2001-02, gyda’r gostyngiadau mwyaf yn digwydd cyn 2012-13; yn y blynyddoedd diwethaf mae’r gostyngiad wedi arafu rhywfaint.

Mae nifer y cam rybuddion tân hefyd wedi gweld tuedd ar i lawr dros y gyfres amser.

Mae nifer y Digwyddiadau Gwasanaeth Arbennig (SSIs) wedi bod yn dueddol o amrywio, er ei bod yn debygol fod pandemig COVID 19 a’r cyfnodau o gyfyngiadau wedi effeithio ar y niferoedd yn 2020-21.

Image
Mae tuedd ar i lawr ar gyfer tanau a cham rybuddion. Mae digwyddiadau gwasanaeth arbennig wedi bod yn dueddol o amrywio.

Data Digwyddiadau Tân ac Achub ar StatsCymru

O’r holl ddigwyddiadau yr aethpwyd iddynt yn 2020-21, roedd 10,328 (32%) ar gyfer tanau, gyda 3,796 ohonynt yn brif danau (12%), 6,199 yn danau eilaidd (19%) a 333 yn danau simnai (1%). Cafwyd 14,880 o ddigwyddiadau cam rybuddion tân (46% o ymweliadau) a 7,020 SSI gan gynnwys cam rybuddion SSI (22%).

Image
Cam rybuddion tân oedd y categori mwyaf gyda 46% o'r presenoldebau.

Data Digwyddiadau Tân ac Achub ar StatsCymru

Tanau a fynychwyd

Mae tanau’n cael eu hystyried yn brif danau, yn danau eilaidd neu’n danau simnai.

Mae prif danau yn cynnwys pob tân mewn adeiladau nad ydynt yn adfail a cherbydau neu mewn strwythurau awyr agored, neu unrhyw dân sy'n cynnwys pobl wedi’u hanafu neu y mae’n rhaid eu hachub, neu danau y mae pump injan dân neu fwy yn mynd iddynt.  

Tanau yn yr awyr agored yw tanau eilaidd yn bennaf, gan gynnwys tanau glaswellt a sbwriel, oni bai eu bod yn cynnwys pobl wedi’u hanafu neu fod angen eu hachub, neu fod pump injan dân neu fwy yn mynd iddynt.

Tanau simnai yw’r rheini mewn adeiladau lle roedd y tân wedi’i gyfyngu o fewn strwythur y simnai.

Mae nifer y tanau wedi gostwng ers 2001-02, gan ddisgyn dros 71%, a 50% dros y 10 mlynedd diwethaf. Gwelwyd llai o amrywiaeth yn y blynyddoedd diwethaf gyda’r niferoedd yn aros o gwmpas 10,000 i 13,000.

Yn 2020-21, roedd y Gwasanaethau Tân ac Achub wedi delio â 10,328 o danau, gostyngiad o 2% o’i gymharu â 2019‑20.

Yn 2020-21 roedd tanau eilaidd yn 60% o’r holl danau, gyda phrif danau yn 37% a thanau simnai yn 3%.

Prif danau

Yn 2020-21, gostyngodd nifer y prif danau 11% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, i 3,796 (y nifer isaf yn y gyfres amser). Gwelodd y tri Awdurdod Tân ac Achub ostyngiad yn nifer y prif danau; roedd Gogledd Cymru wedi gostwng 17%, Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi gostwng 11% a De Cymru wedi gweld gostyngiad o 9%.

Ers 2001-02 mae Canolbarth a Gorllewin Cymru a De Cymru wedi gweld gostyngiad o 71% yn nifer y prif danau. Yng Ngogledd Cymru mae’r nifer wedi gostwng 66%.

Image
Mae nifer y tanau ym mhob un o'r tri GTA yn dangos tuedd gyffredinol ar i lawr.

Data Digwyddiadau Tân ac Achub ar StatsCymru

Yn 2020-21, roedd 40% o’r holl brif danau mewn anheddau, 31% mewn cerbydau ffordd, 19% mewn adeiladau eraill a 10% yn danau awyr agored.  Gwelodd pob math o leoliad ac eithrio yn yr awyr agored ostyngiad yn nifer y prif danau ers 2019-20, gyda thân mewn anheddau wedi gostwng 8%, mewn adeiladau eraill i lawr 17% a thanau cerbydau ffordd wedi gostwng 18%. Cynyddodd nifer y prif danau yn yr awyr agored 15% ac roedd hyn yn bennaf oherwydd cynnydd mewn tanau a oedd yn digwydd yn ddamweiniol.

Yn 2020-21, roedd nifer y tanau mewn cartrefi yn llai na hanner y ffigur a welwyd yn 2001‑02.

Mae nifer y prif danau mewn cerbydau ffordd yng Nghymru wedi gostwng 82% ers 2001‑02.

Image
Mae'r duedd gyffredinol ar i lawr ar gyfer pob categori, ond mae hyn yn fwyaf amlwg ymhlith cerbydau ffordd.

Data Digwyddiadau Tân ac Achub ar StatsCymru

Tanau eilaidd

Tanau eilaidd yw’r categori tân mwyaf cyffredin a fynychir gan Awdurdodau Tân ac Achub Cymru, sy’n cyfrif am 61% o’r holl danau ers 2001-02 a 60% o’r rhai a fynychwyd yn 2020-21. Yn 2020-21, cynyddodd nifer y tanau eilaidd 4% o’i gymharu â 2019-20. Dim ond Gogledd Cymru welodd ostyngiad yn nifer y tanau eilaidd (wedi gostwng 3%); gwelodd Canolbarth a Gorllewin Cymru a De Cymru gynnydd o 5%.  

Aeth Awdurdodau Tân ac Achub Cymru i 6,199 o danau eilaidd yn 2020-21, cynnydd o 4% o’i gymharu â 2019-20. Dyma’r nifer trydydd isaf yn y gyfres amser. 

Mae nifer y tanau eilaidd ym mhob un o’r 3 Awdurdod Tân ac Achub yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol ers 2001-02; 74% yng Ngogledd Cymru a’r De a 63% yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.

Image
Er bod tuedd gyffredinol ar i lawr ym mhob un o'r tri GTA, mae mwy o amrywiadau yn y niferoedd hyn yn arbennig.

Data Digwyddiadau Tân ac Achub ar StatsCymru

Yn 2020-21, bu 2,051 (33% o) o danau eilaidd ar laswelltir, coetir, tir cnydau, gostyngiad o 1% o’i gymharu â 2019-20.

Yn 2020-21, roedd 58% o danau eilaidd yn cael eu hystyried yn danau sbwriel. Cododd nifer y tanau hyn 7% o 3,380 yn 2019-20 i 3,605 yn 2020-21. At ei gilydd, mae gostyngiad wedi bod yn nifer y tanau sbwriel, gostyngiad o 30% ers 2009-10.

Tanau yn ôl cymhelliant

Yn 2020-21, roedd 4,439 o danau damweiniol, y nifer isaf yn y gyfres amser sydd ar gael (ers 2001-02). Gostyngodd y nifer 2% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, (sy’n cyfateb i 94 yn llai o danau damweiniol), ac ers 2001-02 mae’r nifer wedi gostwng dros 50%. Roedd tanau damweiniol i gyfrif am 72% o’r holl brif danau a 22% o danau eilaidd.

Roedd 5,889 o danau bwriadol, gostyngiad o 3%; roedd 82% o danau bwriadol yn 2020-21 yn danau eilaidd.

Mae’r siart isod yn dangos bod nifer y tanau eilaidd bwriadol wedi bod yn dueddol o amrywio, tra bo’r categorïau eraill a ddangosir yn llai cyfnewidiol.

Yn 2020-21, gostyngodd nifer y prif danau damweiniol 9% tra bu cynnydd o 16% yn nifer y tanau eilaidd damweiniol (o’i gymharu â 2019-20). Mae’r cynnydd mewn tanau damweiniol eilaidd yn bennaf oherwydd cynnydd yn y nifer sy’n digwydd yn yr awyr agored.

Bu gostyngiad o 16% yn nifer y prif danau bwriadol, tra bu cynnydd o 1% yn nifer y tanau bwriadol eilaidd.

Image
Mae'r siart yn dangos mai'r gyfres sy'n dueddol a amrywio fwyaf yw tanau eilaidd bwriadol, er bod tuedd ar i lawr yn dal i fod yn amlwg.

Data Digwyddiadau Tân ac Achub ar StatsCymru

Cam rybuddion tân

Diffinnir cam rybudd tân fel digwyddiad lle galwyd yr Awdurdod Tân ac Achub i dân y rhoddwyd gwybod amdano ond nad oedd yn bodoli. Mae cam rybuddion tân yn cael eu categoreiddio fel a ganlyn:

Maleisus

Lle gwneir galwad yn fwriadol am dân nad yw’n bodoli.

Bwriad da

Lle gwnaethpwyd yr alwad yn ddidwyll gan gredu bod tân i fynd iddo.

Oherwydd cyfarpar

Lle sbardunwyd yr alwad am fod larwm tân ac offer diffodd tân ar waith.

Yn 2020-21, roedd 14,880 o gam rybuddion tân yng Nghymru, i fyny o 14,281 yn 2019-20, cynnydd o 4%.  Ers 2001-02 mae nifer y cam rybuddion tân yr aethpwyd iddynt wedi gostwng 24%.

Roedd nifer y cam rybuddion tân bwriad da a’r rheini oherwydd cyfarpar wedi codi yn 2020-21 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol (7% a 3% yn y drefn honno). Roedd nifer y cam rybuddion tân maleisus wedi gostwng 14%.

At ei gilydd, mae gostyngiad wedi bod yn nifer y cam rybuddion tân maleisus, gostyngiad o 91% ers 2001-02.

Image
Gwelwyd tuedd fwy amlwg ar i lawr yn nifer y cam rybuddion tân maleisus.

Data Digwyddiadau Tân ac Achub ar StatsCymru

Digwyddiadau gwasanaeth arbennig

Yn 2020-21, roedd 22% o’r holl ddigwyddiadau a fynychwyd gan Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru yn Ddigwyddiadau Gwasanaeth Arbennig (SSIs). Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnwys gwrthdrawiadau traffig ffyrdd, llifogydd, digwyddiadau meddygol ac ati. Yn wahanol i fathau eraill o ddigwyddiadau, nid yw niferoedd cyffredinol y digwyddiadau gwasanaeth arbennig wedi gweld tuedd gyson ar i lawr ac maent yn dueddol o amrywio.  Mae’n debygol bod pandemig Covid a’r cyfnodau o gyfyngiadau symud wedi effeithio ar nifer y digwyddiadau gwasanaeth arbennig yn 2020-21.

At ei gilydd, bu gostyngiad o 31% o ran mynd i ddigwyddiadau gwasanaeth arbennig yn 2020-21; gwelodd pob un o’r 3 Awdurdod Tân ac Achub ostyngiad, gyda’r lefel yn gostwng 45% yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, 14% yn Ne Cymru a 5% yng Ngogledd Cymru. Mae’r gostyngiad mewn digwyddiadau gwasanaeth arbennig yn y Canolbarth a’r Gorllewin yn bennaf oherwydd gostyngiad yn nifer y digwyddiadau meddygol yr aethpwyd iddynt, er bod llawer o gategorïau o ddigwyddiadau gwasanaeth arbennig wedi gweld gostyngiad yn y niferoedd.

Image
Mae'r siartiau'n dangos, am y tro cyntaf yn y gyfres, nad Canolbarth a Gorllewin Cymru a fynychodd y nifer mwyaf o Ddigwyddiadau Gwasanaeth Arbennig – De Cymru a wnaeth hynny. Gogledd Cymru a fynychodd y nifer lleiaf.

Data Digwyddiadau Tân ac Achub ar StatsCymru

Roedd damweiniau traffig ffyrdd i gyfrif am 20% o ddigwyddiadau gwasanaeth arbennig er bod nifer y digwyddiadau yr aethpwyd iddynt wedi gostwng 40%. Mae ystadegau traffig ffyrdd yn dangos bod lefel y traffig ar y ffyrdd wedi gostwng yn sylweddol yn ystod 2020 oherwydd pandemig COVID-19 a’r cyfyngiadau teithio a gyflwynwyd ar adegau yn ystod y flwyddyn (gostyngiad o 23.4% o’i gymharu â 2019).

Gostyngodd nifer y digwyddiadau meddygol yr aethpwyd iddynt 82%.

Gostyngodd nifer y llifogydd a fynychwyd 12% yn dilyn y niferoedd mawr a welwyd yn 2019-20. Fodd bynnag, roedd y digwyddiadau hyn yn dal yn 14% o’r digwyddiadau gwasanaeth arbennig, ac nid effeithiodd y pandemig ar y gyfradd.

Tabl 1 Nifer y digwyddiadau gwasanaeth arbennig yn ôl math, 2018-19 i 2020-21
Math o digwyddiadau gwasanaeth arbennig 2018-19 2019-20 2020-21(p)
Gwrthdrawiadau traffig ffyrdd  2,202 2,122 1,278
Llifogydd  571 993 876
Achub neu symud o ddwr  97 214 147
Digwyddiadau eraill lle cafodd pobl eu hachub/rhyddhau  327 322 256
Digwyddiadau cynorthwyo anifeiliaid  305 329 261
Gwneud yn ddiogel  283 346 235
Rhyddhau lifft  360 359 217
Sicrhau mynediad  563 572 469
Tynnu gwrthrychau oddi wrth bobl  278 276 337
Digwyddiad meddygol, cyd-ymatebwr/ymatebwr cyntaf  1,809 2,117 390
Cynorthwyo asiantaethau eraill  1,098 1,034 954
Arall 870 968 1,023
Pob Digwyddiad Gwasanaeth Arbennig  8,763 9,652 6,443
Holl alwadau ffug y Gwasanaethau Arbennig 515 469 577

Ffynhonnell: System Cofnodi Digwyddiadau
(p) Data am dros dro.

Marwolaethau ac anafiadau cysylltiedig â thân

Marwolaethau tân

Diffinnir anaf angheuol fel person y mae ei farwolaeth yn cael ei phriodoli i dân, hyd yn oed os digwyddodd y farwolaeth wythnosau neu fisoedd yn ddiweddarach.

Cafwyd 21 o anafiadau angheuol yn ystod 2020-21. Mae hyn 5 yn fwy nag yn y flwyddyn flaenorol a’r nifer uchaf ers 2011-12. Mae’r duedd gyffredinol ers 2001-02 (pan fu 38 o farwolaethau) wedi bod ar i lawr, ond mae’r niferoedd yn fach ac yn dueddol o amrywio.

Tabl 2: Nifer a chyfradd yr anafiadau angheuol o danau, 2011-12 i 2020 21
Blwyddyn ariannol Nifer Fesul miliwn o boblogaeth(a)
2011-12 23 7.5
2012-13 17 5.5
2013-14 17 5.5
2014-15 20 6.5
2015-16 19 6.1
2016-17 19 6.1
2017-18 15 4.8
2018-19 20 6.4
2019-20 16 5.1
2020-21(p) 21 6.6

Ffynhonnell: System Cofnodi Digwyddiadau
(a) Daw’r data poblogaeth o Amcangyfrifon Canol Blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Ers 2001-02, bu 77% o’r anafiadau angheuol mewn tanau mewn anheddau, sy’n cyfateb i gyfanswm o 342 o’r 443 o farwolaethau. Yn 2020-21, roedd 90% o’r marwolaethau o ganlyniad i danau mewn anheddau; roedd 8 yn fwy o farwolaethau mewn anheddau nag yn y flwyddyn flaenorol.

Yn 2020-21, roedd 18 o’r 21 o farwolaethau yn bobl 60 oed neu hŷn. Ar gyfer y rhan fwyaf o’r gyfres amser sydd ar gael, y grŵp oedran ‘60 neu hŷn’ oedd â’r gyfradd uchaf o farwolaethau, ac yn 2020-21 mae’r gyfradd marwolaethau ar gyfer y grŵp hwn yn uwch o lawer na’r grwpiau oedran eraill a bron ddwywaith y gyfradd yn y flwyddyn flaenorol.

Anafiadau tân nad ydynt yn angheuol

O fis Ebrill 2009 ymlaen, cofnodir anafiadau nad ydynt yn angheuol mewn un o bedwar dosbarth difrifoldeb fel a ganlyn:

  1. Y dioddefwr wedi mynd i’r ysbyty, mae’r anafiadau’n ymddangos yn ddifrifol.
  2. Y dioddefwr wedi mynd i’r ysbyty, mae’r anafiadau’n ymddangos yn rhai mân.
  3. Rhoddwyd cymorth cyntaf yn y fan a’r lle.
  4. Argymhellwyd archwiliad rhag ofn, pan fydd unigolyn yn cael ei anfon i’r ysbyty neu’n cael ei gynghori i weld meddyg rhag ofn, ond nad oes unrhyw anaf na thrallod amlwg.

Yn 2020-21, roedd 408 o anafiadau nad oeddent yn angheuol (gostyngiad o 20% o’i gymharu â 2019-20), sef y nifer (a’r gyfradd) ail isaf yn y gyfres amser. Mae’r duedd gyffredinol dros y deng mlynedd diwethaf wedi bod ar i lawr, er bod y niferoedd a’r cyfraddau cysylltiedig wedi amrywio yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Tabl 3: Nifer a chyfradd yr anafiadau nad ydynt yn angheuol o danau, 2011-12 i 2020-21
Blwyddyn ariannol Nifer Fesul miliwn o boblogaeth(a)
2011-12 592 193.2
2012-13 541 176.0
2013-14 626 203.1
2014-15 543 175.6
2015-16 592 191.0
2016-17 621 199.5
2017-18 526 169.0
2018-19 396 126.2
2019-20 509 161.4
2020-21(p) 408 128.7

Ffynhonnell: System Cofnodi Digwyddiadau
(a) Daw’r data poblogaeth o Amcangyfrifon Canol Blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
(p) Data am dros dro.

Er bod pob grŵp o gleifion wedi gweld gostyngiad, roedd y gostyngiad cyffredinol yn deillio o ostyngiad yn nifer y rhai a oedd yn mynd i’r ysbyty gyda mân anafiadau, i lawr 31% o’i gymharu â 2019-20. Yn 2020-21, cafodd 68% o’r rhai ag anafiadau nad oeddent yn angheuol gymorth cyntaf neu fe’u cynghorwyd i gael archwiliad rhag ofn. Aethpwyd â 26% arall o’r rhai ag anafiadau nad oeddent yn angheuol i’r ysbyty gyda mân anafiadau ac aethpwyd â’r 6% arall i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Image
Mae'r siart yn dangos er bod nifer y rhai a anafwyd i'r ysbyty wedi gostwng yn amlwg er 2001-02.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Y Cyd-destun

Mae’r dadansoddiad yn yr adroddiad hwn yn ymwneud ag achosion y gwasanaethau tân ac achub rhwng mis Ebrill 2020 a diwedd mis Mawrth 2021, ac felly mae’n cwmpasu cyfnod y mae pandemig y Coronafeirws (Covid-19) wedi effeithio arno, a’r gwahanol gyfyngiadau cysylltiedig â COVID-19 a gyflwynwyd o 23 Mawrth 2020 ymlaen

Mae’r adroddiad ar Achosion Tân ac Achub yn manylu ymhellach ar wybodaeth allweddol am ansawdd a methodoleg.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Claire Davey
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 6699
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Ystadegau Gwladol

SB 31/2021