Neidio i'r prif gynnwy

Data ar danau, lleoliad, achosion, cymhelliad, anafiadau, galwadau ffug a Digwyddiadau Gwasanaeth Arbennig a fynychwyd ay gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Mae'r dadansoddiad yn y bwletin hwn yn ymwneud â digwyddiadau'r gwasanaeth tân ac achub rhwng mis Ebrill 2019 a diwedd mis Mawrth 2020 ac felly mae'n cwmpasu cyfnod yn bennaf cyn pandemig coronafeirws (COVID-19), a'r mesurau cyfyngiadau a gyflwynwyd ar 23 Mawrth 2020.

Tanau

  • Yn 2019-20, gostyngodd nifer y tanau a fynychwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Cymru 18% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Ers 2001-02 cafwyd tuedd ar i lawr yn nifer y digwyddiadau a fynychwyd; mae ffigwr 2019-20 yn 70% yn is nag yn 2001-02.
  • Gostyngodd nifer y prif danau yng Nghymru 3% dros y flwyddyn, o 4,392 yn 2018-19 i 4,277 yn 2019-20. Mae prif danau yn cynnwys  pob tân mewn adeiladau nad yw’n wag a cherbydau neu mewn adeileddau y tu allan, neu unrhyw dân sy’n cynnwys anafiadau neu achubiaeth, neu danau a ymatebwyd iddynt gan ddefnyddio pump neu fwy o offerynnau.
  • Yn 2019-20, gostyngodd y nifer o danau eilradd 27% o’i gymharu â 2018-19.
  • Gostyngodd y nifer o danau glaswelltir, coetiroedd a chnydau bwriadol 41% o’i gymharu â 2018-19.

Anafiadau

  • Yn 2019-20 roedd 17 o farwolaethau yn sgil tanau yng Nghymru. 
  • Roedd 507 o anafiadau nad oeddent yn angheuol yn 2019-20, cynnydd o 28% o’i gymharu â 2018-19. Roedd y gostyngiad hwn yn bennaf oherwydd cynnydd o 45% yn y bobl hynny sy'n derbyn cymorth cyntaf neu'n cael eu hanfon am wiriadau rhagofalus.

Cam-rybuddion tân

  • Yn 2019-20 roedd 14,257 o gam rybuddion tân yng Nghymru, i lawr o 14,485 yn 2018-19, gostyngiad o 2%.
  • Ni welodd nifer y cam rybuddion tân maleisus o’i gymharu â 2019-20.

Digwyddiadau Gwasanaeth Arbennig

  • Mynychodd Wasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru 10,107 o Ddigwyddiadau Gwasanaeth Arbennig yn 2019-20, cynnydd o 9% dros 2018-19.

Larymau mwg

  • Doedd dim larwm tân wedi ei osod mewn traean o danau mewn anheddau yng Nghymru yn 2019-20.

Achos tanau

  • Yn 2019-20, yr achos unigol mwyaf dros dân damweiniol mewn annedd oedd camddefnydd offer neu beiriant, yn cyfateb i draean o’r tanau hyn. Hwn yw’r prif achos cyson tanau damweiniol mewn anheddau ers 2001-02.

Amseroedd ymateb

  • Yn 2019-20, ymatebwyd i 61% o brif danau a 70% o danau mewn anheddau yng Nghymru o fewn 10 munud.

Adroddiadau

Ystadegau achosion tân ac achub, Ebrill 2019 i Fawrth 2020 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Ystadegau achosion tân ac achub, Ebrill 2019 i Fawrth 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 151 KB

ODS
Saesneg yn unig
151 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.