Neidio i'r prif gynnwy

Data ar danau, lleoliad, achosion, cymhelliad, anafiadau, galwadau ffug a Digwyddiadau Gwasanaeth Arbennig a fynychwyd ay gyfer Ebrill 2018 i Mawrth 2019.

Tanau

  • Yn 2018-19, cynyddodd nifer y tanau a fynychwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Cymru 17% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Ers 2001-02 cafwyd tuedd ar i lawr yn nifer y digwyddiadau a fynychwyd; mae ffigwr 2018-19 yn 63% yn is nag yn 2001-02.
  • Cynyddodd nifer y prif danau yng Nghymru 2% dros y flwyddyn, o 4,316 yn 2017-18 i 4,392 yn 2018-19. Mae prif danau yn cynnwys pob tân mewn adeiladau nad yw’n wag a cherbydau neu mewn adeileddau y tu allan, neu unrhyw dân sy’n cynnwys anafiadau neu achubiaeth, neu danau a ymatebwyd iddynt gan ddefnyddio pump neu fwy o offerynnau.
  • Yn 2018-19, cynyddodd y nifer o danau eilradd 30% o’i gymharu â 2017-18.
  • Cynyddodd y nifer o danau glaswelltir, coetiroedd a chnydau bwriadol 75% o’i gymharu â 2017-18.

Anafiadau

  • Yn 2018/19 roedd 20 o farwolaethau yn sgil tanau yng Nghymru.  
  • Roedd 396 o anafiadau nad oeddent yn angheuol yn 2018-19, gostyngiad o 25% o’i gymharu â 2017-18. Roedd y gostyngiad hwn yn bennaf oherwydd gostyngiad o 33% yn y bobl hynny sy'n derbyn cymorth cyntaf neu'n cael eu hanfon am wiriadau rhagofalus.

Cam-rybuddion tân

  • Yn 2018-19 roedd 14,487 o gam rybuddion sy’n gysylltiedig â thân yng Nghymru, i fyny o 14,161 yn 2017-18, sef cynnydd o 2%.
  • Bu gostyngiad yn nifer y cam rybuddion maleisus sy’n gysylltiedig â thân o 419 yn 2017-18 i 372 yn 2018-19.

Digwyddiadau gwasanaeth arbennig

  • Mynychodd wasanaethau tân ac achub yng Nghymru 9,278 o ddigwyddiadau gwasanaeth arbennig yn 2018-19, gostyngiad o 20% dros 2017-18.

Larymau mwg

  • Doedd dim larwm tân wedi ei osod mewn dros draean o danau mewn anheddau yng Nghymru yn 2017-18.

Achos tanau

  • Yn 2018-19, yr achos unigol mwyaf dros dân damweiniol mewn annedd oedd camddefnydd offer neu beiriant, yn cyfateb i draean o’r tanau hyn. Hwn yw’r prif achos cyson tanau damweiniol mewn anheddau ers 2001-02.

Amseroedd ymateb

  • Yn 2018-19, ymatebwyd i 61% o brif danau a 70% o danau mewn anheddau yng Nghymru o fewn 10 munud.

Adroddiadau

Ystadegau achosion tân ac achub, Ebrill 2018 i Mawrth 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
Saesneg yn unig
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Ystadegau achosion tân ac achub, Ebrill 2018 i Mawrth 2019: tablau , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 152 KB

ODS
Saesneg yn unig
152 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.