Neidio i'r prif gynnwy

Rydym wedi ymrwymo i fod yn dryloyw am breifatrwydd a’n defnydd o ddata.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Log o gytundebau Data Ystadegol ac Ymchwil , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 55 KB

ODS
55 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Caiff y cofnod hwn o drefniadau cymeradwy ar gyfer gweld ddata ei ddiweddaru’n rheolaidd i sicrhau tryloywder ynghylch rhannu data at ddibenion ystadegau ac ymchwil.

Mae ein datganiad ar gyfrinachedd a gweld ddata yn amlinellu sut rydym yn cadw’n ddiogel y data a ddefnyddiwn fel sail ar gyfer ystadegau swyddogol ac ymchwil, gan barchu hawliau unigolion i breifatrwydd.

Mae’r datganiad hefyd yn egluro bod cyfrinachedd a diogelu data personol yn flaenoriaeth bendant. Rydym hefyd eisiau manteisio i’r eithaf ar werth data er lles y cyhoedd, ac mae’n bosibl y byddwn yn rhannu data at ddibenion penodol a phriodol yn ymwneud ag ystadegau ac ymchwil.

Mae’r broses rhannu data yn destun proses gymeradwyo lem sy’n:

  • asesu diben y prosiect
  • sicrhau bod sail gyfreithiol dros rannu data,
  • ystyried a oes unrhyw oblygiadau moesegol
  • sicrhau y bydd mesurau diogelwch priodol ar waith mewn perthynas â’r data.

Byddwn yn sicrhau bod cyn lleied o ddata â phosibl yn cael eu darparu. Oni bai ei bod yn wirioneddol angenrheidiol, ni chaiff data personol eu rhannu o gwbl, neu byddwn yn rhoi mynediad at ddata anhysbys drwy amgylchedd ymchwil diogel priodol. Byddwn ond yn rhannu data personol adnabyddadwy pan fo hynny’n gyfreithlon a bod diben penodol dros wneud hynny.

Pan gaiff data eu rhannu, sefydlir cytundeb mynediad data rhwng Llywodraeth Cymru a’r sefydliad sy’n derbyn. Mae’r cytundeb yn amlinellu sut y gellid defnyddio’r data, ac am ba hyd y gellid eu storio. Ar ôl y cyfnod hwn, rhaid dileu’r data.