Ystadegau ac ymchwil: datganiad ar arferion cyhoeddi protocol
Yn ein hymrwymo i gyhoeddi a chynnal datganiad yn disgrifio sut rydym yn bodloni'r safonau a nodwyd yn y protocol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r Protocol hwn yn amlinellu sut bydd y Prif Ystadegydd a, gyda’i awdurdod ef, aelodau eraill o Wasanaeth Ystadegol y Llywodraeth yn Llywodraeth Cymru, ac mewn cyrff cysylltiedig, yn ymgymryd â’u cyfrifoldebau o ran arferion rhyddhau.
Daw’r awdurdod ar gyfer y Protocol o Ddeddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007 a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 26 Gorffennaf 2007. Mae wedi’i ysgrifennu yn unol â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, a gyhoeddwyd gan Awdurdod Ystadegau’r DU (yr Awdurdod) fis Ionawr 2009. Mae hefyd yn cyfateb i ganllawiau’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ‘Cyhoeddi ystadegau swyddogol ac ystadegau gwladol’, a gyhoeddwyd fis Hydref 2018.
Wrth feithrin ymddiriedaeth mewn gwybodaeth swyddogol, mae’n bwysig bod arferion rhyddhau clir ac egwyddorol yn rhan hanfodol o natur yr holl ystadegau swyddogol. Y pwyslais yn y Protocol hwn yw tryloywder, egwyddorion allweddol a chydymffurfio â nifer bach o reolau sy’n berthnasol yn eang.
Mae ystadegau swyddogol achrededig yn cwmpasu data llywodraeth a gynhyrchir i’r safonau proffesiynol uchel a amlinellir yn y Cod Ymarfer, a gellir eu hadnabod oddi wrth logo ystadegau swyddogol achrededig. Fodd bynnag, dylai’r egwyddorion sy’n sail i’r Protocol hwn o arferion rhyddhau agored fod yn berthnasol i’r holl ystadegau swyddogol a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru.
Rolau
Mae Gweinidogion Cymru, gan gynnwys y gweinidog sy’n gyfrifol am Ystadegau a thrwy ymgynghori â’r Prif Ystadegydd, wedi gosod y rheolau ar gyfer gweld ystadegau cyn eu rhyddhau, a hynny trwy gyfrwng Gorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009.
Bydd yr Ystadegydd Gwladol, fel Pennaeth Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth, a thrwy ymgynghori â Phrif Ystadegydd Llywodraeth Cymru, yn gyfrifol am gywirdeb proffesiynol yr allbynnau hynny sy’n cynnwys ystadegau swyddogol. Ystadegau’r DU, hefyd yn gosod safonau proffesiynol ar gyfer ystadegau swyddogol, gan gynnwys safonau ar gyfer trefniadau rhyddhau ac asesu ansawdd. Yr Awdurdod sy’n gyfrifol am bennu a yw allbwn ystadegol yn bodloni’r safonau hynny trwy gyfrwng proses achredu ffurfiol.
Bydd Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru, gan ymgynghori â’r Ystadegydd Gwladol, yn hyrwyddo ac yn sicrhau ymlyniad i’r Cod Ymarfer ar Ystadegau a’r Protocol hwn, ac yn ceisio datrys unrhyw faterion yn ymwneud â dehongli’r Cod a’r Protocol yn Llywodraeth Cymru. Y Prif Ystadegydd yw ffynhonnell cyngor awdurdodol i Weinidogion ar eu dehongliad. Erys y cyfrifoldeb terfynol am gynnwys, ffurf neu amseru rhyddhau ystadegau swyddogol gyda’r Prif Ystadegydd.
Cyfrifoldeb a pholisïau trefniadol
Rhaid i’r rhai sy’n cynhyrchu allbynnau(a) ystadegol gael eu diogelu rhag unrhyw bwysau gwleidyddol a allai ddylanwadu ar gynhyrchu neu gyflwyno’r ystadegau.
Y Prif Ystadegydd yn unig, fel Pennaeth Proffesiwn ar gyfer ystadegau, sy’n gyfrifol am benderfynu ar gynnwys ac amseriad datganiadau ystadegol(a).
Bydd yr holl rwymedigaethau statudol a chanllawiau a gymeradwywyd yn fewnol, sy’n ymwneud â rhyddhau datganiadau ystadegol, yn cael eu dilyn.
Bydd yr holl ddatganiadau gan y llywodraeth a gyhoeddir i gyd-fynd ag ystadegau swyddogol, sy’n cyfeirio atynt neu sy’n seiliedig arnynt:
- yn cynnwys dolen amlwg at y datganiad ystadegol ac yn cyfeirio’n glir at ffynhonnell yr ystadegau
- wedi’u labelu’n glir fel datganiadau polisi neu ddatganiadau gweinidogol, ac yn hawdd eu gwahaniaethu oddi wrth ddatganiad ystadegol
- yn bodloni’r safonau proffesiynol a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru.
(a) Mae’r cyfeiriadau at ddatganiadau neu allbynnau ystadegol yn y protocol hwn yn cyfeirio at bob math o wybodaeth ystadegol a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru, nid dim ond datganiadau ystadegol (cyntaf), ond bwletinau, data StatsCymru, tudalennau penawdau, adnoddau neu wefannau rhyngweithiol etc.
Cyflwyno a Sylwadau
Bydd ystadegau yn cael eu cyflwyno’n ddiduedd ac yn wrthrychol.
Bydd ffurf cyflwyno penodol, a fydd yn ystyried anghenion defnyddwyr, yn cael ei fabwysiadu ar gyfer datganiadau sy’n digwydd yn rheolaidd. Bydd hwn yn ddigon hyblyg i ganiatáu egluro agweddau ar y data wrth iddynt amrywio o gyfnod i gyfnod.
Dim ond ar sail anghenion defnyddwyr y dylid gwneud newidiadau sylweddol i gynnwys yr allbynnau, a hynny ar ôl trafod gyda’r defnyddwyr a chan sicrhau bod y safonau hygyrchedd yn dal i gael eu bodloni. Rhaid i’r rhesymau am y newid fod ar gael yn gyhoeddus a, lle bo modd, dylid eu datgan ymlaen llaw. Ymgynghorir â defnyddwyr ar unrhyw newidiadau arfaethedig i’r trefniadau cyhoeddi arferol.
Dylid osgoi unrhyw ryddhau nas cynlluniwyd neu ryddhau dethol ar rannau o ymchwil, a phan mae’n digwydd dylai hynny fod am resymau ystadegol yn hytrach na rhesymau polisi.
Hygyrchedd
Dylai ystadegau swyddogol fod ar gael yn gyfartal i bawb ar yr un pryd, gydag eithriadau cyfyngedig. Dylai’r holl ystadegau gael eu rhyddhau ar ffurfiau sy’n bodloni anghenion defnyddwyr yr ystadegau hynny orau, gan gynnwys pobl sydd ag amhariadau, ac sy’n hybu mynediad eang a thrafodaeth wybodus.
Dylai ystadegau fod ar gael mewn cymaint o fanylder ag sy’n ddibynadwy ac yn ymarferol, yn amodol ar gyfyngiadau cyfreithiol a chyfrinachol, gan gynnig dewis a hyblygrwydd o ran ffurf yn unol â lefel y manylder sy’n angenrheidiol gan y defnyddiwr.
Dylai ystadegau gael eu hyrwyddo mewn ffyrdd sy’n galluogi dysgwyr i ganfod a chael gafael ar wybodaeth sy’n berthnasol i’w hanghenion.
Rhaid i ystadegau swyddogol gael eu dosbarthu mewn ffurfiau sy’n galluogi ac yn annog dadansoddi ac ailddefnydd. Dylid cyhoeddi data yn unol â Chynllun Data Agored Llywodraeth Cymru a chan ddefnyddio codau daearyddol rhanbarthol.
Rhaid i’r holl wybodaeth sy’n ymwneud â rhyddhau ystadegau swyddogol fod ar gael yn gyhoeddus.
Bydd rhaglen o allbynnau ystadegol yn cael ei chynnal a’i diweddaru’n rheolaidd am flwyddyn lawn ymlaen llaw yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer ystadegau swyddogol.
- Mae datganiadau cyntaf ystadegol i gyhoeddi data newydd.
- Mae bwletinau ystadegol yn darparu dadansoddiad eilaidd manylach o setiau data.
- Defnyddir penawdau ystadegau i ddarparu dadansoddiad unigol byr neu fynegbost i ddadansoddiad a gynhyrchwyd gan adran arall.
- Mae datganiadau data yn ystadegau newydd sydd ar gael trwy StatsCymru neu offeryn rhyngweithiol (fel Microsoft PowerBI neu Tableau) yn unig. Cyhoeddir y rhain hefyd yn unol â’r Cod Ymarfer ar Gyfer ystadegau swyddogol.
O bryd i’w gilydd mae’n bosibl y bydd erthyglau ystadegol yn cael eu cynhyrchu sy’n rhoi dadansoddiad o faterion methodolegol neu ddadansoddiadau arbrofol penodol. Ymatebol yw’r rhain yn gyffredinol a byddant yn cael eu cynnwys yn y calendr cyn gynted ag y datblygir unrhyw gynlluniau i gynhyrchu erthygl.
Mae gwefannau rhyngweithiol hefyd yn cael eu cynhyrchu i gefnogi rhai datganiadau ystadegol. Gallai'r gwefannau hyn hefyd gynrychioli cyhoeddi set ddata am y tro cyntaf.
Bydd allbynnau ystadegol yn cael eu cyfieithu yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru o dan Safonau’r Gymraeg.
Bydd yr allbynnau yn unol â chanllawiau cyhoeddi digidol y llywodraeth, gan gynnwys y safonau hygyrchedd.
Gweld cyn rhyddhau
Yr unig adeg y gellir cael gweld ystadegau swyddogol yn gynnar yw pan fabwysiedir arferion i rwystro unrhyw gyfle (neu ganfyddiad o gyfle) am fantais bersonol. Bydd yr holl drefniadau gweld cyn rhyddhau yn cael eu datgan yn gyhoeddus yn unol â Gorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009.
Ni fydd unigolion sy’n cael gweld ystadegau’n gynnar yn ceisio newid dyddiadau cyhoeddi na newid cynnwys na ffurf y deunydd y maent yn ei dderbyn.
Gall ceisio elwa ar gael gweld yn gynnar wybodaeth sy’n sensitif o ran y farchnad (e.e. masnachu mewnol) fod o fewn y drefn sifil o gam-drin y farchnad yn ogystal â bod yn drosedd o dan gyfraith y DU.
Pan roddir mynediad cynnar breintiedig i ystadegau sy’n sensitif o ran y farchnad, ni fydd yn digwydd fwy na 24 awr cyn eu rhyddhau. Mewn amgylchiadau arferol, bydd y rhai sy’n cael gweld ystadegau cyn eu rhyddhau yn cael gweld gwybodaeth nad yw’n sensitif o ran y farchnad ddim mwy na 5 diwrnod gwaith cyn ei rhyddhau.
Nodiadau
Mae’r cyfnod hwn yn berthnasol i ddyddiau gwaith arferol rhwng dydd Llun a dydd Gwener a bydd yn cael ei estyn fel y bo angen os yw cyfnod o’r fath yn cynnwys penwythnos a/neu wyliau cyhoeddus.
Dim ond Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru all awdurdodi estyniad i’r cyfnod hwn, os oes amgylchiadau arbennig yn cyfiawnhau hynny. Fel arfer ni fydd oedi gweithredol yn rheswm dros estyn y cyfnod ar gyfer mynediad breintiedig.
Ar hyn o bryd nid oes ystadegau swyddogol a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru sy’n cael eu cyfrif yn sensitif o ran y farchnad.
Mynediad breintiedig i Weinidogion Cymru
Caiff gweinidogion, ynghyd â’u swyddogion, weld allbynnau ystadegol yn gynnar. Yr unig ddiben yw er mwyn i Weinidogion allu ymateb yn llawn pan fydd cwestiynau’n codi adeg y cyhoeddi.
Bydd mynediad breintiedig wedi’i gyfyngu’n gaeth a bydd unrhyw fynediad o’r fath wedi’i gyfyngu i’r amser lleiaf posibl sydd ei angen i baratoi ymateb defnyddiol i’r data pan gânt eu rhyddhau. Dan amgylchiadau arferol, ni fydd hyn yn fwy na 5 diwrnod gwaith cyn cyhoeddi. Mae’r Protocol hwn yn gweithio yn unol â Gorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol Cyn eu Rhyddhau (Cymru), 2009, Atodlen 1.1 i 1.3, o ran amlinellu pwy fel arfer sydd â’r hawl i gael mynediad breintiedig cynnar ac am ba hyd.
Dylai marciau diogelwch a nodyn atgoffa syml o’r defnydd cyfreithlon o ystadegau swyddogol dan fynediad breintiedig gael eu cynnwys gyda’r holl ddeunydd a ddarperir cyn ei ryddhau.
Canfyddiadau sy’n dod i’r amlwg
Pan fydd ystadegau swyddogol yn deillio o raglen waith helaeth, barhaus, er enghraifft ar gylch cynhyrchu blynyddol, efallai y bydd angen rhoi gwybod i Weinidogion neu eraill nad ydynt yn rhan o’r broses gynhyrchu ystadegol benodol honno am ganfyddiadau sy’n dod i’r amlwg ymhell cyn y rhyddhau, a hynny pan nad yw’r ystadegau terfynol ar gael, er mwyn ystyried goblygiadau polisi. Mewn sefyllfaoedd o’r fath, bydd Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru, mewn ymgynghoriad â’r Ystadegydd Gwladol os oes angen, yn asesu a oes angen gwneud eithriad a rhyddhau’r canfyddiadau hyn sy’n dod i’r amlwg i’r cyhoedd yn gynnar.
Nid yw hyn yn berthnasol i ystadegau gyda chyfnodoldeb o lai na blwyddyn; mae’r datganiadau ystadegol hyn yn cael eu cynhyrchu o fewn amserlenni mor fyr fel na all y cysyniad o ganfyddiadau sy’n dod i’r amlwg fod yn berthnasol. Ni fydd canfyddiadau cychwynnol i’r allbynnau ystadegol rheolaidd hyn yn cael eu rhyddhau.
Digwyddiadau eithriadol
Gellir gwneud trefniadau eithriadol ar gyfer digwyddiadau economaidd allweddol. Er enghraifft, pan gyhoeddir dyddiad y Gyllideb neu’r adroddiad rhag-gyllidebol bob blwyddyn, bydd yr Ystadegydd Gwladol yn penderfynu, at ddiben paratoi datganiad y Gyllideb yn unig, a oes achos cymhellol ar seiliau gweithredol am fynediad cynnar eithriadol i ddata penodol ar gyfer nifer cyfyngedig o swyddogion y Trysorlys. Gallai hyn gynnwys ystadegau swyddogol a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru. Bydd hyn fel arfer yn cael ei ganiatáu, a bydd yn cael ei nodi yn ôl-weithredol ar y datganiadau ystadegol yr effeithiwyd arnynt.
Bydd yr un gweithdrefnau yn berthnasol ar gyfer digwyddiadau allweddol eraill y mae’r Ystadegydd Gwladol yn barnu bod angen eu trin yn eithriadol.
Sicrhau ansawdd
Gellir rhoi mynediad cynnar i ystadegau swyddogol nad ydynt wedi eu rhyddhau i bobl sy’n gallu cynnig syniadau, sylwadau a beirniadaeth ddefnyddiol ar ansawdd a chyflwyniad y wybodaeth, neu ar unrhyw faterion cysylltiedig o bwys. Pan wneir hyn, dylai’r tîm sy’n cynhyrchu’r ystadegau gadw trywydd archwilio cywir o’r dosbarthiad, gan gynnwys beth a anfonir, i bwy, pryd a ble. Dylid cynghori’r rhai sy’n derbyn deunydd nad ydyw wedi cael ei ryddhau ynghylch eu cyfrifoldeb o ran cyfrinachedd, a’u rhybuddio am gosbau cyfreithiol posibl a allai fod ynghlwm â rhyddhau ar gam.
Lle y bo modd, bydd mynediad o’r fath yn cael ei roi mewn amgylcheddau caeedig lle na fydd unrhyw ddeunydd yn cael ei gymryd oddi yno yn gorfforol nac yn electronig gan y rhai sy’n cael gweld deunydd nad ydyw wedi’i ryddhau. Anogir defnyddio systemau rhannu ffeil electronig lle gall mynediad fod yn gyfyngedig.
Rhwymedigaethau rhyngwladol
Mae cytuniadau a chytundebau rhyngwladol yn ei gwneud yn ofynnol i’r DU ddarparu data penodol i gyrff ystadegol rhyngwladol at ddiben cynhyrchu cymariaethau ac allbynnau rhyngwladol. Gall hyn olygu rhyddhau ystadegau sy’n ymwneud â Chymru yn gynnar er mwyn cynhyrchu ystadegau ar gyfer y DU gyfan.
Bydd unrhyw geisiadau ar gyfer mynediad breintiedig cyn rhyddhau i ystadegau swyddogol gan gyrff ystadegol rhyngwladol yn cael eu hystyried fesul achos gan yr Ystadegydd Gwladol a Phrif Ystadegydd Llywodraeth Cymru.
Gwybodaeth Reoli
Pan fydd ystadegau swyddogol yn deillio o ffynonellau a ddefnyddir yn bennaf i reoli a llywio prosesau y Llywodraeth, bydd gan nifer o unigolion fynediad i’r ffynonellau data wrth wneud eu gwaith arferol. At ddibenion ymarferol, mae hyn gyfystyr â math ar fynediad cynnar ac mae angen ei gydnabod felly a’i reoli yn unol â hynny.
Dylai defnydd o ddata gweinyddol neu Wybodaeth Rheoli a ddefnyddwyd i gynhyrchu ystadegau swyddogol ddilyn y ‘Canllawiau Ystadegydd Cenedlaethol ar Wybodaeth Reoli ac Ystadegau Swyddogol’.
O ran arferion rhyddhau, dylid nodi’r ddau bwynt canlynol:
- er mwyn rhoi hyder nad yw mynediad eang o fewn y llywodraeth i’r wybodaeth hon cyn ei rhyddhau’n gyhoeddus yn effeithio ar ffurf na chyd-destun rhyddhau’r ystadegau swyddogol a ddaw yn sgil hynny, bydd dyddiadau cyhoeddi yn cael eu hamserlennu ymhell o flaen llaw (gweler safon 3 uchod) a glynir yn gaeth at ffurfiau cyhoeddi
- dylai’r rhai sydd â mynediad i’r data hyn osgoi unrhyw sylwadau cyhoeddus a fyddai’n niweidio integriti’r datganiad ystadegau swyddogol hwnnw
Rheoli Rhyddhau
Os oes angen gweithredol am fynediad cynnar i gyrff sy’n rhannu’r cyfrifoldeb am ddosbarthu datganiadau ystadegol, bydd mynediad cynnar yn cael ei ganiatáu pan fydd Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod arferion addas wedi’u mabwysiadu i gyfyngu’r cyfle ar gyfer budd personol, a lle mae’r trefniadau yn ddigon tryloyw.
Embargo
As a general rule, embargoed access is not provided to the media.
Under exceptional circumstances the Chief Statistician may determine that embargoed access is appropriate or necessary. In such cases embargoed access may be given to accredited journalists, where it is seen as necessary to provide them with a period of time to assimilate and comprehend the data, in order to provide for informed comment at the time of release, or if it is required to distribute material to the media in time for publication.
Embargoed access cannot apply to market sensitive releases. It can only apply to the release of non-market sensitive data where there is limited opportunity for personal gain by those who have early access. It will only be given for:
- complex reports, the value of which will be better understood by the public if accompanied by informed and considered comment at the time of release
- compendia or value-added reports which are not putting new basic data into the public domain
Fel rheol gyffredinol, ni roddir mynediad dan embargo i’r cyfryngau.
Dan amgylchiadau eithriadol, efallai y bydd y Prif Ystadegydd yn penderfynu bod mynediad dan embargo yn addas neu’n angenrheidiol. Mewn achosion o’r fath gellir rhoi mynediad dan embargo i newyddiadurwyr achrededig, lle bernir ei bod yn angenrheidiol rhoi iddynt gyfnod o amser i amgyffred a deall y data, er mwyn eu galluogi i wneud sylwadau gwybodus adeg y rhyddhau, neu os oes ei angen er mwyn dosbarthu deunydd i’r cyfryngau mewn pryd ar gyfer cyhoeddi.
Ni all mynediad dan embargo fod yn berthnasol i ddatganiadau ystadegol sy’n sensitif o ran y farchnad. Yr unig reswm y gall fod yn berthnasol i ryddhau data nad yw’n sensitif o ran y farchnad yw lle mai dim ond cyfle cyfyngedig a geir am fudd personol gan y rhai sy’n cael mynediad cynnar. Dim ond ar gyfer y canlynol y caiff ei roi:
- Adroddiadau cymhleth, y bydd y cyhoedd yn deall eu gwerth yn fwy os ceir i gydfynd â hwy sylwadau gwybodus a chraff adeg y rhyddhau
- compendia neu adroddiadau â gwerth wedi’i ychwanegu nad ydynt yn cyhoeddi data sylfaenol newydd
Rhyddhau ar ddamwain ac ar gam
Gall rhyddhau ar ddamwain neu ar gam gan y rhai â mynediad cynnar arwain at gymryd camau i atal hynny rhag digwydd eto.
Adroddir am unrhyw ryddhau ar ddamwain neu ar gam i’r Prif Ystadegydd yn syth wedi iddo gael ei nodi, fel y cymerir camau addas i gyfyngu ar y colli hyder yn gyflym.
Mae rhyddhau ar ddamwain neu ar gam yn cynnwys rhoi unrhyw awgrym o gynnwys y datganiad ystadegol, gan gynnwys awgrymiadau o faint neu gyfeiriad unrhyw newid neu ddisgrifiad o sylwedd, megis ‘ffafriol’ neu ‘anffafriol’.
Pan geir tystiolaeth glir fod ystadegyn cenedlaethol wedi’i ryddhau ar gam neu ar ddamwain, gall Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru farnu ei bod yn angenrheidiol trefnu i’r ystadegyn gael ei ryddhau yn syth. Bydd rhyddhau i gyfryngau cenedlaethol dethol yn cael ei ddiffinio fel mynediad cyhoeddus at y diben hwn. Rhoddir hysbysiad ynghylch hyn hefyd ar y wefan, trwy gyfrwng cyfryngau cymdeithasol a thrwy gyfathrebu’n uniongyrchol â defnyddwyr.
Pan fydd ystadegau swyddogol wedi’u rhyddhau’n gynnar ar gam neu ar ddamwain, bydd Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod am hyn i Awdurdod Ystadegau’r DU cyn gynted ag y bo’n ymarferol ac yn paratoi adroddiad tramgwydd ffurfiol.
Cyhoeddi
Amserlen gyhoeddi
Yn achos unrhyw ystadegau sensitif ac ar gyfer allbynnau rheolaidd sy’n cael eu cyhoeddi’n aml lle gellir rhag-weld yr amserlen gynhyrchu ymhell ymlaen llaw, bydd yr union ddiwrnod cyhoeddi yn cael ei ddarparu o leiaf chwe mis ymlaen llaw.
Ar gyfer yr holl allbynnau eraill, bydd y mis yn cael ei ddarparu, naill ai pan mae’r data wedi cael eu casglu neu chwe mis ymlaen llaw, pa bynnag un sydd gynharaf. Bydd union ddyddiadau cyhoeddi yn cael eu darparu cyn gynted â phosibl, a heb fod yn llai na phedair wythnos cyn rhyddhau a heb gyfeirio at yr union wybodaeth sydd i’w rhyddhau.
Dan amgylchiadau eithriadol gall y Prif Ystadegydd ganiatáu i’r allbynnau hynny a ddisgrifir ym mharagraff ii gael eu rhag-gyhoeddi lai na phedair wythnos o flaen llaw.
Yn gyffredinol, ni fydd tablau o ddata ar StatsCymru nad ydynt yn cynrychioli’r unig ddull rhyddhau neu’r dull rhyddhau cychwynnol yn cael eu rhag-gyhoeddi. Byddai’r rhain yn gyffredinol yn cynnwys dadansoddiadau manylach o ddata neu dablau i gefnogi datganiadau ystadegol na ellir eu cynhyrchu yn unol â’r brif amserlen gynhyrchu.
Bydd unrhyw newid i ddyddiad a rag-gyhoeddwyd yn cael ei gyhoeddi cyn gynhared â phosibl a bydd esboniad am y newid yn cyd-fynd ag ef. Bydd hyn yn cynnwys hysbysiad ar y wefan, trwy gyfrwng cyfryngau cymdeithasol (ar gyfer allbynnau allweddol neu lle gwneir newidiadau gyda rhybudd byr), a thrwy gyfathrebu’n uniongyrchol â defnyddwyr.
Bydd rhaglen o allbynnau ystadegol yn cael ei chynnal a’i diweddaru’n rheolaidd ar gyfer y flwyddyn lawn sydd i ddod.
Bydd ymatebion i geisiadau ystadegol ad-hoc sydd wedi cael eu hateb yn cael eu cyhoeddi mewn sypiau bob pythefnos.
Rhyddhau ystadegau
Yn gyffredinol, gyda nifer bach o eithriadau, os ydynt yn dibynnu ar ddata a gyhoeddir gan ffynhonnell arall, bydd pob datganiad ystadegol yn cael ei ryddhau am 9:30am rhwng dydd Llun a dydd Gwener.
Bydd y dull rhyddhau yn gyson, gan gynnwys cyhoeddi’r datganiad ystadegol ar y rhyngrwyd a hysbysiad trwy gyfrwng cyfryngau cymdeithasol.
Cynghorir defnyddwyr am y trefniadau rhyddhau ymhell ymlaen llaw.
Bydd unrhyw gamgymeriadau a ganfyddir mewn adroddiadau ystadegol yn cael eu cywiro yn ddi-oed, a rhoddir gwybod i randdeiliaid hefyd. Bydd hyn yn unol â’n polisi diwygiadau.
Bydd ystadegwyr Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am gynhyrchu ystadegau swyddogol ar gael adeg y rhyddhau i roi cyngor ar ddata, i wneud sylwadau ar ddehongli ac addasrwydd i’r diben, ac i sicrhau bod y broses ryddhau yn cael ei chyflawni’n gywir. Bydd eu henw(au) a’r manylion cyswllt yn cael eu harddangos yn glir ar yr allbwn ystadegol. Fel y nodir yng Nghod y Gwasanaeth Sifil, mae'n rhaid i’r gweinidogion gytuno ar unrhyw gysylltiad â’r cyfryngau.
Bydd ystadegau yn cael eu rhyddhau cyn gynted ag y bo’n ymarferol, unwaith y bernir eu bod hwy ac unrhyw sylwadau neu ddadansoddiadau sy’n cyd-fynd â hwy yn addas i’r diben. Ni ddylai fod unrhyw gyfle, na chanfyddiad o gyfle, i ddal data anffafriol yn ôl neu oedi cyn eu cyhoeddi am resymau gwleidyddol.
Gellir gwneud eithriad pan fydd dau set o ffigurau yn mesur agweddau ar yr un mater, a phan fyddai eu rhyddhau ar yr un pryd yn cyflwyno darlun mwy cydlynol i ddefnyddwyr. Yn yr achos hwn, gellir oedi cyn rhyddhau un set o ystadegau er mwyn cyd-fynd â chyhoeddi’r llall, ar yr amod y rhoddir ystyriaeth i ddymuniadau defnyddwyr. Bydd penderfyniadau o’r fath ar ‘fwndelu’ datganiadau ystadegol yn cael eu gwneud gan Brif Ystadegydd Llywodraeth Cymru.
Ar gyfer datganiadau ystadegol cyfnodol, bydd y penderfyniad ar amseru fel arfer yn golygu cyfaddawdu rhwng sicrhau’r dyddiad rhyddhau cynharaf posibl ar gyfer cyfnod penodol, a chynnal cysondeb dros amser. Bydd penderfyniadau o’r fath yn cael eu gwneud gan Brif Ystadegydd Llywodraeth Cymru.
Ar gyfer datganiadau cymhleth neu rai uchel eu proffil, gall ystadegwyr drefnu sesiwn friffio dechnegol ar gyfer y cyfryngau adeg y rhyddhau er mwyn cynorthwyo i ddehongli’r canfyddiadau.
Os oes problemau technegol ynglŷn â chyhoeddi ar brif wefan Ystadegau ac Ymchwil Llywodraeth Cymru, gellir cyhoeddi datganiadau ar StatsCymru a rhoi gwybod i ddefnyddwyr trwy’r cyfryngau cymdeithasol ac e-byst.
Cyhoeddi gwybodaeth i gyd-fynd ag ystadegau
Bydd unrhyw ystadegau swyddogol yn cael ei cyhoeddi ar wahân i ddatganiadau sy’n cyflwyno neu’n hyrwyddo polisïau cysylltiedig.
Bydd achlysuron pan fydd ystadegau a datganiad polisi ar wahân yn cael eu rhyddhau'r un pryd. Er ei bod yn bosibl y byddant yn cael eu rhyddhau'r un pryd, mae’n bwysig nad yw datganiadau polisi yn cael eu rhyddhau ymlaen llaw, gan y dylid eu gweld fel ymateb i’r ystadegau.
Pan fydd o gymorth i ddefnyddwyr ddeall y data sydd wedi’u cynnwys o fewn datganiad ystadegol, bydd datganiad ffeithiol o gyd-destun y polisi yn cael ei gynnwys. Ni ddylai hwn wneud dim mwy na datgan amcan polisi ac ni ddylai fyth gynnwys unrhyw beth y gellid ei ddehongli fel sylw gwleidyddol. Rhaid defnyddio datganiadau polisi cyd-destunol o’r fath yn gyson dros amser ac ni allant gael eu cynnwys dim ond yn y cyfnodau hynny pan ellid barnu bod iddynt werth gwleidyddol. Mae’r cyfrifoldeb am y geiriad yn perthyn yn y pen draw i Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru.
Costau
Bydd yr holl adroddiadau ystadegol rheolaidd yn cael eu rhyddhau ar y rhyngrwyd, am ddim.
Yn ogystal, rydym yn cyhoeddi data mewn ymateb i geisiadau gan ddefnyddwyr am ddadansoddiadau ychwanegol. Nid ydym yn codi tâl am ddarparu data o’r fath fel arfer, ond pe bai’r galwadau’n hynod o fawr byddem yn ystyried y ddarpariaeth/costau yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar ryddid gwybodaeth.
Cydymffurfio
Bydd Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru yn adrodd yn rheolaidd ar gydymffurfio â threfniadau cyn rhyddhau trwy gyfrwng safle rhyngrwyd Llywodraeth Cymru.
Bydd Gwasanaethau Ystadegol Llywodraeth Cymru yn cynnal a chyhoeddi datganiad yn disgrifio sut maent yn cymhwyso’r safonau hyn i bob un o’u datganiadau ystadegol.
Bydd manylion am unrhyw eithriad i’r Cod Ymarfer yn cael eu cyhoeddi, fel y cytunir ag Awdurdod Ystadegau’r DU.
Rhoddir gwybod am unrhyw ddiffyg cydymffurfio yn syth i’r Prif Ystadegydd, a fydd yna’n penderfynu ar y camau angenrheidiol sydd eu hangen. Adroddir am unrhyw achos o fynd yn groes i’r Cod Ymarfer ar Ystadegau i Awdurdod Ystadegau’r DU a chaiff ei gyhoeddi ar wefan yr Awdurdod a gwefan Llywodraeth Cymru.