Cylch gorchwyl: Is-Grŵp Diogelwch Adeiladau
Cylch gorchwyl o'r Is-Grŵp Diogelwch Adeiladau Ystadau Cymru.
Cynnwys
Y cefndir
Ym mis Hydref 2019 ysgrifennodd Cyd-bwyllgor Gweithredol Cyngor Partneriaeth y Gweithlu (WPC) at Lywodraeth Cymru i ofyn i waith rheoli asbestos ym mhob adeilad cyhoeddus gael ei ystyried fel rhan o waith Ystadau Cymru. Pwysleisiwyd bod iechyd a diogelwch yn faes pwysig ac mae angen ei reoli’n fwy cyson ar lefel strategol.
Partneriaeth gymdeithasol deirochrog yw Cyngor Partneriaeth y Gweithlu, sy'n cynnwys yr undebau llafur, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru. Mae'n cwmpasu'r gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru ac yn fforwm ar gyfer materion sy'n berthnasol i'r gweithlu ar draws y gwasanaethau cyhoeddus.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau mewn perthynas ag Asbestos mewn ysgolion, gan gyhoeddi canllawiau diwygiedig ym mis Awst 2019. Ers mis Rhagfyr 2020, bu'n arwain yr is-grŵp Asbestos wrth ystyried a gweithredu arferion gorau yn ehangach ar draws ystad y sector cyhoeddus.
Yn dilyn y problemau, y pryderon a'r effaith ar weithrediad adeiladau'r sector cyhoeddus ynghylch ‘tystiolaeth newydd‘ (Yr Adran Addysg, Awst 2023) o ran methiant Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC), adolygwyd cwmpas is-grŵp Asbestos Ystadau Cymru.
Nododd yr Adolygiad y gwaith cadarnhaol a wnaed gan aelodau o'r is-grŵp Asbestos ac awgrymwyd ehangu cylch gorchwyl y grŵp i gynnwys elfennau o ddiogelwch adeiladau. O ganlyniad, cyflwynwyd papur adolygu strwythur is-grŵp Ystadau Cymru yn ei gyfarfod Bwrdd ar 24 Ionawr 2024 i gefnogi'r broses o bontio o'r is-grŵp Asbestos i is-grŵp Diogelwch Adeiladau.
Diben
Bydd rôl yr is-grŵp Diogelwch Adeiladau yn darparu cyfeiriad strategol ac arweiniad o ran dulliau adnabod, rhannu ymwybyddiaeth (drwy aelodau'r is-grŵp hwn i'w rhwydweithiau cynrychioliadol), a rheoli materion sylweddol sy'n gysylltiedig â diogelwch adeiladau a allai achosi risgiau tebyg (nifer o anafiadau a/neu methiant strwythurol a/neu gwymp adeiladau neu eu prif elfennau) fel, ac yn cynnwys y risgiau hynny a achosir gan asbestos a RAAC.
Mae cwmpas Is-Grŵp Diogelwch Adeiladau Ystadau Cymru yn gyfyngedig i adeiladau a nodwyd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Mae'r cylch gorchwyl hwn yn weithredol o 1 Hydref 2024 a bydd yn barhaus hyd nes y caiff ei derfynu drwy gytundeb rhwng y partïon dan sylw.
Strwythur ac aelodaeth yr Is-Grŵp Diogelwch Adeiladau
Enw | Sefydliad | Yn cynrychioli |
---|---|---|
Neal O'Leary | Llywodraeth Cymru | Cadeirydd |
Lorna Cross | Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg | Is-gadeirydd bwrdd Ystadau Cymru; llywodraeth leol yng Nghymru |
Ian Tomkinson | Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg | Llywodraeth leol yng Nghymru |
Craig Bramwell | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf | Llywodraeth leol yng Nghymru |
Clare Phillips | Llywodraeth Cymru | Pennaeth Ysgrifenyddiaeth Ystadau Cymru |
Lyn Cadwallader | Un Llais Cymru | Cynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru |
Arfon Davies | Cyngor Tref Llanelli | Cynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru |
Mike Davies | Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru | Gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru |
Alwyn Jones | Llywodraeth Cymru | Addysg yng Nghymru |
Jo Larner | Llywodraeth Cymru | Deddf Diogelwch Adeiladau |
Bethan Meredith | Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot | Addysg bellach yng Nghymru |
Steve Jones | Coleg Sir Benfro | Addysg bellach yng Nghymru |
Ceri Williams | TUC Cymru | Cyngor Partneriaeth y Gweithlu / undebau llafur yng Nghymru |
Dan Shears | Undeb y GMB | Undebau llafur |
Jonathan Jones | Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru - Gwasanaethau Ystadau Arbenigol | Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru |
Sam Rees | Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig | Proffesiwn rheoli eiddo |
Gordon Brown | Sefydliad Siartredig Adeiladu | Proffesiwn rheoli adeiladu |
Rolau a chyfrifoldebau
Mae'r Is-Grŵp Diogelwch Adeiladau yn gyfrifol am yr isod:
- gweithio gydag aelodau o'r is-grŵp hwn a'u rhwydweithiau adeiladau/adeiladu sector cyhoeddus cynrychioliadol a phroffesiynol eu hunain i gyflawni'r swyddogaethau a nodir o dan ‘Diben’;
- cynorthwyo i nodi a rheoli heriau’n ymwneud ag eiddo y mae cyflogwyr ac eraill sydd â chyfrifoldebau dros reoli adeiladau yn ddiogel yn eu hwynebu a allai effeithio ar y gallu i gyflawni gwasanaethau o fewn eu sector penodol;
- hyrwyddo cydweithio ar draws y sectorau cyhoeddus, proffesiynol a diwydiant yng Nghymru i ymgysylltu â rhanddeiliaid; a
- nodi, rhannu a monitro ffactorau y tu allan i reolaeth yr is-grŵp sy'n bwysig er mwyn sicrhau llwyddiant.
Amcanion arfaethedig
- Cynnal archwiliad / dadansoddiad o weithdrefnau rheoli asbestos pob corff cyhoeddus.
- Hyrwyddo a datblygu hyfforddiant ymwybyddiaeth o ran asbestos.
- Cynnal archwiliad / dadansoddiad o weithdrefnau adnabod a rheoli RAAC pob corff cyhoeddus.
- Creu porth ar gyfer rhannu canllawiau arferion gorau ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Sicrhau mynediad at arbenigedd i sicrhau cydymffurfio o ran unrhyw gyfrifoldebau diogelwch adeiladau a nodwyd.
Cyfarfodydd
Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn chwarterol. Mae'n bosibl y bydd cyfarfodydd arbennig yn cael eu trefnu mewn ymateb i ddigwyddiadau pwysig.
Llinellau adrodd
Bydd yr Is-grŵp Diogelwch Adeiladau yn adrodd am gynnydd a datblygiadau i fwrdd Ystadau Cymru bob chwarter.
Yn ogystal, gall adrodd yn uniongyrchol i Ysgrifennydd y Cabinet sy'n noddi Ystadau Cymru.
O bryd i'w gilydd, bydd yr Is-grŵp Adeiladau yn adrodd i Gyd-bwyllgor Gweithredol Cyngor Partneriaeth y Gweithlu.
Yr ysgrifenyddiaeth
Bydd yr Is-grŵp Diogelwch Adeiladau yn cael ei wasanaethu gan Ysgrifenyddiaeth Ystadau Cymru.