Beth rydym yn ei wneud
Mae Ystadau Cymru yn annog rhagoriaeth yn rheolaeth weithredol ystad sector cyhoeddus Cymru drwy gydweithio strategol a chanllawiau arferion da.
Mae Ystadau Cymru yn gweithio i annog cydweithio strategol ac yn datblygu canllawiau arferion da gyda'r meini prawf allweddol canlynol:
- Creu twf economaidd
- Darparu gwasanaethau sy'n fwy integredig ac yn canolbwyntio ar y cwsmer
- Cynhyrchu derbyniadau cyfalaf
- Lleihau costau gweithredu
- Datgarboneiddio’r ystad gyhoeddus
Sefydlwyd Ystadau Cymru gan Lywodraeth Cymru i alluogi’r gwaith o reoli asedau ar y cyd yn sefydliadau'r sector cyhoeddus, a dylanwadu arno, er mwyn rhyddhau arbedion effeithlonrwydd. Mae hefyd yn datblygu dulliau o alluogi a hwyluso'r gwaith hwn.
Rydym yn ceisio cefnogi a hwyluso cyfleoedd i ddefnyddio dull mwy strategol o ymdrin ag eiddo a rheoli eiddo o fewn ffiniau daearyddol a sefydliadol, gan gefnogi'r blaenoriaethau yn strategaeth "Ffyniant i Bawb" y Llywodraeth.