Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Vaughan Gething, ac Ysgrifennydd Cabinet yr Alban dros Iechyd a Chwaraeon, Jeane Freeman ASA, wedi anfon llythyr ar y cyd at Weinidog Gwladol Llywodraeth y DU

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r ddau Ysgrifennydd Iechyd yn credu y byddai cynnwys aelodau o’r teulu yn y cynllun yn gallu bod yn fodd i wneud pethau’n llai ansicr i staff o’r UE yn ystod y cyfnod ansefydlog hwn. Byddai hefyd yn dangos yn glir gymaint y mae eu cyfraniad i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy’r Deyrnas Unedig yn cael ei werthfawrogi.

Yn y llythyr, mae’r Ysgrifenyddion yn mynegi eu barn fod y cynllun, fel y mae’n cael ei gynnig ar hyn o bryd, yn llawer mwy tebygol o atal, yn hytrach nag annog, ein staff o’r UE rhag manteisio ar y cyfle i gael eglurder ynglŷn â’u statws mewnfudo cyn i’r DU ymadael â’r UE ar 29 Mawrth 2019.

Maent wedi galw ar Lywodraeth y DU i ailystyried ei phenderfyniad - fel arall, ni fydd Llywodraethau Cymru a’r Alban yn mynd ati i hyrwyddo’r cynllun ymhlith staff iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a’r Alban.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

“Hoffem allu rhoi elfen o sicrwydd i staff o’r UE sy’n gweithio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, a’u teuluoedd. Maen nhw’n haeddu hynny o leiaf, ac rydyn ni’n talu teyrnged i’r bobl sy’n dod o’r UE ac o lefydd eraill i ddarparu gofal i bobl Cymru a rhoi triniaethau sy’n achub bywydau.

“Mae’r cynigion hyn yn hollol anfoddhaol ar eu ffurf bresennol. Maen nhw’n ychwanegu at y teimlad o rwystredigaeth fawr sydd wedi’i achosi gan y diffyg ymgysylltu ystyrlon gyda ni ynglŷn â’r ystod eang o heriau fydd yn wynebu’r GIG drwy’r Deyrnas Unedig ar ôl Brexit.

“Os na fydd Llywodraeth y DU yn newid ei meddwl ac yn gwneud y penderfyniad iawn, fyddwn ni ddim yn hyrwyddo’r cynllun yng Nghymru, er y bydd cyfle i staff iechyd a gofal cymdeithasol wneud cais am statws preswylydd sefydlog fel rhan o’r cynllun peilot os byddant yn dymuno gwneud hynny.”