Neidio i'r prif gynnwy

Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates, â Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr heddiw er mwyn gweld drosto'i hun y gwaith paratoi sy'n digwydd ar gyfer yr Injan Dragon newydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod yr ymweliad gwnaeth Ysgrifennydd yr Economi gyfarfod â’r rheolwyr, y gweithwyr a’r undebau llafur a thrafodwyd y cyfleoedd a'r heriau y byddai'r diwydiant yn eu hwynebu yn ystod y blynyddoedd nesaf. 

Disgwylir i’r gwaith o gynhyrchu'r Injan Dragon newydd ddechrau yn 2018. 

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:

"Gwych oedd cael ymweld â Safle Injan Ford fore heddiw a gweld y gwaith sy'n mynd rhagddo er mwyn paratoi ar gyfer cynhyrchu'r injan Dragon newydd. Mae cymorth gan Lywodraeth Cymru wedi helpu i ddod â'r prosiect cyffrous hwn i'r safle ac roedd yn ddiddorol iawn gweld y gwaith gweithgynhyrchu manwl a'r sgiliau eithriadol sydd ynghlwm wrth ei ddatblygu. 

"Cefais hefyd gyfle i siarad â'r gweithwyr, y rheolwyr a'r undebau ynghylch yr heriau y bydd y diwydiant modurol yn eu hwynebu yn ystod y blynyddoedd nesaf. Mae trydaneiddio a'r newid i dechnoleg batri arloesol yn golygu bod angen sicrhau cynhyrchion newydd ar gyfer y safle o 2020 ymlaen.

"Gwnes bwysleisio'r ffaith y bydd Llywodraeth Cymru'n gwneud popeth o fewn ei gallu i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol ac i wynebu'r heriau hynny er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer Safle Injans Pen-y-bont ar Ogwr, gan gadw swyddi a gwaith cynhyrchu yn y gymuned."

Gwnaeth Llywodraeth Cymru gynorthwyo Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr i ennill cyfran o'r gwaith byd eang o gynhyrchu Injans Dragon drwy gynnig grant o £14.6 miliwn. Disgwylir i hyn ddiogelu hyd at 772 o swyddi ar y safle. Bydd y cyfleuster yn cynhyrchu 125,000 o injans i ddechrau, gan ddiogelu tua 550 o swyddi. Bydd gan y safle gapasiti yn ogystal i ychwanegu mwy o linellau er mwyn cynyddu’r cynhyrchiant a chreu mwy o swyddi yn y dyfodol.