Mae Parc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc) yn ddatblygiad £20m o fewn Ardal Fenter Ynys Môn a fydd yn agor ei ddrysau yn 2018.
Mae Parc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc) yn ddatblygiad £20m o fewn Ardal Fenter Ynys Môn a fydd yn agor ei ddrysau yn 2018.
Bydd y prosiect cyffrous ac uchelgeisiol hwn, a fydd yn darparu cyfleusterau swyddfa a labordy o’r radd flaenaf ar gyfer busnesau arloesol yn y rhanbarth, yn elwa ar £10.8m o gyllid gan Lywodraeth Cymru a £10.2m o Gronfa Datblygu Ewrop.
Amcan M-SParc yw dod â buddiannau economaidd, gwyddonol a thechnolegol i ranbarth y Gogledd, ac ategu’r buddsoddiad sylweddol yn Wylfa Newydd trwy gefnogi’r gadwyn gyflenwi ehangach.
Bydd y Parc Gwyddoniaeth yn canolbwyntio ar y sectorau carbon isel ac ynni adnewyddadwy, yn helpu i gryfhau partneriaethau academaidd a busnes ac yn gweithio i ddatblygu economi wybodaeth y Gogledd.
Wrth siarad cyn seremoni torri’r dywarchen, meddai Ken Skates:
“Mae’n wych gweld y gwaith sy’n cael ei wneud ym Mharc Gwyddoniaeth Menai, ar ôl derbyn dros £20m o nawdd gan Lywodraeth Cymru a’r UE.
“Y Parc Gwyddoniaeth yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru, ac unwaith y bydd ei ddrysau wedi agor, rwy’n hyderus y daw â buddiannau mawr i ranbarth y Gogledd.
“Bydd M-Sparc yn canolbwyntio ar y sectorau carbon isel ac ynni adnewyddadwy. Bydd hynny’n ategu’r gwaith sydd eisoes wedi’i wneud gan y Fenter Ynys Ynni ac Ardal Fenter Ynys Môn, yn helpu busnesau lleol i greu swyddi ac yn sicrhau twf economaidd cynaliadwy.
“Mae gan y datblygiad y potensial i ddod â manteision economaidd real iawn i Ynys Môn ac i ranbarth y Gogledd ac rwy’n disgwyl ymlaen at weld y Parc yn agor ei ddrysau yn 2018.”
Meddai’r Cyfarwyddwr Gweithredol, Ieuan Wyn Jones
“Rydyn ni wedi gorfod gweithio’n galed i gyrraedd lle ydyn ni heddiw, ac mae’n dda gweld gwaith yn dechrau ar y safle.
“Y tu ôl i’r llenni, rydyn ni wedi bod yn gweithio i ddenu tenantiaid ac mae gennym nifer o gwmnïau eisoes wedi arwyddo fel Tenantiaid Rhithiol. Rydyn ni’n falch ein bod yn gallu cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth i’r cwmnïau hyn. Mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n dod o’r rhanbarth a da yw gallu datgan felly bod y galw’n bod yn y rhanbarth am Barc Gwyddoniaeth.”