Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw cafodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates, fwynhau tro mewn car hydrogen, carbon isel.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Y Rasa yw’r car cyntaf o’i fath yn y byd a chafodd ei ddylunio a’i adeiladu ym Mhowys fel rhan o brosiect gwerth £3.5 miliwn. Ffrwyth gwaith Riversimple Engineering, sef cwmni gwyrdd o Landrindod sydd bellach yn cyflogi 23 o bobl, yw’r car.  

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates: 

“Rwy’n falch iawn fod y Rasa wedi’i ddylunio a’i ddatblygu yma yng Nghymru.  

“Mae’n gar cwbl arloesol – y cyntaf o’i fath yn y byd – ac yn llawn technoleg carbon isel sy’n torri tir newydd.  

“Dyma’r union fath o dechnoleg Ymchwil a Datblygu yr ydym eisiau ei denu i Gymru a hoffwn ddymuno llwyddiant parhaus i Riversimple wrth iddynt anelu at ddatblygu ac ehangu eu busnes.”

Gall prototeip y Riversimple Rasa, sydd ar fin mynd ar daith hyrwyddo o amgylch dinasoedd y DU, fynd o 0 i 50 milltir yr awr mewn 8 eiliad a gall gyrraedd cyflymder o hyd at 60 milltir yr awr. Mae’r car oddeutu tair gwaith mor effeithlon â’r ceir hydrogen sydd ar werth ar hyn o bryd.  

Caiff y Rasa ei bweru gan gelloedd tanwydd hydrogen ac mae ganddo system frecio atgynhyrchiol er mwyn gallu ailgipio ynni a gaiff ei storio mewn cronfa o uwch gynwysorau sy’n galluogi’r car i gyflymu.  

Dywedodd Hugo Spowers, Cyfarwyddwr Technegol a sylfaenydd Riversimple, fod y car yn bleser i’w yrru, yn effeithlon o ran tanwydd, yn atyniadol ac yn unigryw. Cafodd ei ddylunio gan Chris Reitz, sef un o ddylunwyr ceir uchaf ei barch yn Ewrop sydd â hanes llwyddiannus o gydweithio â Fiat ac Alfa Romeo.  

Nod hirdymor Riversimple yw creu cyfleuster a all gynhyrchu hyd at 5000 o geir bob blwyddyn.