Neidio i'r prif gynnwy

Daeth tua thri chant o arweinwyr busnes ynghyd yng Nghaerdydd yr wythnos yma ar gyfer lansio menter newydd sy’n ceisio hybu arloesi ac entrepreneuriaeth ar draws Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Lansiodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, y fenter Creu Sbarc – sef menter newydd ar draws Cymru sy’n awyddus i ysgogi rhagor o gydweithio rhwng entrepreneuriaid, arweinwyr corfforaethol ac unigolion sy’n gweithio ym maes cyfalaf risg, y byd academaidd a’r llywodraeth.

Cyflwynodd Cymru gais llwyddiannus yn 2015 i ymuno â Rhaglen Sbarduno Entrepreneuriaeth Ranbarthol (REAP) Sefydliad Technoleg Massachusetts

Mae Creu Sbarc (dolen allanol) wedi deillio’n uniongyrchol o waith Cymru o fewn REAP a’i nod yw galluogi pawb sydd ynghlwm wrth entrepreneuriaeth a ysgogir gan arloesi i rannu syniadau, cyfnewid cynghorion, pennu atebion cyllid addas a chynnig a manteisio ar gefnogaeth berthnasol.

Nod hyn oll yw sbarduno rhagor o weithgarwch entrepreneuraidd ar draws Cymru, gan gefnogi gwaith ehangach a pharhaus Llywodraeth Cymru o safbwynt creu swyddi a hybu ei heconomïau rhanbarthol.

Bydd cyfle i gynrychiolwyr yn y digwyddiad drafod ag Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, a hefyd â phanel o arweinwyr busnes ac entrepreneuriaid llwyddiannus sy’n cynnwys sylfaenydd Gocompare Hayley Parsons, Prif Swyddog Gweithredol IQE, Drew Nelson OBE a James Taylor sef sylfaenydd y sefydliad datblygu plant Superstars.

Dywedodd Ken Skates:

“Pleser yw ymuno â 300 o arweinwyr busnes ar gyfer lansio Creu Sbarc heddiw.

“Mae’r fenter yn creu cyfle i bobl sy’n awyddus i hybu entrepreneuriaeth ac arloesi gydweithio mewn partneriaeth lesol drwy rannu syniadau a gwybodaeth.

“Mae entrepreneuriaeth ac arloesi’n gynyddol allweddol i iechyd a dyfodol ein heconomi. Prif nod y digwyddiad hwn ac yn wir y fenter yw elwa ar yr hyn yr ydym eisoes yn ei gyflawni a gwneud popeth posibl i annog arloesi ac entrepreneuriaeth fel eu bod yn ffynnu ar draws Cymru.”