Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wedi dweud ei fod am symleiddio trefniadau rheoli wyth Ardal Fenter Cymru, ond heb leihau'r pwyslais iddyn nhw ddod â ffyniant i gymunedau Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod ei ymddangosiad ym Mhwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, cyhoeddodd Ken Skates gasgliadau ei adolygiad o'r modd y rheolir Ardaloedd Menter Cymru, gan bwysleisio'r un pryd ei ymrwymiad i ddyfodol pob un o'r wyth ardal. 

Ar ôl y Pwyllgor, dywedodd Ken Skates:

Rwy'n hynod falch o'r hyn y mae'r Ardaloedd Menter wedi'i wneud ac o'u llwyddiant ac rwy'n ddiolchgar am waith caled ac ymrwymiad eu Cadeiryddion a'u Byrddau Cynghori wrth sbarduno'u llwyddiant.

Gyda'i gilydd mae'r Ardaloedd Menter wedi cynnal dros 10,700 o swyddi hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf, hynny am lai na £6k y swydd ar gyfartaledd, ac er bod pethau wedi symud yn gynt mewn ambell ardal nac eraill, mae hynny'n adlewyrchu'u cyd-destun economaidd a'u sefyllfa cyn dechrau. 

Mae pob un o'r wyth Ardal Fenter wedi cymryd camau breision ymlaen.  Rydym yn dal i gael gwerth ein harian ganddyn nhw wrth iddynt osod sylfeini ffyniant y dyfodol a chreu'r amodau cywir ar gyfer datblygu cyfleoedd gwaith cynaliadwy mewn cymunedau ledled Cymru, yn y fyr dymor a hwy.

Mae'r cyfan yn ategu byrdwn y Cynllun Gweithredu Economaidd a gyhoeddais yn ddiweddar, sydd am roi grym i ranbarthau Cymru iddyn nhw fod yn fwy cystadleuol.

Mae prosiectau fel yr Athrofa Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch, fydd yn rhoi sgiliau newydd i fusnesau ac yn eu helpu i arloesi - a phrosiect y Cymoedd Technegol fydd yn sbarduno datblygu a chynnal technolegau newydd yng Nglyn Ebwy, yn anferth o hwb i'r ymrwymiad hwnnw i roi grym i'r rhanbarthau. Maen nhw oll yn ffrwyth gwaith y Byrddau. Ni allant ond cryfhau enw da'r Ardaloedd Menter am gyflawni.

Mae'r newidiadau rwyf wedi'u disgrifio heddiw yn ysgafnhau'r fiwrocratiaeth ac yn defnyddio trefniadau rheoli eraill lle gwelaf fod hynny'n cynnig y ffordd fwyaf synhwyrol ymlaen. Maen nhw'n rhan hefyd o adolygiad ehangach o drefniadau cynghori ar draws fy mhortffolio.

Mae safbwyntiau Cadeiryddion yr Ardaloedd Menter wedi bod yn amhrisiadwy o ran fy helpu â 'mhenderfyniadau ac rwy'n falch o gael eu cefnogaeth gyffredinol i'r newidiadau.