Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Ysgrifennydd yr Economi a Seilwaith, Ken Skates, yn cynnal cynhadledd wythnos nesa ynghylch beth sydd angen ei wneud i sbarduno’r economi ar draws Gogledd Cymru a  Rhanbarth  Pwerdy’r Gogledd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Uwchgynhadledd y Gogledd, fydd yn cael ei chynnal yng Ngholeg Cambria ddydd Gwener, 8 Gorffennaf, yn ystyried y rhan y gall ffactorau fel trafnidiaeth integredig, strategaeth datblygu economaidd drawsffiniol glir a thîm  economaidd trawsffiniol cryf ei chwarae i helpu’r economi i dyfu.

Mae Ysgrifennydd yr Economi wedi gwahodd cydweithwyr a phartneriaid o amrywiaeth o gyrff a mudiadau yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys Swyddfa Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yr IOD, yr FSB, y CBI, Cyngor Busnesau’r Gogledd, siambr Swydd Gaer a Gogledd Cymru a Chynghrair Mersi a Dyfrdwy. 

Daw’r newyddion yr un wythnos pan gyhoeddwyd Adolygiad Economaidd Annibynnol Pwerdy’r Gogledd. 

Mae’r Adolygiad yn nodi’r meysydd lle mae’r Gogledd yn arweinydd byd ynddynt ynghyd â’r mesurau sydd eu hangen i wella economi’r rhanbarth.  Dywed fod angen newid mawr i gau’r bwlch sgiliau a chynhyrchiant ond y gallai’r newid hwnnw arwain o bosib at 850,000 o swyddi erbyn 2050. 

Meddai Ken Skates: 

“Fel Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, rwy’n benderfynol o wneud y gorau o botensial economaidd Gogledd Cymru.

“I’r perwyl hwnnw, byddaf yn cynnal uwchgynhadledd i Ogledd Cymru i drafod y blaenoriaethau ac i gytuno â phartneriaid eraill ar weledigaeth ystyrlon ar gyfer y rhanbarth fel rhan o Bwerdy trawsffiniol y Gogledd. 

“Nid oes amheuaeth ein bod yn wynebu heriau newydd o ganlyniad i’r refferendwm. 

“Maen nhw’n heriau y gallwn ac y byddwn yn eu trechu, ac o gydweithio yng Nghymru ac ar draws y ffin, ac o arloesi a dysgu o lwyddiant eraill, daw ein llwyddiant ninnau.”