Mae cynlluniau newydd sy'n anelu at sicrhau bod Cymru yn y sefyllfa orau bosibl i ymateb i gam nesaf arloesi digidol ac i elwa arno wedi'u cyhoeddi gan Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.
Mae Ysgrifennydd yr Economi, gan gydweithio ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Arweinydd y Tŷ a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, wedi gorchymyn adolygiad o arloesi digidol a fydd hefyd yn ystyried deallusrwydd artiffisial ac awtomatiaeth.
Caiff yr adolygiad ei arwain gan yr Athro Phil Brown, Athro Ymchwil Anrhydeddus yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd a chaiff ei gynnal o fewn cyd-destun Cynllun Gweithredu ar yr Economi Llywodraeth Cymru a gafodd ei lansio ym mis Rhagfyr.
Mae'r cynllun yn cydnabod y cysylltiad agos rhwng awtomatiaeth, deallusrwydd artiffisial a mathau eraill o ddigideiddio ac mae hefyd yn pennu effaith drawsnewidiol bosibl y meysydd hyn sy'n datblygu ar economi Cymru, ar ei gwasanaeth cyhoeddus ehangach a hefyd ar strwythur ei marchnad lafur yn y dyfodol.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
"Fel y nodais yn ein Cynllun Gweithredu ar yr Economi a gyhoeddwyd yn ddiweddar, rwy'n benderfynol o sicrhau bod Cymru yn y sefyllfa orau bosibl i ymateb i'r pedwerydd oes diwydiannol ac i gam nesaf arloesi digidol a data.
"Bydd yr adolygiad hwn yn ein helpu i sicrhau bod gennym y dystiolaeth sydd ei hangen er mwyn gwneud yn siŵr fod gan weithlu'r dyfodol yng Nghymru y sgiliau angenrheidiol a bydd hefyd yn mynd gam ymhellach drwy gefnogi cyfleoedd newydd am swyddi a sbarduno arloesi o fewn busnesau a'n gwasanaethau cyhoeddus ehangach.
"Bydd yr adolygiad hwn yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o'n helpu i greu economi sy'n barod at y dyfodol, gan roi'r dystiolaeth, yr wybodaeth a'r ymchwil diweddaraf i ni a phennu'r cyfleoedd a'r heriau sydd ynghlwm wrth y sector hwn sy'n prysur dyfu.
"Rwy'n awyddus i sicrhau bod mwy a mwy o bosibiliadau o fewn ein rhanbarthau fel y gallwn gynyddu nifer y swyddi da sydd ar gael i bawb a sicrhau bod gan gymunedau'r sgiliau a'r seilwaith economaidd sydd eu hangen arnynt i greu gwell swyddi lleol. Er mwyn gallu cyflawni hyn mae angen i ni baratoi yn awr ar gyfer yr holl newidiadau digidol sydd o'n blaenau.
"Rwy'n awyddus i'r adolygiad ystyried arloesi digidol o safbwynt rhyngwladol a hefyd bwyso a mesur yr hyn y gall Cymru ei ddysgu o wledydd eraill. Hoffwn iddo hefyd ystyried sut y gallwn ymateb yn bositif i heriau drwy gydweithio."
Bydd tîm yr adolygiad yn cydweithio'n agos â Grŵp Digidol Llywodraeth Cymru sy'n cael ei arwain gan Arweinydd y Tŷ sef Julie James, er mwyn ystyried y cyfleoedd sydd ynghlwm wrth ddata mawr a hefyd y cyfleoedd digidol sydd ynghlwm wrth gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus.
Caiff cylch gorchwyl yr adolygiad ei gyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf.
Bydd yr adolygiad o arloesi digidol yn adlewyrchu Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru sef Ffyniant i Bawb, ei Chynllun Gweithredu ar yr Economi a hefyd y nodau llesiant a'r dulliau gweithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Bydd yn cydweithio â phartneriaid cymdeithasol yng Nghymru a hefyd ag arbenigwyr rhyngwladol. Y nod yw cyflwyno adroddiad interim i Lywodraeth Cymru yn ddiweddarach eleni ac adroddiad terfynol yn ystod chwarter cyntaf 2019.