Aeth Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, i Drefforest heddiw er mwyn ymweld â chwmni adeiladu tai lleol sy'n gweithio'n ddiflino i ddatblygu ei weithlu.
Busnes teulu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yw'r Jehu Group ac mae wrthi'n adeiladu cynllun tai ar ran Cymdeithas Tai Newydd. Bydd datblygiad newydd Yr Hen Fuarth, yn creu 44 o gartrefi cwbl newydd a fydd ar gael i'w rhentu am bris fforddiadwy yn ardal Trefforest.
Mae'r Jehu Group yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu, recriwtio gweithwyr lleol, gweithredu mewn modd cynaliadwy a hyrwyddo llesiant, ac o'r herwydd mae'n dangos llawer o'r ymddygiadau busnes y mae Llywodraeth Cymru'n ceisio eu hyrwyddo drwy ei Chynllun Gweithredu ar yr Economi a'i Chontract Economaidd.
Dywedodd Ken Skates:
"Roedd hi'n bleser cael ymweld â'r Jehu Group heddiw a gweld sut y mae'n mynd ati i gyflawni'r datblygiad arbennig hwn a fydd yn creu dros 40 o gartrefi newydd a fydd ar gael i'w rhentu yn ardal Pontypridd.
"Mae'r Jehu Group yn dangos llawer o'r ymddygiadau busnes cyfrifol yr ydym yn gweithio'n galed i'w sefydlu o fewn busnesau Cymru ac mae ei ymgyrch blaengar i fynd i'r afael ag iechyd meddwl yn y gweithle a hyrwyddo llesiant o ddiddordeb arbennig i mi.
"Roedd hi'n bleser lansio ein Contract Economaidd yn gynharach eleni fel rhan o'r gwaith o weithredu'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi. Ei nod yw dechrau perthynas newydd rhwng Llywodraeth Cymru a busnesau, sy’n seiliedig ar egwyddor buddsoddi cyhoeddus ag iddo bwrpas cymdeithasol.
"Golyga hyn y bydd angen i gwmnïau sy'n troi atom am gymorth gydweithio â ni ac ymrwymo i egwyddorion twf, gwaith teg, iechyd, sgiliau a dysgu a datgarboneiddio. Mae'n bleser gen i nodi fod gan Lywodraeth Cymru bellach Gontractau Economaidd gydag 84 o gwmnïau."Prif ddiben y Contract Economaidd yw profi sut y mae cwmni'n cyfrannu at iechyd a llesiant ei weithwyr a'r gymuned ehangach ac yna lledu'r arferion da hynny. Pleser pur yw ymweld ag un o'r nifer o gwmnïau yng Nghymru sy'n arwain drwy esiampl."
Meddai Simon Jehu, Rheolwr-gyfarwyddwr Jehu,
“Dwi’n croesawu’r egwyddorion y tu ôl i gontract economaidd Llywodraeth Cymru, sy’n ceisio annog buddsoddiad cyhoeddus gyda phwrpas cymdeithasol. Fel busnes teuluol rydy ni wedi ceisio gweithredu mewn dull cyfrifol a chynaliadwy bob amser, gan ganolbwyntio’n benodol ar greu diwylliant o ofalu ymhlith ein gweithlu.”
“Mae’n fraint i ni ein bod, gyda’n partneriaid fel Cymdeithas Tai Newydd, yn gallu creu gwaddol i genedlaethau’r dyfodol drwy’r cartrefi yr ydyn ni’n eu hadeiladu, a chyfraniad ehangach y cymunedau yr ydy ni’n gweithio o fewn iddynt. Mae’n beth da gweld cydnabyddiaeth o werthoedd mor fawr yn deillio o bolisi economaidd y Llywodraeth.”
Ychwanegodd Paul Roberts, Prif Weithredwr Newydd,
“Ar ran Newydd, fel landlord cymdeithasol cyfrifol, mae’n wych cydweithio gyda busnes cyfrifol arall fel Jehu. Bydd y datblygiad hwn nid yn unig yn darparu cartrefi fforddiadwy gwych ar gyfer y gymuned leol, bydd hefyd yn cynnig cyfleoedd am waith yn ystod yr adeiladu.
“Mae gan Newydd wasanaeth cyflogadwyedd, sydd, drwy ein cynllun contractwr budd i’r gymuned, wedi golygu bod un o’n tenantiaid, Dafydd, wedi ymuno âr tîm adeiladu fel prentis. Mae Jehu yn cynnig profiad dysgu ymarferol ar y safle, sy’n golygu bod Dafydd yn cael y cymorth y mae ei angen i ddechrau gyrfa yn y byd adeiladu.”