Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, wedi bod yn ymweld â busnesau a phrosiectau adeiladu ynn Nghwm Rhymni ac yn gofyn barn pobl am yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r rhanbarth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r ymweliadau hyn yn rhan o'i ymrwymiad i rymuso ac i gryfhau rhanbarthau Cymru, er mwyn i bob rhan o Gymru fedru elwa ar ffyniant. 

Mae'r ffordd hon o weithio yn un sydd wedi'i hamlinellu'n glir yng Nghynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar yr Economi, a lansiwyd ym mis Rhagfyr.  

Rhan o ymrwymiad Ysgrifennydd yr Economi i rymuso rhanbarthau Cymru yw penodi tri Phrif Swyddog Rhanbarthol, un ar gyfer y De-ddwyrain, un ar gyfer y Gogledd, ac un ar gyfer y Canolbarth a’r De-orllewin. Byddant yn meithrin cysylltiadau a thrafod â phartneriaid yn eu rhanbarth, gan gynrychioli eu safbwyntiau a'u buddiannau o fewn Llywodraeth Cymru. 

Bu Ysgrifennydd yr Economi a Phrif Swyddog Rhanbarthol y De-ddwyrain, David Rosser, yn ymweld â Rhymney Print Services a Surevend Catering, dau ficrofusnes ar Ystad Ddiwydiannol y Lawnt, sy'n ystad y mae Cyngor Caerffili yn awyddus i'w datblygu ymhellach.                                                                                                  

Buont yn ymweld hefyd â Philtronics yn Hirwaun, sy'n rhan o'r gadwyn gyflenwi ar gyfer clwstwr lled-ddargludyddion y De -ddwyrain. Buont hefyd mewn cyfarfod bord gron gyda chwmnïau ac entrepreneuriaid i drafod sut gall technoleg ddigidol helpu'r sector gofal a'r sector manwerthu yn yr ardal. Mae’r rhain yn ddwy o sectorau sylfaen Llywodraeth Cymru.  

Dywedodd Ken Skates: 

"Dw i'n gwbl ymrwymedig i rymuso rhanbarthau Cymru ac i adeiladau ar eu cryfderau unigol er mwyn sicrhau'r twf economaidd mwyaf posibl yng Nghymru.

"Mae fy Nghynllun Gweithredu ar yr Economi yn cydnabod bod pob un o ranbarthau Cymru yn wynebu ei gyfleoedd a'i heriau ei hun ac na fydd mynd ati i ddatblygu'r economi yn yr un ffordd ym mhob man yn ddigon i sbarduno'r twf economaidd y mae ei angen ar Gymru.   

"Dw i wedi penodi Prif Swyddogion Rhanbarthol er mwyn rhoi llais i'r rhanbarthau mewn Llywodraeth. Byddan nhw'n gwrando ar bartneriaid lleol ac yn eu cynnwys wrth wneud penderfyniadau, gan roi gwybodaeth leol inni a fydd yn ein helpu i deilwra'n gwaith. Yma yn y De-ddwyrain, byddan nhw'n helpu gyda'r gwaith i gyflawni'r blaenoriaethau yn Ein Cymoedd, Ein Dyfodol i greu miloedd o swyddi newydd, teg, diogel a chynaliadwy yn y Cymoedd

"Bydd ymweliadau a chyfarfodydd fel y rhai rydyn ni wedi'u mwynhau heddiw yn hollbwysig er mwyn cyrraedd y nod.”

Yn ddiweddarach yn y dydd, bu Ysgrifennydd yr Economi yn ymweld â rhan 2 o'r A465 i weld hynt y gwaith ar y cynllun, sydd â bron tri chwarter ohono wedi'i gwblhau. 

Mae'r cynllun yn cynnwys 2 gilomedr o lwybrau beiciau a chwe phont ar gyfer cerddwyr a beicwyr er mwyn cefnogi'r ymrwymiad i Deithio Llesol yng Nghymru.

Mae elfennau trawiadol i'r cynllun hefyd, gan gynnwys pont fwa goncrit yng Ngilwern − y fwyaf o'i bath yn y byd, a'r borthbont ym Mryn-mawr yr oedd angen un o'r craeniau mwyaf sy'n gweithio yn y DU i'w chodi i'w lle.    

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi: 

"Mae'r cynllun yn esgor ar amryfal fanteision yn lleol o ran cyflogaeth, addysg a hyfforddiant. Yn unol â'r blaenoriaethau a nodwyd yn Ein Cymoedd, Ein Dyfodol, yr hyn sy'n bwysig yw bod pobl sy'n defnyddio'r ffordd newydd hon yn ei hystyried yn ffordd at gymunedau llewyrchus ac at economi leol sy'n prysur dyfu, yn hytrach nag yn ffordd osgoi."