Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Ken Skates, Gweinidog yr Economi yn ymuno ag unigolion amlwg y diwydiant yn Sioe Awyr Paris heddiw i helpu i hyrwyddo sector awyrofod llwyddiannus Cymru i’r byd.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Sioe Awyr Paris, sy’n cael ei chynnal bob yn ail blwyddyn yn y brifddinas, yn un o ddigwyddiadau mwya’r byd o’r math yma.  Eleni, mae disgwyl iddo ddenu mwy o arddangoswyr nag erioed, a dros 250,000 o ymwelwyr masnach. 
Bydd Gweinidog yr Economi yn ymuno â’r chwech o gwmnïau o Gymru sy’n arddangos ar stondin Llywodraeth Cymru, sy’n bwriadu manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd busnes a threfnu archebion newydd.   
Maent yn cynnwys y cwmni peirianneg o Wrecsam, y Tritech Group a gafodd werth oddeutu £10m o fusnes newydd yn Sioe Awyr Ryngwladol Farnborough. 
Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Ken Skates: 

“Dwi’n edrych ymlaen yn arw at fynd i Sioe Awyr Paris eleni ac ymuno â thim Aerospace a’r cwmnïau gwych o Gymru ar ein stondin.  Bydd Tritech, Faun Trackway, Spectrum Technologies, Denis Ferranti, Haydale ac LMg Solutions yn gweithio’n galed drwy gydol y digwyddiad i wneud cysylltiadau newydd a threfnu busnes newydd.   
“Mae’r diwydiant awyrofod eisoes yn sector o flaenoriaeth yng Nghymru.  Rydym yn ganolfan o ragoriaeth ar gyfer gweithgynhyrchu, awyrofod a gweithgareddau sy’n gysylltiedig â Cynnal a Chadw, Trwsio ac Archwilio, ac yn gartref i dros 160 o gwmnïau sy’n weithgar yn y sector.
“Yn wir mae rhai o’r enwau mwyaf yn y diwydiant awyrofod ac amddiffyn, gan gynnwys GE Aviation ac Airbus  wedi’u lleoli yng Nghymru, a gyda’i gilydd mae’r sector yn cyflogi dros 20,000 o bobl. “Mae Cymru yn gwneud llawer gwell na’r disgwyl ond rydym am barhau i adeiladu ar ein llwyddiant, ac mae cael Llywodraeth Cymru a chwmnïau o Gymru mewn digwyddiad proffil uchel fel Sioe Awyr Paris yn hollbwysig i helpu inni greu busnes newydd a chyfleoedd masnach, ac ysgogi twf yn y sector.  Rwy’n dymuno pob llwyddiant i’r chwech o gwmnïau sy’n arddangos yn sioe eleni.”