Neidio i'r prif gynnwy

Ysgrifennydd yr Economi yn siarad â busnesau am oblygiadau gadael yr UE

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn gynharach heddiw, bu Ysgrifennydd yr Economi’n cadeirio gweithgor cyntaf Cyngor Datblygu'r Economi, sy’n cynnwys cynrychiolwyr busnesau, TUC Cymru a Co-op Cymru. Cafodd y gweithgor ei sefydlu’n benodol i ystyried effaith gadael yr UE ar y sector busnes yng Nghymru. 


Dywedodd Ken Skates: 


“Dw’n falch o allu cadeirio’r gweithgor newydd hwn a fydd yn sicrhau y gall y sector busnes a’r Llywodraeth gydweithio â’i gilydd i’n helpu i ddeall yn well yr heriau a’r cyfleoedd a ddaw yn sgil gadael yr UE. 


“Mae Cyngor Datblygu’r Economi, a fforymau eraill, wedi bod yn trafod materion gadael yr UE yn rheolaidd ond bydd y grŵp newydd hwn yn sicrhau bod y trafodaethau hyn yn gallu arwain at  atebion ymarferol i gynnal busnesau yn ystod yr adeg dyngedfennol hon. 


“Ers y refferendwm, rydyn ni wedi bod yn cysylltu’n eang â busnesau ar draws Cymru er mwyn deall y risgiau a’r cyfleodd a ddaw wrth adael yr UE. Dim ond y bore 'ma bues i’n siarad â’n Cwmnïau Angori a’n cwmnïau canolig ffyniannus am y pwnc hwn. 


“Rydyn ni’n cydnabod wrth gwrs fod gan fusnesau bryderon ynghylch ansicrwydd y dyfodol ac ynghylch materion penodol sy’n ymwneud â bod yn rhan o’r Farchnad Sengl a thariffau a rhwystrau di-dariff. Ond bydd yna hefyd cyfleoedd a ddaw o adael yr UE ym maes caffael ac ar gyfer datblygu brand cryf i Gymru. Mae’n bwysig, felly, ein bod yn cydweithio i ystyried y cyfleoedd hynny. 


“Bydd y gweithgor hwn hefyd yn rhoi cyfle inni glywed amrywiaeth o safbwyntiau am flaenoriaethau’r sector o ran masnachu ar ôl gadael yr UE. Er ein bod yn gweithio’n galed i ddiogelu ein cyfran o’r fasnach Ewropeaidd wrth i’r broses adael barhau ac ar ôl gadael, gan bwysleisio cadw mynediad llawn a dirwystr at y Farchnad Sengl a chyfnod pontio esmwyth, byddwn hefyd yn rhoi cymorth i fusnesau sydd am weithio mewn marchnadoedd newydd a marchnadoedd sy’n ehangu ledled y byd. 

“Dim ond yr wythnos diwethaf, aeth grŵp o gwmnïau o Gymru ar daith fasnach i Qatar a Kuwait i geisio ehangu eu cyfran o farchnadoedd y Dwyrain Canol. Byddwn yn parhau i gydweithio â chwmnïau sydd am gynyddu eu hallforion, a’u cynnal yn ystod y cyfnod pontio Brexit."