Mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a’r Seilwaith, wedi cyhoeddi cynllun pum pwynt heddiw i gefnogi’r diwydiant bysiau yng Nghymru.
Mewn araith i gwmnïau trafnidiaeth amlwg, galwodd Ysgrifennydd yr Economi am ddull cydweithredol a chreadigol o sicrhau rhwydwaith bysiau o safon, sy’n deg ac yn gynaliadwy, ac sy’n gwasanaethu cymunedau tra’n sicrhau gwerth am arian i’r trethdalwr.
Meddai Ken Skates:
“Nid yw’n gyfrinach bod y diwydiant bysiau yn wynebau problemau. Er bod gwasanaethau bws lleol yng Nghymru wedi darparu 101 o deithiau dros y flwyddyn ddiwethaf, roeddwn yn siomedig o glywed bod tri cwmni bws lleol sy’n gwasanaethu rhai o’n cymunedau mwyaf gwledig, yn dod i ben.
“Wrth gwrs, rydym yn cydymdeimlo â’r gweithwyr y mae hyn yn cael effaith uniongyrchol arnynt hwy a’u teuluoedd, ond mae’n rhaid inni hefyd ystyried yr effeithiau cymdeithasol ac economaidd ehangach ar y cymunedau yr effeithir arnynt.
“Rwy’n benderfynol o wetihio gyda’r diwydiant, llywodraeth leol, a grwpiau teithwyr i ddarparu rhwydwaith fysiau sefydlog – sy’n rhoi’r hyder i bobl barhau i ddewis a defnyddio bysiau.
"Mae’r cynllun pum pwynt yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw wedi ei gynllunio i gefnogi’r diwydiant bysiau, a BBaCh yn benodol, i ddod yn fwy cynaliadwy a gallu goresgyn heriau economaidd dros dro. Bydd y cymorth hwn yn mynd law yn llaw â’r parhad yn y cyllid a ddarperir drwy ein Grant Cymorth i Wasanaethau Bysiau a’n cynlluniau teithio ar fysiau am ddim.”
O dan y cynllun newydd:
- Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth penodol, proffesiynol i bob cwmni bysiau yng Nghymru drwy Busnes Cymru a Cyllid Cymru, ac yn galw ar awdurdodau lleol i wneud pob ymdrech i ddiogelu eu cyllid ar gyfer gwasanaethau bysiau yn yr hinsawdd economaidd heriol bresennol.
- Yn eilbeth, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio’n broactif gydag awdurdodau lleol i nodi, cyn gynted â phosib, y gwasanaethau bws sy’n fregys o bosibl, a sefydlu strategaeth leol i ymateb i unrhyw wasanaethau y bwriedir eu dirwyn i ben, sy’n cael eu hysytried yn wasanaethau sy’n hanfodol i gynaliadwyedd a lles y gymuned leol.
- Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfarfod arweinwyr awdurdodau lleol yng Nghaerdydd a Chasnewydd, yn ogystal â Rheolwyr-gyfarwyddwyr eu cwmnïau bws trefol, i gasglu gwybodaeth ar sut y gellir cynnal y rhwydweithiau bws tra’n sicrhau bod y gymdeithas yn elwa’n ariannol o’r sefyllfa. Bydd yn gweithio hefyd gyda Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru, i sicrhau bod nodweddion gorau y sector masnachol preifat yn cael eu cyfuno gyda chyfrifoldeb cymdeithasol cwmnïau y sector cyhoeddus yng Nghymru.
- Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i sefydlu swyddi cydgysylltwyr bysiau newydd, un yng Ngogledd Cymru a’r llall yn y De, i ddod ag amrywiol haenau polisi a buddsoddi at ei gilydd, ac i helpu i ddatblygu y model statudol Partneriaeth Bysiau o Ansawdd.
- Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal Uwch-gynhadledd Gwasanaethau Bysiau ar ddechrau 2017. Bydd yr Uwch-gynhadledd yn dod ag awdurdodau lleol, cwmnïau bysiau, Defnyddwyr Bysiau Cymru, Cymdeithas Cludiant Cenedlaethol, grwpiau sy’n cynrychioli pobl anabl a rhanddeiliaid eraill i ystyried y ffordd orau o ddarparu gwasanaethau bysiau sy’n hyfyw yn ariannol ac yn gynaliadwy yn yr hirdymor.
Ychwanegodd Ysgrifennydd yr Economi:
“Mae’r cynllun pum pwynt hwn yn cynnig cymorth yn y tymor byr yn ogystal â chymorth i ystyried atebion hirdymor i’r diwydiant. Rwy’n hyderus y gallwn gydweithio i ddarparu rhwydwaith bysiau o safon, sy’n deg ac yn gynaliadwy ac sy’n cynnig y gwasanaethau y mae cymunedau ac unigolion ledled Cymru eu hangen ac yn eu haeddu.”