Mae Ken Skates, yn Qatar i gyfarfod â busnesau er mwyn creu cysylltiadau masnach a fydd yn sicrhau bod Cymru’n gallu manteisio ar y buddion economaidd a ddaw gyda'r gwasanaeth hedfan newydd.
Er mwy cryfhau ymhellach y cysylltiad rhwng Cymru a Qatar, mae Ysgrifennydd yr Economi’n mynd i gyfarfod briffio busnes Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei gynnal ar y cyd â Llysgenhadaeth Prydain, Qatar Airways a Maes Awyr Caerdydd ochr yn ochr â Gŵyl Brydeinig Qatar 2017.
Mae’r ymweliad yn rhan o waith parhaus Llywodraeth Cymru i helpu busnesau yng Nghymru ac yn Qatar i fanteisio ar y cyfleoedd i fasnachu ac allforio sy’n gysylltiedig â lansio gwasanaeth hedfan dyddiol newydd yn uniongyrchol rhwng Caerdydd a Doha, a fydd yn dechrau ym mis Mai.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi:
“Hwn yw fy ymweliad cyntaf â Qatar a dw i’n hapus iawn o gael y cyfle i siarad â’r gymuned fusnes yma am yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig tu hwnt i’w ffiniau.
Mae Cymru yn wlad groesawgar sy’n edrych tuag allan. Rydyn ni’n falch iawn o’n hanes o groesawu buddsoddwyr tramor uchel eu proffil ac allforio nwyddau o ansawdd uchel ar draws y byd.
“Mae lansio gwasanaeth hedfan uniongyrchol dyddiol rhwng Caerdydd a Doha y flwyddyn nesaf, yn ogystal â’r gwasanaeth hedfan uniongyrchol rhwng Manceinion a Doha sydd eisoes yn bodoli, sy’n cyfrannu at economi’r Gogledd, yn cynnig nifer fawr iawn o gyfleoedd inni gryfhau’r cysylltiadau rhwng ein dwy wlad.
“Rwy’n hyderus y bydd yr ymweliad hwn, yn ogystal â’r teithiau masnach a wnaed eisoes, yn ein helpu i greu cysylltiadau masnach newydd, cynyddu allforion a denu mwy o fuddsoddwyr. Rwy’n edrych ymlaen at weld busnesau yn ein dwy wlad yn elwa ar gydweithio â’i gilydd yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.”
Dywedodd Mr Ajay Sharma, Llysgennad Prydain i Qatar:
“Dw i wrth fy modd yn cael croesawu Mr Skates, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi a Thrafnidiaeth, i Doha er mwyn cryfhau ymhellach y cysylltiad rhwng Cymru a Qatar. Mae’r berthynas rhwng y DU a Qatar yn un gref iawn a bydd y teithiau awyr newydd rhwng Caerdydd a Doha yn cryfhau’r berthynas honno ymhellach. Mae’n bwysig bod pob rhan o’r DU yn elwa ar y cysylltiad â Qatar. Dw i’n sicr y bydd yr ymweliad hwn yn gwneud gwahaniaeth go iawn.”
Dywedodd Mr Ehab Amin, Prif Swyddog Masnachol Qatar Airways:
“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at lansio’n gwasanaeth hedfan dyddiol ac uniongyrchol i brifddinas Cymru'r flwyddyn nesaf. Hwn fydd ein gwasanaeth hedfan uniongyrchol cyntaf sy’n cysylltu Cymru a De-orllewin Lloegr yn rheolaidd â’n canolfan ryngwladol yn Doha. Mae Caerdydd yn gyrchfan o bwys strategol i Qatar Airways a bydd y llwybr newydd hwn yn sicr o ddod â manteision i deithwyr hamdden a busnes drwy eu cysylltu â’n rhwydwaith byd-eang cynyddol o fwy na 150 o gyrchfannau.
“I fusnesau yng Nghymru yn benodol, bydd y llwybr newydd hwn o fantais fawr gan y bydd yn gwella cyfleoedd i allforio a buddsoddi drwy gysylltu busnesau â marchnadoedd newydd ledled y byd drwy ddefnyddio’n cwmni hedfan llwyddiannus.”
Dywedodd Roger Lewis, Cadeirydd Maes Awyr Caerdydd:
“Mae sefydlu gwasanaeth hedfan dyddiol newydd Qatar Airways yn gam pwysig mawr i Faes Awyr Caerdydd. Bydd dylanwad pellgyrhaeddol y gwasanaeth hwn yn trawsnewid profiadau teithwyr a busnesau yng Nghymru a De-orllewin Lloegr.
“Bydd y gwasanaeth yn atgyfnerthu’r cysylltiad holl bwysig rhwng Qatar, Cymru a’r DU. Dw i’n hyderus y bydd busnesau yn Qatar yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd ardderchog i fasnachu a buddsoddi yma, a dw i’n edrych ymlaen at groesawu mwy o ymwelwyr â’n maes awyr o fis Mai nesaf.”