Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd yr Economi, wedi dweud ei fod yn optimistig y bydd y rhan fwyaf o'r rheini sy'n wynebu colli eu swyddi yng Nghanolfan Gyswllt Tesco House yn gallu cael hyd i waith arall yn y sector.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fis diwethaf, cyhoeddodd Tesco gyfnod ymgynghori ar gynlluniau i gau'r ganolfan gyswllt a allai arwain at golli 1100 o swyddi. 

Fel ymateb i hyn, sefydlodd Ysgrifennydd yr Economi Dasglu Tesco, gyda'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, cynrychiolwyr Gyrfa Cymru, Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru, DWP, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Undebau Llafur a swyddogion Llywodraeth Cymru yn aelodau ohono, i sicrhau bod y gweithwyr yn cael y cymorth gorau. Cafodd y Tasglu ei gyfarfod cyntaf wythnos ddiwethaf.  

Dywedodd Ken Skates:

"Mae cynlluniau Tesco i gau'r ganolfan gyswllt yng Nghaerdydd yn ergyd drom i staff galluog ac uchel eu clod. 

Er bod Tesco'n dal i ymgynghori ar y cynlluniau, mae yna rywfaint o obaith y gallan nhw newid eu meddyliau. Ond yn y cyfamser, rydyn ni'n gweithio gyda'r Tasglu i wneud popeth yn ein gallu i helpu a thawelu ofnau'r staff ar adeg gythryblus iawn yn eu bywydau.

Mae'n dda gen i ddweud, a hithau prin wythnos ers y cyfarfod cyntaf, ein bod wedi cael negeseuon cyfrinachol oddi wrth  ryw 20 o gwmnïau llwyddiannus yn y De bod ganddyn nhw ddiddordeb mewn cynnig cyfleoedd gwaith i staff Tesco. 

Mae hyn yn brawf cadarn iawn o'r hyn y gellid ei wneud o weithio mewn ffordd broactif a chydweithredol. Ein blaenoriaeth trwy'r haf fydd cynnal y momentwm hwn er mwyn inni allu sicrhau'r canlyniad gorau posibl i'r gweithwyr, pa beth bynnag fydd penderfyniad terfynol Tesco."