Bydd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, yn Llundain heddiw i gyfarfod â chynhyrchwyr o bwys ym maes rhaglenni teledu a ffilmiau.
Bydd hefyd yn hyrwyddo Cymru fel lleoliad o’r radd flaenaf ar gyfer cynhyrchu ffilmiau.
A hithau’n Wythnos Cymru yn Llundain, bydd Ysgrifennydd yr Economi yn tynnu sylw cynulleidfa o gynhyrchwyr dylanwadol ym maes rhaglenni teledu a ffilmiau at y llwyddiant mawr y mae Cymru wedi’i gael wrth ddenu cynyrchiadau fel Will, The Collection, Sherlock a Doctor Who.
Bydd hefyd yn lansio ffilm hyrwyddo newydd (Saesneg yn unig - dolen allanol), sy’n cael ei chyflwyno gan un o sêr mwyaf disglair Hollywood, Michael Sheen. Mae’r ffilm honno’n cynnwys clipiau o rai o’r cynyrchiadau mawr diweddaraf a wnaed yng Nghymru ac yn hyrwyddo popeth sydd gan Gymru i’w gynnig fel lleoliad ar gyfer cynhyrchu ffilmiau.
Mae'r ffilm yn cynnwys clipiau o The Bastard Executioner (Fox), The Collection (Lookout Point), Doctor Who (BBC) a Sherlock (Hartswood Films) ac uchafbwyntiau cynyrchiadau eraill a ffilmiwyd yng Nghymru, gan gynnwys Criminal, Me Before You, King Arthur: Legend of the Sword, Transformers: The Last Knight a The Man from U.N.C.L.E.
Mae'n cynnwys cyfweliadau gyda chynhyrchwyr, gan gynnwys Steven Moffat (Doctor Who; Sherlock), Jane Tranter, cyd-sefydlydd Bad Wolf, ac Oliver Goldstick (The Collection), sydd i gyd yn canmol manteision ffilmio yng Nghymru. Ymhlith y manteision hynny y mae lleoliadau arbennig, criwiau profiadol, cyfleusterau a llety gwych, ei haddasrwydd cyffredinol ar gyfer ffilmio a'r gefnogaeth sydd ar gael.
Mae lleoliadau'n chwarae rhan fawr yn y ffilm hyrwyddo hefyd, gan ddangos amlochredd a harddwch golygfeydd Cymru
Mae'r ffilm newydd yn adlewyrchu’r flwyddyn hynod brysur a llwyddiannus a gafodd Sgrin Cymru ‒ rhan o dîm Diwydiannau Creadigol Llywodraeth Cymru ‒ yn 2016. Deliodd â 386 o ymholiadau cynhyrchu a chofnododd fod dros £41 miliwn wedi cael ei wario yng Nghymru gan gynyrchiadau a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
“Dw i’n hynod falch cael bod yma yn Llundain yn ystod Wythnos Cymru yn Llundain i hyrwyddo’r ffaith bod Cymru, yn ddi-os,yn lleoliad o’r radd flaenaf ar gyfer ffilmio.
“Mae’r Diwydiant Creadigol yn rhan o’n heconomi sy’n tyfu’n aruthrol o gyflym ac roedd 2016 yn flwyddyn anhygoel ar gyfer cynhyrchu rhaglenni teledu a ffilmiau yng Nghymru ‒ ond rydyn ni’n benderfynol o barhau i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw.
"Mae'r ffilm yn offeryn hyrwyddo gwych a all ein helpu i gyrraedd y nod yn hynny o beth. Mae’n hoelio sylw ar bopeth y gall Cymru ei gynnig i gynhyrchwyr ffilmiau. Bydd yn cael ei defnyddio'n helaeth mewn digwyddiadau arbenigol drwy gydol y flwyddyn er mwyn targedu cynrychiolwyr allweddol yn y sector creadigol yn y DU a phob cwr o’r byd."
Dywedodd Michael Sheen:
“Gall Cymru gynnig y gorau o bopeth i gwmnïau ffilm. Dw i’n credu mai’r dechrau yn unig oedd llwyddiannau 2016. Mae dyfodol hynod gyffrous i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru.”