Neidio i'r prif gynnwy

Bu Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, yn cyfarfod â Steve Rotherham, Maer Metro rhanbarth Dinas Lerpwl i drafod gwella trafnidiaeth drawsffiniol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd Ken Skates hefyd yn awyddus i ddefnyddio ei amser yn Lerpwl i ddysgu gwersi gan y ddinas, wrth i Gymru weithio tuag at wireddu ei gweledigaeth o rwydwaith drafnidiaeth newydd, wedi'i hintegreiddio'n llawn ledled Cymru, a datblygu ei chynlluniau ar gyfer systemau metro yn Ne a De-ddwyrain Cymru. Mae hyn yn adeiladu ar gyfarfodydd diweddar gyda Meiri sydd yn gyfrifol am y Metro yn Manceinion a'r De Orllewin.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi:

"Gydag oddeutu miliwn o deithiau trawsffiniol pob mis rhwng Gogledd-ddwyrain Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr yn unig, nid oes amheuaeth bod teithio'n effeithiol ar draws y ffin yn hanfodol i economïau y ddwy ochr i'r ffin. Yn wir, fe wyddom fod posibilrwydd mawr o weld twf mewn swyddi yn yr ardal drawsffiniol hon.

"Dim ond pwysleisio yr angen am welliannau i'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus a'r rhwydwaith ffyrdd y mae hyn, ac rwyf wedi datgan yn glir i Steve Rotherham bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llawn i gydweithio gyda partneriaid yng Nghymru a Lloegr i ddatblygu system drafnidiaeth integredig sy'n bodloni anghenion pobl ar y ddwy ochr i'r ffin.  

"Caiff yr ymrwymiad hwn ei adlewyrchu yn ein gweledigaeth ar gyfer trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru a'n cynlluniau ar gyfer Metro Gogledd-ddwyrain Cymru sy'n cynnwys canolbwyntio'n gryf ar gysyllted drawsffiniol. Rwy'n gwybod bod cysylltiad cryf eisoes â phartneriaid ar y ddwy ochr i'r ffin i ddatblygu'r gwaith hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at ddatblygu hyn dros y misoedd nesaf.  

"Rhoddodd fy nghyfarfod gyda Steve hefyd y cyfle i ddysgu o brofiad Lerpwl i ddatblygu ei system drafnidiaeth ei hun sydd wedi gwella'r rhwydwaith cyhoeddus yn yr ardal, a bydd y trafodaethau hyn yn werthfawr wrth inni fynd ymlaen i ddatblygu ein cynlluniau ein hunain yng Nghymru. Cawsom drafodaeth gynhyrchiol hefyd ar sut y gallem gydweithio i ddenu busnesau newydd i'r ardal drawsffiniol.

"Mater arall yr oedd Steve a minnau yn ei drafod oedd yr angen mawr i sicrhau cydbwysedd unwaith eto o fewn economi y DU, ac i sicrhau bod buddsoddiad Llywodraeth y DU a ffyniant ehangach yn cael ei ledaenu yn gyffredinol.

"Mae'r mater hwn o danio economïau rhanbarthol yn thema allweddol o'm Cynllun Gweithredu Economaidd a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae'n rhywbeth yr wyf wedi ymrwymo iddo a thrwy gydweithio ar y cysylltedd HS2 cywir a materion eraill, rwy'n gwybod y gallai'r manteision posibl ar gyfer Gogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr fod yn drawsnewidiol."