Bu Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi yng Ngogledd Cymru heddiw i weld y gwahaniaeth y mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn ei wneud i economi a sgiliau y rhanbarth.
Agorodd Ysgrifennydd y Cabinet gyfleuster Hyfforddiant Awyrofod newydd Coleg Cambria, sydd wedi elwa o £2.7miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru, a bu’n ymweld â dau o gwmnïau lleol llwyddiannus sy’n cael eu cefnogi gan Raglen Llywodraeth Cymru, Cyflymu Twf gan Busnes Cymru.
Mae’r ganolfan Awyrofod newydd gwerth £3.36 miliwn, sy’n fenter ar y cyd rhwng Coleg Cambria a Phrifysgol Abertawe, yn golygu y gall myfyrwyr sy’n astudio ar y cyrsiau awyrenneg a pheirianyddol yn y rhanbarth ddefnyddio cyfleusterau hyfforddi modern o safon uchel iawn.
Bydd hefyd yn helpu i sicrhau bod gan gyflogwyr lleol yn y sector awyrenneg a pheirianyddol y gweithwyr medrus y maent eu hangen.
Aeth Ysgrifennydd yr Economi i Grŵp P&A yn Yr Wyddgrug, a’r Building Integrated Photovoltaic Company (BIPVco) sydd ar safle Gwaith Dur Tata yn Shotton, y ddau gwmni wedi eu derbyn ar raglen Llywodraeth Cymru, Cyflymu Twf gan Busnes Cymru.
Mae’r P&A Group yn fusnes teuluol llwyddiannus sydd wedi gweld cynnydd mewn trosiant flwyddyn ar ôl blwyddyn o hyd at 20% yn eu busnes coed dros y pum mlynedd diwethaf.
Mae’r Grŵp yn cyflogi 135 o bobl ac yn elwa o gymorth gan Lywodraeth Cymru i fanteision i’r eithaf ar y posibiliadau ar gyfer twf mewn marchnad gystadleuol. Drwy ei gynlluniau twf strategol am fwy o allforio a mewnforio dros y bum mlynedd nesaf, mae’n gobeithio creu mwy o swyddi i’r ardal leol.
Mae BIPVco yn Shotton gydweithrediad rhwng Prifysgol Aberatwe a TATA ac mae’n datblygu paneli ffotofoltäig y genhedlaeth nesaf gan ddefnyddio technoleg ffilm tenau CIGS (Copr, Indiwm, Galiwm a Selenide) i’w defnyddio ar baneli toeau dur ac aluminiwm.
Mae’r cwmni uwchdechnoleg hwn wedi derbyn £388 mil gan Lywodraeth Cymru eleni fydd yn cael ei ddefnyddio i helpu i ddiogelu swyddi presennol a chreu dros 70 o swyddi eraill erbyn 2021.
Meddai Ken Skates:
“Mae’r ymweliadau hyn yn tynnu sylw rhywun at y gwahaniaeth y mae buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn ei wneud i fywydau yma yng Ngogledd Cymru.
“Bydd y Ganolfan Addysg Uwch ar gyfer Awyrofod yn darparu cyfleuster modern i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau lefel uchel sy’n hanfodol yn economaidd.
“Mae’r sector awyrofod yn y DU yn ganolbwynt gweithgynhyrchu uwch, ac mae Cymru eisoes yn chwarae rhan hanfodol yn yr hyn y mae yn ei gyflawni. Bydd y ganolfan wych hon yn chwarae rhan bwysig o ran darparu yr arbenigedd a’r sgiliau galwedigaethol i gwmnïau ddatblygu gallu Cymru hyd yn oed ymhellach, a chadw ein manteision cystadleuol.
“Roeddwn hefyd yn falch iawn o ymweld â dau gwmni llwyddiannus sydd wedi eu derbyn i’n rhaglen Cyflymu Twf gyda Busnes Cymru, ac sy’n bwriadu ehangu a datblygu eu busnesau.
“Mae’r galw am fusnesau arloesol o Gymru yn fwy nag erioed o’r blaen, ac roeddwn wrth fy modd o glywed cynlluniau y cwmni i ddatblygu, fydd rwy’n siwr yn dod â manteision i’r rhanbarth.
“Mae ymweliadau heddiw yn enghraifft dda iawn o’r gwahaniaeth y mae cymorth Llywodraeth Cymru yn ei wneud yma yng Ngogledd Cymru.
“Rhwng 2012 a 2016, drwy Busnes Cymru, rhoddwyd cymorth i gynnal 2976 o swyddi ar draws chwe ardal awdurdod Gogledd Cymru, gan roi cymorth i 2659 o fentrau. Mae’n wych gweld effaith y cymorth hwn ar draws y rhanbarth.”