Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynlluniau newydd fydd yn gwella seilwaith yng Nghymru dros y 30 mlynedd nesaf a thu hwnt yn cael eu gosod allan heddiw gan Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Ysgrifennydd yr Economi am gyflwyno’i gynlluniau i sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru fydd yn rhoi cyngor ar anghenion strategol tymor hir Cymru am seilwaith.  Bydd hefyd yn dadansoddi’r anghenion hynny ac yn cynnig argymhellion.

Nod y Comisiwn newydd yw hwyluso a chryfhau’r broses benderfynu ar gyfer prosiectau mawr yng Nghymru a chreu’r amodau iawn ar gyfer buddsoddi sefydlog a thymor hir.

Unwaith y caiff ei sefydlu, bydd yn cynnig cyngor ar seilwaith economaidd ac amgylcheddol yng Nghymru, gan gynnwys ynni, trafnidiaeth, dŵr a charthffosiaeth, draenio, cyfathrebu digidol a rheoli llifogydd. 

Dywedodd Ken Skates am sefydlu’r Comisiwn: 

“Mae ystod ac ansawdd seilwaith gwlad yn hanfodol i les ei phobl.  Dyna pam rwy’n benderfynol o sicrhau bod gan Gymru’r systemau a’r gwasanaethau ffisegol angenrheidiol iddi allu gweithio’n effeithiol. 

“Yn wir, yn yr hinsawdd bresennol o ansicrwydd ariannol, mae’n bwysicach nag erioed i gryfhau’n trefniadau ar gyfer ystyried a blaenoriaethu’r seilwaith sydd ei angen ar Gymru. 

“Bydd sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol yn esgor ar strategaeth tymor hir sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith, gan gefnogi egwyddorion ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. 

“Bydd yn rhoi cyngor arbenigol a strategol annibynnol inni wrth inni benderfynu ar seilwaith, a’r un mod bwysig, bydd yn ein helpu i sicrhau bod Cymru’n cael gwerth ei harian yn y tymor hir.” 

Bydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru’n cyhoeddi adroddiad blynyddol ar ei waith yn ogystal â chynnal prosiectau unigol.  Bydd yn gweithio law yn llaw â Chomisiwn Seilwaith y DU lle bo’u cyfrifoldebau’n gorgyffwrdd. 

Llywodraeth Cymru fydd yn llunio Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru o hyd, ar sail y gwaith y Comisiwn. 

Mae sefydlu’r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol yn ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu. 

Yn ei dogfen ymgynghori, “Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru”, dywed Llywodraeth Cymru ei bod am weld y Comisiwn ar ei draed o fewn y 12 mis nesaf. 

Mae’n galw ar bartïon sydd â diddordeb i ddweud eu dweud ynghylch sut y dylai’r Comisiwn gael ei redeg erbyn 9 Ionawr 2017.