Mae diwylliant yn flaenoriaeth yng Nghymru a gall helpu i wella'r rhaniadau yn ein cymdeithas a ddaeth i'r amlwg yn ystod y refferendwm ar aelodaeth o’r DU a gynhaliwyd eleni.
Dyna oedd neges Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wrth iddo gyhoeddi 'Golau yn y Gwyll ‒ Gweledigaeth ar gyfer Diwylliant yng Nghymru' sy'n amlinellu ei ddyheadau ar gyfer Diwylliant yng Nghymru yn ystod Tymor y Cynulliad hwn.
Mae'r datganiad yn cadarnhau pa mor bwysig yw'r celfyddydau, cerddoriaeth, llenyddiaeth a threftadaeth i fywyd yng Nghymru.
Datblygwyd y datganiad er mwyn symbylu trafodaeth am rôl diwylliant yn ein cymdeithas yma yng Nghymru, er mwyn ysgogi syniadau gwych ac annog pobl i feddwl mewn ffyrdd arloesol, ac er mwyn annog pawb i gydweithio i sicrhau'r budd mwyaf posibl o fuddsoddiad y Llywodraeth mewn diwylliant.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi:
"Mae 'Golau yn y Gwyll: Gweledigaeth ar gyfer Diwylliant yng Nghymru' yn amlinellu fy nyheadau ar gyfer diwylliant yn ystod Tymor y Cynulliad hwn. Rydym yn gwybod yn barod bod diwylliant yn cyfoethogi'n bywydau, yn dod â phobl at ei gilydd ac yn gwella lles. Mae sefydliadau diwylliannol yn helpu i fynd i'r afael ag amryw o heriau eraill hefyd drwy'r gwaith y maen nhw'n ei wneud.
"Mae gennym gryn hanes o lwyddo ym maes diwylliant yn barod. Dw i am ddathlu ein hamryfal atyniadau diwylliannol, ein casgliadau eithriadol a'r arlwy bywiog a dwyieithog y mae'n talentau creadigol gorau yn ei greu.
"Ond dw i'n awyddus hefyd inni adeiladu ar ein llwyddiant ac i sicrhau bod mwy o bobl yng Nghymru yn cael eu cymell i gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol ac elwa ar y manteision cysylltiedig.
"Rydyn ni'n gwybod bod diwylliant yn grymuso pobl. Mae'n helpu pobl i fagu hyder, i feithrin sgiliau ac yn rhoi mwy o obaith iddyn nhw gael eu cyflogi. Yn ogystal â bod yn gynyddol pwysig i'n heconomi, mae hefyd yn gwneud cyfraniad hanfodol at feysydd allweddol eraill o fywyd cyhoeddus, gan gynnwys iechyd, addysg, ac adfywio.
“Mae gan ddiwylliant rôl allweddol i'w chwarae hefyd o ran uno'n gwlad. Dangosodd ganlyniad y Refferendwm ar aelodaeth o'r UE fod ein cymdeithas yn un rhanedig. Mae angen inni wella rhaniadau, a sicrhau bod pobl yn teimlo'n rhan o gymdeithas a'u bod yn cael eu grymuso. Dw i o'r farn y gallwn ni gymryd camau breision ymlaen tuag at gyrraedd y nod hwnnw drwy berswadio mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol.
“Mae gennym sylfaen dda o ran Diwylliant, ond dylen ni anelu'n uwch. Yn y pen draw, dw i am sicrhau mai Cymru fydd y genedl fwyaf gweithgar yn greadigol yn Ewrop.
“Oni bai ein bod yn ymdrechu i fod yn greadigol ac yn egnïol, fyddwn ni byth mor iach, mor fodlon neu mor hapus ag y gallen ni a dylen ni fod."
Ychwanegodd Dr Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:
“Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn llygad ei le. Nid rhyw bethau ychwanegol y mae’n braf eu cael, neu ychydig o hufen ar y gacen yw Diwylliant a’r Celfyddydau. Maen nhw’n gwbl greiddiol er mwyn creu cymdeithas wâr, fywiog ac iach. Mewn sawl man, y celfyddydau yw’r sment neu’r glud sy’n helpu i uno cymunedau ac i roi profiadau a sgiliau newydd i ddinasyddion o bob oed. Maen nhw’n hanfodol i ansawdd bywyd pobl yng Nghymru ‒ maen nhw’n gwbl ganolog ac yn diffinio pwy ydyn ni. Rydyn ni’n croesawu’r datganiad hwn heddiw ac yn edrych ymlaen at wireddu Gweledigaeth y Llywodraeth ar gyfer Diwylliant yng Nghymru, ac at ddenu hyd yn oed mwy o bobl Cymru i gymryd rhan egnïol a chreadigol yn y celfyddydau."
Mae enw'r datganiad yn adlais o eiriau'r bardd Dylan Thomas ac mae'n amlinellu sut y gall y sector diwylliant yng Nghymru, o gael y gefnogaeth a'r anogaeth briodol, weddnewid bywydau a chymunedau er gwell.
Mae hefyd yn rhestru'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu'u cymryd yn ystod tymor y Cynulliad hwn i gefnogi'r sector, ac yn nodi pa gyfraniad y mae'n disgwyl i'w phartneriaid ei wneud yn hynny o beth.