Neidio i'r prif gynnwy

Buddsoddiad o £9.6miliwn, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, a fydd yn creu dros 130 o swyddi dros y bum mlynedd nesaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, yn bresennol wrth ail-agor safle Sapa, y cwmni o Norwy, ym Medwas, fydd yn cynhyrchu elfennau alwminiwm ar gyfer y TX-5 - y cab Llundain newydd heb allyriadau.

Bydd hwn yn disodli'r cab du diesel gyda model sy'n creu pŵer trwy ategyn hybrid.

Caiff y buddsoddiad gefnogaeth £550,000 gan Lywodraeth Cymru, fu o gymorth i ddod â'r prosiect i Gymru, er gwaethaf y gystadleuaeth o leoliad arall yn Ewrop.

Bu Carwyn Jones yn cyfarfod uwch swyddogion o grŵp Sapa yn ystod ei ymweliad â Norwy ym mis Ionawr gan bwysleisio yr achos busnes dros ddod â'r buddsoddiad i Gymru.

Rhoddwyd y gorau i ddefnyddio'r safle ym Medwas yn 2014 yn dilyn newidiadau sylweddol i gyflwr y farchnad ond roedd Sapa yn parhau i fod yn berchennog arno. Daeth cyfle i ail-agor y safle pan gafodd Sapa Components UK, sy'n cyflenwi cydrannau alwminiwm i'r holl weithgynhyrchwyr cerbydau mawr, y contract i gyflenwi y cab Llundain newydd.

Bu Sapa yn cydweithio â'r London Electrical Vehical Company (LEVC) ers 2015 gan fuddsoddi'n sylweddol mewn gwaith ymchwil a datblygu prototeipiau a chydrannau alwminiwm ysgafn ar gyfer y cerbyd newydd.

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a'r Seilwaith:

"Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gefnogi buddsoddiad sylweddol Sapas wrth ailwampio ei safle ym Medwas, fydd yn creu o leiaf 130 o swyddi dros y pum mlynedd nesaf.  

"Mae gan Gymru enw da sy'n datblygu o gefnogi technolegau a chyfleoedd newydd arloesol, ac mae'r sector Cerbydau Carbon Isel yn faes arbennig sy'n datblygu ac yn is-sector allweddol yn ein diwydiant Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch.

"Dwi'n falch bod SAPA yn ail-agor ei ganolfan ym Medwas, ac yn falch y bydd Cymru yn chwarae rhan allweddol trwy gynhyrchu y genhedlaeth nesaf o gabiau du ecogyfeillgar."  

Meddai Calvin Carpenter, MD Sapa Components UK:

"Mae hwn yn ddiwrnod da gan ei fod yn ben llanw ar bron i 3 mlynedd o gydweithio gyda London Taxi trwy ei gyfnod datblygu i'n galluogi i ddarparu cydrannau pwysig ar gyfer cerbydau i'r ganolfan fodern yn Ansty, Coventry.”