Ar drothwy’r gêm rygbi ryngwladol ddydd Sadwrn, mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wedi bod ym Mhen-coed i ymweld â Sony, un o’r buddsoddwyr hynaf o Japan yng Nghymru.
Mae Sony wedi bod yn y De ers 1973 ac wedi elwa ar amrywiaeth o gymorth gan Lywodraeth Cymru. Y mae ar hyn o bryd yn cyflogi rhyw 400 o bobl yng Nghymru.
Mae ymweliad Ysgrifennydd yr Economi â Phen-coed yn dilyn ei drip diweddar i Japan lle ymwelodd â phrif swyddfa Sony yn Tokyo.
Meddai Ken Skates:
“Mae gêm dydd Sadwrn yn gyfle delfrydol inni ddathlu’r cysylltiadau cryf rhwng Cymru a Japan.
“Y llynedd, gwerth allforion Cymru i Japan oedd £290 miliwn ac maen nhw’n cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Hefyd, mae gan Japan ymrwymiad tymor hir i Gymru gyda’r cysylltiadau rhwng y ddwy wlad yn dyddio’n ôl i’r 1970au.
“Sony oedd un o’r cwmnïau cyntaf o Japan i ddod i Gymru ac mae wedi bod yn gyfrannwr pwysig at yr economi leol ac economi Cymru ers 1973. Felly, roeddwn yn falch o’r cyfle i ymweld â safle Pen-coed, siarad â’r tîm rheoli am eu cynlluniau ar gyfer y busnes ac i ddatgan eto bod cefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r cwmni’n parhau.
“Fis diwethaf, cefais y pleser o gael ymweld â Japan gyda thaith fasnach o Gymru. Dyna oedd ymweliad positif a’r arwyddion cyntaf yw bod y cwmnïau o ddaeth gyda’r daith fasnach yn hyderus y bydd yn arwain at fwy o fusnes iddyn nhw. Rwy’n disgwyl ymlaen at weld mwy o gysylltiadau masnach â Japan a’r berthynas wych rhyngom yn parhau, ar y cae ac oddi arno.”
Fel rhan o’i gwaith i feithrin cysylltiadau â Japan, mae Llywodraeth Cymru’n trefnu ymweliad hefyd gan y Llysgennad Etholedig â Japan, Mr Paul Madden
Bydd Paul Madden yn ymweld â’r cwmni Japaneaidd Formatt Hitech, cwmni ffilteri ‘optical’ yn Aberdâr sydd wedi bod yn cynhyrchu ffilteri ar gyfer y farchnad ffotograffiaeth, sinema a theledu am fwy na chwarter canrif.
Mae’r cwmni wedi elwa ar amrywiaeth o wahanol fathau o gymorth. Mae hynny wedi rhoi’r modd iddo ehangu a chynyddu’i allforion. Bellach mae ganddo 40 o weithwyr yng Nghymru a gwerthiant blynyddol o £2.5m.