Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, bod y cylch cyllido diweddaraf ar gyfer prosiectau twristiaeth arloesol i gefnogi Blwyddyn y Môr bellach ar agor ar gyfer cynigion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth (TPIF) a’r Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol (RTEF) yn helpu’r sector preifat a’r sector cyhoeddus i gydweithio i sefydlu mentrau sy’n canolbwyntio ar gyrchfannau a chynhyrchion newydd sy’n gysylltiedig â Blwyddyn y Môr 2018 a Blwyddyn Darganfod 2019. Mae mwy na £1 miliwn ar gael ar gyfer prosiectau cymwys. 

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet: 

“Rydyn ni’n chwilio am syniadau mawr ar gyfer prosiectau a all denu ymwelwyr â Chymru a sicrhau y daw Cymru yn gyrchfan "rhaid ei gweld". Ar gyfer Blwyddyn y Môr, rydyn ni’n awyddus i herio canfyddiadau drwy gynnig cynhyrchion, digwyddiadau a phrofiadau arloesol yr 21ain ganrif sy’n adrodd straeon gwych am ein cyrchfannau arfordirol amrywiol. Ein nod ar gyfer y flwyddyn yw dathlu arfordir godidog Cymru er mwyn sicrhau mai Cymru yw un o gyrchfannau gorau’r DU.”

Llwyddodd llawer o brosiectau yn Sir Ddinbych i sicrhau cyllid yn ystod y tair blynedd diwethaf megis: 

  • Mountain Bike Wales -  Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn allweddol er mewn darparu £350,000 o’r Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth i ddwyn ynghyd yr holl ganolfannau beicio mynydd yng Nghymru er mwyn sefydlu ‘Mountain Bike Wales’, sef siop un stop arloesol ar gyfer beicwyr o bob gallu. Mae’n hyrwyddo cyfleusterau sy’n agos i ganolfannau beicio mynydd, yn benodol Llandegla.  Mae’n annog ymwelwyr i aros yn hirach a chyfrannu at y twf mewn twristiaeth. 
  • MythFest Wales - Cafodd Grŵp Twristiaeth Bryniau Clwyd £40,000 o’r Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth i gynnal MythFest Cymru, gŵyl deuluol deithiol unigryw  sy’n dathlu mythau a chwedlau Gogledd Ddwyrain Cymru a’i chysylltiadau â’r môr, drwy adrodd storïau traddodiadol Cymru, a thrwy gerddoriaeth a chrefftau cynaliadwy. 
  • Mordeithiau - Mewn prosiect cydweithredol rhwng Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, mae’r Partneriaethau Rheoli Cyrchfan wedi datblygu rhestrau ymweliadau i ategu’r gwaith o ddenu llongau mordeithio i’r rhanbarth. Maen nhw wedi creu cysylltiadau â chwmnïau teithiau ym Mhorthladd Lerpwl a Chaergybi er mwyn denu mwy o fusnes y fasnach fordeithio. 

Dylid cyflwyno Datganiadau o Ddiddordeb erbyn dydd Gwener, 17 Tachwedd 2017 ar gyfer cylch cyllido 2018-2019 y Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth (TPIF) a’r Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol (RTEF). Bydd yn rhaid gwario’r holl gyllid erbyn mis Mawrth 2019.  

Darllenwch am brosiectau llwyddiannus a gafodd gymorth drwy’r TPIF and RTEF a gweld canllawiau’r cyllid yma.

Mae’r Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth (TPIF) a’r Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol (RTEF) yn cael eu cynnal gan Raglen Datblygu Gwledig Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, a chan Lywodraeth Cymru.