Mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi wedi bod yng Nghrymlyn i agor pencadlys rhyngwladol y cwmni gwyddorau bywyd, BBI Group.
Yn dilyn pecyn gwerth £1.8miliwn o gymorth gan Lywodraeth Cymru, mae'r cwmni wedi dewis tref Caerffili fel lleoliad ei bencadlys newydd byd-eang.
Mae’r cwmni wedi symud eu canolfan weithgynhyrchu a gweithgareddau datblygu o Flaenafon, Caerdydd a Dundee ac wedi creu pencadlys yng Nghrymlyn, ar safle newydd fodern.
Bydd symud i Grymlyn yn golygu y caiff dros 360 o swyddi eu diogelu a'u creu yng Nghymru erbyn 2020.
Golyga hyn, yn unol ag uchelgeisiau cynllun lefel uchel Llywodraeth Cymru, Ein Cymoedd Ein Dyfodol, bydd y ffaith bod BBI yn symud yn golygu cyfleoedd o safon uchel yng Nghymoedd De Cymru ac yn hwb sylweddol i'r economi leol.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
Fel cwmni llwyddiannus iawn gyda throsiant o dros £60 miliwn, a chwmni sy'n hynod llwyddiannus yn y sector gwyddorau bywyd ledled y byd, mae BBI Group eisoes yn gwmni llwyddiannus sydd wedi'i greu yng Nghymru.
Dwi'n falch iawn bod cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi galluogi'r cwmni i sefydlu ei bencadlys ryngwladol yma a chanoli ei weithgareddau gweithgynhyrchu a datblygu yng Nghrymlyn, gan ddod â chyfleoedd newydd o safon uchel ar gyfer swyddi yng Nghymoedd De Cymru.
Mae hyn yn cyd-fynd ag uchelgeisiau ein cynllun lefel uchel Ein Cymoedd Ein Dyfodol, a dyheadau fy Nghynllun Gweithredu Economaidd, sy'n anelu at sicrhau bod canlyniadau llewyrch economaidd yn fwy cyfartal ledled Cymru.
Mae'r Cynllun Gweithredu Economaidd hefyd yn glir ynghylch y cyfleoedd ar gyfer twf economaidd o ddenu pencadlys rhyngwladol i Gymru a'n huchelgais i adeiladu ar ein llwyddiant yn y maes hwn.
Dwi'n falch o weld cyfleuster modern BBI Group yng Nghrymlyn drosof fy hunan ac yn dymuno pob llwyddiant i'r cwmni yn ei gartref newydd.
Meddai Alan Peterson, Cadeirydd BBI Group:
Mae agor ein Pencadlys newydd byd-eang yn gam ymlaen sylweddol tuag at wireddu ein cynlluniau datblygu hirdymor strategol. Mae'n rhoi'r cyfle inni gystadlu yn fwy effeithiol â'n prif farchnadoedd yn Ewrop, yr UDA a Tsieina.
Mae'r safle yng Nghrymlyn yn galluogi BBI i sbarduno twf ein cwsmeriaid yn y dyfodol drwy ehangu ein capasiti i ddarparu deunyddiau cemegol a gwasanaethau pwysig ar gyfer y diwydiant diagnosteg gofal iechyd. Rydym yn falch iawn bod ein Pencadlys Rhyngwladol bellach ar agor a'n bod yn gallu cyfrannu at yr economi leol a chynnig cyfleoedd am swyddi o safon yn y gymuned leol.