Ymunodd plant ysgol o Sir y Fflint ag Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, heddiw i agor yn swyddogol y llyfrgell newydd yn Nhreffynnon.
Bydd y llyfrgell, yn ei chartref newydd yng Nghanolfan Hamdden Treffynnon, yn cynnig cyfleusterau modern a bywiog i drigolion lleol.
Mae Ken Skates yn gobeithio y bydd lleoliad y llyfrgell yng Nghanolfan Hamdden Treffynnon yn denu defnyddwyr newydd na fyddent efallai wedi meddwl mynd i lyfrgell mewn adeilad ar wahân.
Prosiect ar y cyd yw hwn rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint. Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £120,000 ar ei gyfer a Chyngor Sir y Fflint sy’n talu’r gweddill. Bydd y prosiect cyfan yn costio £235,580.
Ymunodd plant Ysgolion Cynradd Chwitffordd a Gwenffrewi Sant a’r Ysgrifennydd yr Economi yn ystod ei ymweliad. Dywedodd:
“Rwy’n falch iawn o’r cyfle hwn i agor y llyfrgell newydd hon yn Nhreffynnon. Dyma ffrwyth partneriaeth lwyddiannus rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint a bydd yn cynnig gwasanaethau modern a bywiog i bobl leol.
“Bydd ei lleoliad yn y ganolfan hamdden yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu, diwylliannol a hamddena newydd i bobl na fyddent efallai wedi ymweld â llyfrgell leol o’r blaen.
“Mae hwn yn fater y mae gen i ymrwymiad mawr iddo gan y bydd yn helpu i sicrhau dyfodol tymor hir y llyfrgell yn ogystal â sicrhau bod mwy o bobl yn cael manteisio ar wasanaethau rhagorol Llyfrgell Treffynnon.
“Mantais arall agor y llyfrgell yn yr un lle â’r ganolfan hamdden yw y bydd rhai o’i gwasanaethau ar gael hyd yn oed pan na fydd staff yn gweithio yn y llyfrgell – rhywbeth fydd yn denu mwy byth o ddefnyddwyr.”
Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton:
“Rwy’n falch iawn gweld y llyfrgell yn symud i’w chartref newydd yn y ganolfan hamdden. Mae’r ganolfan fodern yn Nhreffynnon yn debyg i’r un agorodd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy llynedd.
“Mae lleoli’r ddau yn yr un lle yn golygu bod amrywiaeth ehangach o wasanaethau ar gael i gwsmeriaid mewn un lle cyfleus. Mae’r datblygiad yn cefnogi rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol y Cyngor.”
Yn yr agoriad swyddogol roedd Ysgrifennydd yr Economi hefyd yn dyst i arwyddo cytundeb gydweithredol ar gyfer Canolfan Hamdden Treffynnon fydd yn golygu y caiff ei gyflwyno yn ôl i’r gymuned. Mae’r cytundeb rhwng Cyngor Sirol Sir y Fflint a Grŵp Canolfan Hamdden Treffynnon, gyda Cyngor Tref Treffynnon yn darparu cyllid yn ystod 2017/18.