Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bydd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi ym Mharc Cleppa yn agor Carpeo Estates Planning yn swyddogol. Mae’r cwmni yn ceisio symleiddio y broses o wneud ewyllysiau a chynllunio angladdau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cychwynnodd Carpeo weithio yng Nghasnewydd ym mis Gorffennaf, yn cyflogi 24 o bobl yn y ganolfan gyswllt newydd yno.

Dri mis yn ddiweddarach, ar ddiwrnod y lansiad swyddogol, mae 80 o bobl yn gweithio ar y safle ym Mharc Cleppa, ac mae’r cwmni ar y ffordd i gyrraedd y targed o gyflogi 300 o bobl yno erbyn 2022. 

Bu’r cwmni’n pendroni rhwng Teeside a Chymru wrth benderfynu ar leoliad y prosiect hwn. Dewiswyd Casnewydd ar ôl i Lywodraeth Cymru gynnig ei chefnogaeth. 

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: 


“Pleser yw agor swyddfa gyntaf Carpeo Estates Planning yn swyddogol. 
“Mae’r cwmni yn ddeinamig ac mae ganddynt gynlluniau twf uchelgeisiol. Mae Carpeo, felly yn ychwanegiad gwerthfawr i’n sector gwasanaeth cwsmeriaid, sy’n mynd o nerth i nerth ac yn cyflogi mwy na 30,000 o bobl mewn dros 200 o ganolfannau ledled Cymru.
“Fel Llywodraeth, rydym wedi cydweithio â Carpeo i gefnogi eu cynlluniau busnes a darparu cyfleoedd cyflogi a hyfforddiant cryf. Bydd cynlluniau Carpeo i gyflogi 300 o bobl yma yng Nghasnewydd erbyn 2022 yn eu gwneud yn gyflogwr lleol o bwys. Pob lwc iddynt.”

Dywedodd Mike Minahan, Prif Swyddog Gweithredol Carpeo Estate Planning: 
“Drwy fod yn aelod o fwrdd Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru dros y 15 mlynedd diwethaf, rwy’n gwybod bod gan Gymru nifer o fanteision cystadleuol i’w cynnig i fusnesau canolfannau cyswllt.  Mae rhinweddau’r bobl sydd ar gael, a’u profiadau o weithio ym marchnad y gwasanaethau a reoleiddir, yn fantais enfawr.  Yn ogystal, mae acen pobl Cymru yn gydymdeimladol a chysurlon, rhywbeth sy’n bwysig iawn yn ein marchnad ni.
"Rydym yn falch dros ben o gael cynnig swyddi â thâl da, a chyfleodd gwaith, i Gasnewydd.” 

Am ffi fach fisol, mae pobl sy’n aelodau o wasanaeth newydd Carpeo Estate Planning, sy’n seiliedig ar danysgrifiad, yn gallu manteisio ar wasanaethau fforddiadwy ar gyfer ysgrifennu ewyllys neu drefnu angladd.  Gall aelodau hefyd ddefnyddio porthol disgownt er mwyn arbed miloedd o bunnau bob blwyddyn ar gyfer eu siopa cartref, gan gynnwys yn archfarchnadoedd Tesco, Sainsbury’s, Morrisons ac Asda. 

Defnyddir meddalwedd arloesol ddibynadwy i adnabod y bobl hynny y mae’r adnoddau a’r gwasanaethau hyn yn arbennig o berthnasol ar eu cyfer ac mae marchnad bosibl o 3 miliwn o bobl wedi’i nodi.