Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wedi ailadrodd ei ymrwymiad i adeiladu rhwydwaith mwy effeithlon o wasanaethau bysiau i Gymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae hefyd wedi croesawu diwygiad Adran Drafnidiaeth y DU i'r Bil Gwasanaethau Bysiau, a fydd yn sicrhau gwybodaeth well ar fysus i bobl anabl, sef rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gefnogi ers 2013. 

Wrth siarad ag Aelodau'r Cynulliad, dywedodd Ken Skates: 

"Gwasanaethau bysiau lleol rheolaidd yw sail ein system trafnidiaeth gyhoeddus, sy'n caniatáu pobl ar draws Cymru i gyrraedd y gwaith, apwyntiadau ysbyty, sefydliadau addysg a gweithgareddau hamdden.  

Yn sicr, rydym yn gwybod bod bysiau yn dal i gludo dros 101 miliwn o deithwyr bob blwyddyn, sy'n sylweddol uwch na nifer y  teithiau ar drenau. 

"Rydym yn ymrwymedig i greu rhwydwaith mwy effeithiol o fysus ac i gefnogi'r diwydiant bysiau yn y tymor byr drwy'r cyfnodau anodd hyn. 

"Fis diwethaf yn dilyn colli tri chwmni bysiau lleol a oedd yn gwasanaethu ein cymunedau gweledig, fe wnes i gyhoeddi cynllun pum pwynt i gefnogi'r diwydiant bysiau yng Nghymru.

"Mae hyn yn cynnwys cynnig cymorth proffesiynol pwrpasol i bob cwmni bysiau yng Nghymru drwy Fusnes Cymru a Chyllid Cymru, a galw ar awdurdodau lleol i wneud pob ymdrech i ddiogelu gwasanaethau bysiau yn y cyfnod economaidd anodd hwn. 

"Rwyf hefyd am i ni weithio gydag awdurdodau lleol i nodi’r gwasanaethau bysiau sydd dan fygythiad cyn gynted â phosib er mwyn i ni allu ymateb yn gyflym os bydd cynlluniau i ddod â gwasanaeth i ben. Gydag hyn mewn cof, rwyf wedi neilltuo cyllid i greu swyddi cydlynwyr bysiau yn y gogledd ac yn y de er mwyn trefnu gwaith ar bolisi a buddsoddi a datblygu'r model Partneriaeth Ansawdd Bysiau Statudol.  

"Bydda i hefyd yn cynnal uwchgynhadledd bysiau yn gynnar y flwyddyn nesaf gydag awdurdodau lleol, gweithredwyr bysiau, grwpiau i gynrychioli teithwyr a phobl anabl, y Gymdeithas Cludiant Cymunedol ac eraill i ystyried y ffordd fwyaf ariannol hyfyw a chynaliadwy i gynnal gwasanaethau bysiau.

"Rwy'n ymwybodol, er enghraifft, bod gan weithredwyr bysiau llai yn rhai o'n cymunedau gweledig broblemau yn recriwtio gyrwyr a staff cynnal a chadw ac i gael cerbydau a chyfleusterau depo newydd. Rhain yw'r materion rwyf yn awyddus i'w harchwilio yn yr uwchgynhadledd."

Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi cefnogi cynigion yr Adran Drafnidiaeth, fel rhan o'r Bil Gwasanaethau Bysiau, i ddiwygio Deddf Cydraddoldeb 2010 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr bysiau ddarparu gwybodaeth i deithwyr anabl ar y bysiau. 

Meddai:

"Yma yng Nghymru rydym wedi cefnogi systemau cyhoeddi'r safleoedd bysiau nesaf yn glyweledol, er mwyn gwella pethau i bobl sy'n ddall, sy'n fyddar neu sydd â nam ar eu synhwyrau, ers 2013. Mae hyn wedi cynnwys annog gweithredwyr bysiau i osod systemau o'r fath fel rhan o'n Safonau Ansawdd Bysiau Cymru. 

"Rwy'n gefnogol iawn o'r ymrwymiad diweddar hwn gan Lywodraeth y DU i’w gwneud hi'n ofynnol i ddarparu gwybodaeth hygyrch ar fysus i deithwyr anabl, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr yn Lloegr a'r Alban  er mwyn sicrhau bod gwybodaeth hygyrch o safon i deithwyr ar gael yn gyffredinol ar draws Prydain Fawr."